Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth

Ceir dwy ffordd y gallwch gael gwybod faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael. Gallwch ddefnyddio amlinellydd Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein i gael rhagolwg cyflym o’ch Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, neu gallwch wneud cais am ragolwg cyflawn o Bensiwn y Wladwriaeth.

Beth mae amlinellydd Pensiwn y Wladwriaeth yn ei ddweud wrthyf?

Mae’r amlinellydd Pensiwn y Wladwriaeth yn declyn syml. Mae’n eich helpu i amcangyfrif yn gyflym faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y gallech chi fod wedi cronni hyd yma, a pha bryd y gallwch wneud cais amdano. Hefyd byddwch chi’n gweld sut yr effeithir arnoch gan newidiadau i Bensiwn y Wladwriaeth.

Beth mae rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth yn ei gynnwys?

Mae rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi gwybodaeth fwy cynhwysfawr ynghylch faint y gallech gael pan gyrhaeddwch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae’n seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ac mae’n rhoi amcangyfrif o’r:

  • Pensiwn sylfaenol a gewch chi gan y Wladwriaeth
  • Pensiwn ychwanegol a gewch chi gan y Wladwriaeth (a elwir hefyd yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth ac a elwid yn flaenorol yn Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS))

Gweler ‘Deall eich rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth’ i gael gwybodaeth bwysig ynghylch newidiadau i reolau a all effeithio ar Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Yn benodol, bydd eich rhagolwg yn rhoi:

  • nifer y blynyddoedd cymwys sydd gennych ar hyn o bryd (nifer y blynyddoedd rydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol neu wedi'ch credydu â nhw)
  • amcangyfrif o werth presennol y Pensiwn a gewch gan y Wladwriaeth, sydd wedi’i seilio ar yr wybodaeth sydd ar eich cofnod Yswiriant Gwladol
  • amcangyfrif o faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych chi’n debygol o’i gael pan fyddwch chi’n cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, sydd wedi’i seilio ar dybiaethau a wnaed am fwy o gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych chi’n debygol o’u gwneud, neu gael eich credydu â nhw, rhwng amser cyhoeddi'r rhagolwg a phan fyddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth
  • rhagolwg o faint y gallech ei gael drwy ohirio gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth, os ydych chi wedi gofyn amdano
  • gwybodaeth am sut y gallech wella'r Pensiwn sylfaenol a gewch gan y Wladwriaeth
  • yr effaith ar y Pensiwn ychwanegol a gewch gan y Wladwriaeth os ydych wedi contractio allan, naill ai drwy gynllun pensiwn cwmni neu bensiwn personol
  • gwybodaeth ynghylch a fedrwch chi gynyddu'r Pensiwn a gewch gan y Wladwriaeth drwy ddefnyddio cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich diweddar briod neu bartner sifil (os yw hyn yn briodol)

Pwy all gael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth?

Gallech gael rhagolwg ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post.

Pwy all gael rhagolwg ar-lein

I gael rhagolwg ar-lein, mae’n rhaid i’r amodau canlynol i gyd fod yn berthnasol:

  • rydych chi’n byw yn y DU
  • rydych chi bedwar mis neu ragor i ffwrdd o fod yn 60 oed os ydych chi’n fenyw neu 65 oed os ydych chi’n ddyn
  • nid ydych chi’n weddw/nid yw eich partner sifil wedi marw
  • nid ydych chi eisoes wedi cyrraedd eich oed Pensiwn y Wladwriaeth

Pwy all gael rhagolwg dros y ffôn

I gael rhagolwg  dros y ffôn mae’n rhaid i’r amodau canlynol i gyd fod yn berthnasol:

  • rydych chi’n byw yn y DU
  • rydych chi mwy na 30 diwrnod i ffwrdd o oed Pensiwn y Wladwriaeth
  • nid ydych chi eisoes wedi cyrraedd eich oed Pensiwn y Wladwriaeth

Pwy all gael rhagolwg drwy’r post

I gael rhagolwg drwy’r post mae’n rhaid i’r ddau amod canlynol fod yn berthnasol:

  • rydych chi mwy na 30 diwrnod i ffwrdd o oed Pensiwn y Wladwriaeth
  • nid ydych chi eisoes wedi cyrraedd eich oed Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych chi eisoes dros oed Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi gohirio hawlio, gallwch gael rhagolwg o’ch hawl. Bydd hwn yn seiliedig ar y dyddiad yr ydych chi’n bwriadu hawlio yn y dyfodol.

Ni allwch gael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth os nad ydych chi’n bodloni’r amodau a esboniwyd uchod. Os oes angen i chi drafodd beth y gallech ei gael, gan gynnwys effeithiau gohirio eich hawliad gallwch naill ai:

Gwybodaeth y bydd arnoch ei hangen er mwyn gwneud cais am ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth

Bydd arnoch angen yr wybodaeth ganlynol er mwyn gwneud cais am ragolwg:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol (a rhif eich priod neu eich partner sifil, os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil)
  • y cyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych yn eu talu (mae hyn yn dibynnu, er enghraifft, ar a ydych yn gyflogedig ynteu'n hunangyflogedig)
  • manylion unrhyw briodasau, partneriaethau sifil neu ddirymiadau
  • manylion unrhyw gyfnodau rydych wedi'u treulio'n gweithio dramor
  • manylion eich cyflog presennol os cewch eich talu gan gyflogwr (yn hytrach na'ch bod yn hunangyflogedig)

Os nad ydych chi’n sicr ynghylch eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, cewch wybod mwy ynglŷn ag Yswiriant Gwladol ar y dudalen ganlynol:

Gwneud cais am ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth ar-lein

Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth yn syth os ydych chi:

  • eisoes wedi credu cyfrif gydag un o wasanaethau ar-lein y llywodraeth (fel unigolyn)
  • yn byw yn y DU

Os ydych chi eisoes wedi creu cyfrif gydag un o wasanaethau ar-lein y llywodraeth (fel unigolyn) yna gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth yn syth.

Gallwch ddefnyddio eich cyfrinair ac ID Defnyddiwr Porth y Llywodraeth, ond bydd angen i chi aros nes y cewch god ysgogi drwy'r post.

Os nad oes gennych chi gyfrif Porth y Llywodraeth, yna bydd un yn cael ei greu i chi pan fyddwch yn gwneud eich cais cyntaf am ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth ar-lein.

I sicrhau diogelwch, anfonir eich ‘ID Defnyddiwr’ drwy'r post gan Borth y Llywodraeth gyda chod ysgogi.

Bydd angen i chi ysgogi’r gwasanaeth o fewn 28 diwrnod o gael y cod. Dim ond unwaith y bydd angen i chi ddefnyddio’r cod ysgogi.

Gwneud cais am ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth dros y ffôn

Gallwch ofyn am ragolwg drwy ffonio tîm rhagolygon Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd y tîm yn cwblhau'r ffurflen ar eich rhan ac yna’n anfon rhagolwg atoch yn y post mewn oddeutu 15 diwrnod gwaith.

Gwneud cais am ragolwg o Bensiwn y Wladwriaeth drwy’r post

Os yw'n well gennych, gallwch lenwi a dychwelyd ffurflen gais (BR19). Mae dwy ffordd o wneud hyn:

  • llwytho ffurflen gais oddi ar y we, ei hargraffu, ei llenwi â llaw a’i dychwelyd drwy’r post
  • llwytho ffurflen gais oddi ar y we, ei llenwi ar eich cyfrifiadur, ei hargraffu a'i dychwelyd drwy’r post

Os nad ydych chi’n byw yn y DU gallwch lwytho ffurflen cais, ei brintio a’i llenwi gyda llaw yn unig.

Gall gymryd oddeutu 15 diwrnod gwaith i baratoi eich rhagolwg o'r adeg pan gyrhaeddir eich cais.

Deall eich rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth

Os ydych chi wedi cael eich rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth ac mae arnoch angen cymorth i ddeall beth mae’n ei olygu, darllenwch ‘Deall eich rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth’.

Gall eich rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth gyfeirio at aelodau rhai cynlluniau pensiwn preifat sy’n contractio’n ôl mewn i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Darllenwch ‘Deall eich rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth’ i gael gwybod mwy ynghylch sut y gall hyn effeithio arnoch.

Yswiriant Gwladol a'ch rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth

Os ydych chi wedi cael eich rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth ac mae arnoch angen cymorth i ddeall yr effaith y mae Yswiriant Gwladol yn ei gael ar eich rhagolwg, darllenwch y canlynol:

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Wrth feddwl am beth yr ydych newydd ei ddarllen, pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth i chi?
Terfyn o 500 nod

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU