Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Newidiadau i Bensiwn y Wladwriaeth o 6 Ebrill 2010 ymlaen

Bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn newid o 6 Ebrill 2010 ymlaen.  Golyga hyn y bydd mwy o bobl yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth. Yma, cewch wybod am y newidiadau pwysicaf a beth fyddant yn ei olygu i chi.

Bod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth

O fis Ebrill 2010 ymlaen, bydd y ffordd o fod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth yn newid:

  • bydd yn haws i rieni a gofalwyr gronni blynyddoedd cymwys o Yswiriant Gwladol a chael Pensiwn y Wladwriaeth
  • i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, dim ond 30 blwyddyn gymwys o gyfraniadau Yswiriant Gwladol fydd arnoch ei angen

(Ar hyn o bryd, mae ar ddynion angen 44 mlynedd ac mae angen 39 mlynedd ar fenywod fel arfer.)

  • ar ôl i chi gronni un flwyddyn gymwys o Yswiriant Gwladol, byddwch yn gymwys i gael o leiaf rhywfaint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Os ydych chi dros 55 mlwydd oed, neu os ydych chi'n gofalu am rywun, dylech edrych sut y gallai'r newidiadau effeithio arnoch chi. Dylech hefyd edrych i weld a oes angen i chi gymryd camau nawr.

Beth mae'r newidiadau yn ei olygu i chi

Mae beth y mae hyn yn ei olygu i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae rhai o'r enghreifftiau pwysicaf ar y dudalen hon.

Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr

Efallai y gall pobl sy'n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny gronni'r hawl i dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth drwy'r credydau Yswiriant Gwladol newydd. Dyma'r rhai a allai fod yn gymwys ar eu cyfer:

  • rhieni a chanddynt blentyn dibynnol o dan 12 mlwydd oed
  • gofalwyr maeth cymeradwy
  • pobl sy'n gofalu am bobl ddifrifol anabl am o leiaf 20 awr yr wythnos.

Caiff unrhyw ddyfarniadau Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (DCC) sydd gennych o'r gorffennol eu trosi'n flynyddoedd o gredydau.

Os ydych chi'n agos at oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych chi'n agos at oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd effaith y newidiadau yn dibynnu ar pryd byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Dylech edrych i weld beth mae'r newidiadau'n ei olygu i chi. Gall y Proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth eich helpu i weld beth mae hyn yn ei olygu i chi.

Os ydych chi'n briod neu'n bartner sifil

Ar hyn o bryd, gall rhai menywod priod gael rhagor o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ar sail hawl eu gwŷr. Gan ddechrau ar 6 Ebrill 2010, bydd dynion priod a phartneriaid sifil hefyd yn cael gwneud hyn. Hefyd, ni fydd yn rhaid i chi aros nes i'ch gŵr, gwraig neu bartner hawlio Pensiwn y Wladwriaeth.

Os oes oedolyn sy'n ddibynnol arnoch yn ariannol

O 6 Ebrill 2010 ymlaen, ni fydd hi bellach yn bosib hawlio cynnydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth chi ar gyfer oedolyn arall. Gelwir hyn yn 'Gynnydd ar gyfer Oedolion Dibynnol'. Cynnydd ydyw yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer gwraig, gŵr neu rywun sy'n gofalu am eich plant, os ystyrir ei fod yn ddibynnol arnoch yn ariannol.

Os oes gennych eisoes hawl i'r cynnydd hwn ar 5 Ebrill 2010, cewch ei gadw tan nad ydych yn bodloni'r amodau ar gyfer y cynnydd mwyach neu tan 5 Ebrill 2020, pa un bynnag ddaw gyntaf.

Os byddwch yn dechrau hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, ni fyddwch yn gallu hawlio cynnydd ar gyfer oedolyn sy'n ddibynnol arnoch yn ariannol pan fyddwch o'r diwedd yn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth.

Os byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010

Os ydych chi'n dymuno cael Cynnydd ar gyfer Oedolion Dibynnol mae'n rhaid i chi wneud y canlynol erbyn 5 Ebrill 2010:

  • hawlio Pensiwn y Wladwriaeth a sefydlu eich hawl
  • anfon eich cais ysgrifenedig am Gynnydd ar gyfer Oedolion Dibynnol

Gallech anfon eich cais am Gynnydd ar gyfer Oedolion Dibynnol heddiw, ac mae'n rhaid i'ch canolfan bensiynau ei gael erbyn 5 Ebrill 2010.

Cofiwch y bydd angen i chi bostio eich cais yn gynnar oherwydd gŵyl banc y Pasg. Os caiff eich canolfan bensiynau eich cais ar 6 Ebrill neu'n ddiweddarach, efallai na chewch chi'r Cynnydd ar gyfer Oedolion Dibynnol.

Os ydych chi eisoes yn cael Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych chi eisoes yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, neu os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010, ni fydd y newidiadau i Bensiwn y Wladwriaeth yn cael llawer o effaith arnoch.

Fodd bynnag, un newid a fydd yn effeithio arnoch chi yw y bydd Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu'n unol ag enillion o 2012 ymlaen, ar y cynharaf. Bydd hyn yn golygu y dylai godi'n gyflymach bob blwyddyn nag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd.

Os ydych chi'n gymwys i gael Credyd Pensiwn

Os ydych chi'n 60 mlwydd oed neu drosodd ac yn byw ym Mhrydain Fawr, efallai bod gennych chi'r hawl i gael Credyd Pensiwn. Mae'n sicrhau y caiff pobl 60 oed neu hŷn y lefel isaf o incwm. Mae hefyd yn gwobrwyo'r rhai hynny sydd wedi cynilo ychydig tuag at eu hymddeoliad.

O 2008 ymlaen, bydd y sicrwydd isaf safonol mewn Credyd Pensiwn yn parhau i godi'n unol ag enillion.

Gan ddechrau ar 6 Ebrill 2010, bydd yr oedran y gallwch gael Credyd Pensiwn yn codi'n raddol o 60, yn unol â'r newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Newidiadau i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Mae Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth hefyd yn newid, er na fydd y newidiadau yn cael eu rhoi ar waith tan ar ôl mis Ebrill 2010.

Allweddumynediad llywodraeth y DU