Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth - cymryd Pensiwn y Wladwriaeth yn ddiweddarach

Os byddwch yn gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch naill ai ennill Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu gael un cyfandaliad trethadwy. Mae gwybod pa opsiynau sydd gennych yn help i chi wneud penderfyniadau gwell pan gyrhaeddwch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Beth yw gohirio Pensiwn y Wladwriaeth?

Ystyr gohirio Pensiwn y Wladwriaeth yw eich bod yn dewis peidio â hawlio Pensiwn y Wladwriaeth wrth gyrraedd oedran Pensiwn tan rywbryd yn y dyfodol. Hefyd, fe gewch ddewis peidio â'i hawlio ar ôl ei hawlio am gyfnod. Ers cyflwyno Pensiwn y Wladwriaeth, mae pobl wedi gallu ennill Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth drwy ddilyn y drefn hon.

Mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei bennu drwy gyfraith. Yr oedran i ddynion a aned ar 5 Ebrill 1959 neu cyn hynny yw 65, a'r oedran i fenywod a aned ar 5 Ebrill 1950 neu cyn hynny yw 60. Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a aned ar 6 Ebrill 1950 neu ar ôl hynny ond cyn 6 Ebrill 1955 yn codi o 60 i 65 rhwng 2010 a 2020. Oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a aned ar 6 Ebrill 1955 neu ar ôl hynny ond cyn 6 Ebrill 1959 yw 65. Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn codi i ddynion a menywod o 65 i 68 rhwng 2024 a 2046.

Nid yw'r oedran ymddeol o'r gwaith yn effeithio ar y dyddiad y cewch chi ddechrau hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Mwy o ddewis wrth ohirio Pensiwn y Wladwriaeth

Mae pobl bellach yn byw'n hwy ac yn byw bywydau iachach ac felly mae'n gwneud synnwyr i'w gwneud yn haws gweithio'n hyblyg ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Er 6 Ebrill 2005, os byddwch chi'n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth (os ydych chi'n gweithio ai peidio) cewch ddewis un o'r opsiynau canlynol wrth hawlio.

Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Os byddwch chi'n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am bum wythnos o leiaf, fe allwch ennill cynnydd o 1 y cant ar Bensiwn y Wladwriaeth am bob pum wythnos y byddwch chi'n gohirio hawlio. (Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 10.4 y cant yn ychwanegol am bob blwyddyn y byddwch yn gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth. )

Cyfandaliad

Os byddwch chi'n gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 12 mis yn olynol, a'r rheini i gyd ar ôl 5 Ebrill 2005, cewch ddewis cael un cyfandaliad a Phensiwn y Wladwriaeth ar y gyfradd arferol. Seilir y cyfandaliad, pan fyddwch yn ei hawlio, ar y Pensiwn y Wladwriaeth y byddech wedi'i gael bob wythnos yn arferol, yn ogystal â'r adlog ychwanegol ar gyfer pob wythnos.

Gallwch ohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth gyhyd ag y dymunwch chi er mwyn i chi ennill Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu gael cyfandaliad. Os ydych chi'n cael budd-daliadau eraill am unrhyw un o'r wythnosau yr ydych yn dewis peidio â hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, ni fydd yr wythnosau hynny'n cyfrif at eich cyfnod gohirio, a ddefnyddir i gyfrifo eich pensiwn ychwanegol neu'ch cyfandaliad.

Newidiadau i'r rheolau sy'n effeithio ar ohirio

Gan ddechrau ar 6 Ebrill 2010, ni fydd yn bosib hawlio cynnydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth chi ar gyfer oedolyn arall. Gelwir hyn yn 'gynnydd ar gyfer oedolion dibynnol'. Cynnydd ydyw yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer gwraig, gŵr neu rywun sy'n gofalu am eich plant, os ystyrir ei fod/bod yn ddibynnol arnoch yn ariannol.

Os oes gennych eisoes hawl i'r cynnydd hwn ar 5 Ebrill 2010, cewch ei gadw tan nad ydych yn bodloni'r amodau ar gyfer y cynnydd mwyach neu tan 5 Ebrill 2020, pa un bynnag ddaw gyntaf.

Os byddwch yn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu wedi hynny, ni fyddwch yn gallu hawlio cynnydd ar gyfer oedolyn sy'n ddibynnol arnoch yn ariannol pan rydych o'r diwedd yn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth.

Beth os cyrhaeddoch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn mis Ebrill 2005?

Os cyrhaeddoch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn mis Ebrill 2005 a'ch bod wedi dechrau hawlio'r Pensiwn, cewch ddewis canslo'ch hawliad er mwyn adeiladu'ch hawl i gael Pensiwn ychwanegol y Llywodraeth neu gyfandaliad.

Sylwch na allwch chi ond canslo'ch hawliad unwaith fel hyn a dim ond os ydych chi fel arfer yn byw yn y DU. Mae'n bosib y bydd y dewis hwn ar gael i chi hefyd os ydych chi'n byw yn Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir, a'ch bod naill ai'n ddinesydd yn un o'r gwledydd hynny neu fod gennych yr hawl i fyw yno drwy ryw drefniant arall.

Os nad ydych wedi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, pan fyddwch yn ei hawlio yn y pen draw, fe gewch gynnydd ar gyfer y cyfnod hyd at 6 Ebrill 2005 ar sail hen gyfradd Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth (oddeutu 7.5 y cant ar gyfer blwyddyn gyfan). Ar gyfer y cyfnod ar ôl y dyddiad hwnnw, byddwch yn gymwys naill ai i gael cynnydd ar sail y gyfradd newydd ar gyfer Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth (oddeutu 10.4 y cant am flwyddyn gyfan) neu, os byddwch chi'n parhau i ohirio'r hawliad am 12 mis arall, i gael cyfandaliad.

Dewis gohirio Pensiwn y Wladwriaeth - beth i'w wneud

Os nad ydych chi wedi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth eto ond eich bod yn dymuno gwneud hynny, does dim rhaid i chi wneud dim byd. Ond bydd angen i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn beth yr ydych am wneud os ydych chi’n hawlio budd-dal nawdd cymdeithasol yn barod.

Os ydych chi eisoes yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, ond yr hoffech roi'r gorau i'w hawlio er mwyn ennill Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu gael cyfandaliad, dylech gysylltu â'ch canolfan bensiwn. Bydd y rhif ffôn ar unrhyw lythyrau a gawsoch gan eich canolfan bensiwn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU