Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pwy i gysylltu â nhw yn y Gwasanaeth Pensiwn

Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn darparu amrywiaeth eang o wybodaeth ynghylch Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Pensiwn, Taliad Tanwydd Gaeaf a budd-daliadau cysylltiedig. Dyma rai ffyrdd o gysylltu â’r person cywir naill ai dros y ffôn neu dros e-bost.

Eich canolfan bensiynau

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gall eich canolfan bensiynau ateb cwestiynau cyffredin ynghylch y canlynol:

  • hawlio Pensiwn y Wladwriaeth
  • hawlio Credyd Pensiwn
  • hawliadau cyfredol ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth neu Gredyd Pensiwn

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch anfon ymholiadau at yr Adran Datblygu Cymdeithasol.

Newid mewn amgylchiadau

Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, Pensiwn i Bobl dros 80 neu Gredyd Pensiwn a bod eich amgylchiadau wedi newid, cysylltwch â’ch canolfan bensiynau neu’r Gwasanaeth Pensiwn.

Taliad Tanwydd Gaeaf

Os ydych yn hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf, mae meini prawf arbennig a llinell gymorth bwrpasol ar gael i chi

Budd-daliadau ac ymholiadau o dramor

Gall eich Canolfan Bensiwn Ryngwladol eich helpu:

  • os ydych yn byw dramor a bod gennych gwestiynau ynghylch taliadau Pensiwn y Wladwriaeth, budd-daliadau profedigaeth, budd-daliadau analluogrwydd a budd-daliadau eraill
  • os ydych yn byw yn y DU ac yn byw neu’n gweithio mewn gwledydd eraill sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU

Ymholiadau am ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth

Os hoffech gael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch hynny, gall tîm rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth eich helpu.

Cymorth technegol gyda rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth

Os oes angen cymorth technegol arnoch wrth ddefnyddio’r gwasanaeth rhagolwg pensiwn, cysylltwch â desg gymorth yr E-wasanaethau. Er enghraifft, gall y ddesg gymorth eich helpu os ydych yn cael trafferth defnyddio neu gael gafael ar wasanaeth rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth.

Ymholiadau am y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau

Os ydych wedi colli cysylltiad â chynllun pensiwn personol neu bensiwn cwmni, gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau eich helpu.

Gwasanaeth wyneb-yn-wyneb

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, mae Pwyntiau Gwybodaeth Gwasanaeth Lleol yn darparu gwasanaeth wyneb-yn-wyneb i gwsmeriaid mewn lleoliadau cyfleus.

Gallwch drefnu apwyntiad gyda staff Gwasanaeth Lleol i drafod materion megis:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Gweini
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Cyngor
  • hawliadau a gwasanaethau eraill i bensiynwyr

Cewch daflenni hefyd ar y budd-daliadau a’r gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Pensiwn.

Materion iaith

Os nad ydych am siarad Saesneg, gallwch ddefnyddio eich cyfieithydd eich hun neu gall y ganolfan bensiynau ddarparu un ar eich cyfer.

Taflenni braille, print bras a thapiau sain

Os oes gennych nam ar eich golwg neu’ch clyw, mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn darparu ystod o wybodaeth mewn fformatau eraill. Holwch eich swyddfa bensiynau neu swyddfa nawdd cymdeithasol, neu gallwch ofyn am fformatau eraill dros y ffôn neu ffôn testun.

Sut mae cwyno wrth y Gwasanaeth Pensiwn

Os ydych yn anfodlon â rhywbeth y mae’r Gwasanaeth Pensiwn wedi’i wneud, neu heb ei wneud, mae croeso i chi gysylltu â’ch canolfan bensiynau

Allweddumynediad llywodraeth y DU