Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Yswiriant Gwladol a'ch Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Efallai y bydd rheolau Yswiriant Gwladol yn effeithio ar eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth. Dysgwch fwy am y rheolau newydd ar gyfer ychwanegu at eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, am yr Yswiriant Gwladol cyfradd is ac am ba bryd y mae'n rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol. Os bydd angen rhagor o help arnoch chi, gallwch chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM.

Ôl-ddyledion Yswiriant Gwladol – gwall yn y rhagolwg

Os yw eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein yn cynnwys gwybodaeth am ôl-ddyledion cyfraniadau Yswiriant Gwladol, efallai fod gwall yn yr wybodaeth sydd yn eich hysbysiad rhagolwg.

Os oes gennych chi fwy na chwe blynedd o fylchau yn eich cofnodion Yswiriant Gwladol, bydd eich hysbysiad rhagolwg yn cynnwys y geiriau "...allan o’r 6 mlynedd treth diwethaf." Dylai’r adran hon ddweud "…allan o’r 12 mlynedd treth diwethaf".

Mae’r Gwasanaeth Pensiwn wrthi’n gweithio i ddatrys y broblem hon.

Talu Yswiriant Gwladol

Gweithio

Hyd yn oed os oes gennych chi eisoes ddigon o flynyddoedd cymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llawn, bydd yn rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol nes i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth os ydych chi:

  • yn gweithio i gyflogwr a bod eich cyflog yn uwch na lefel benodol
  • yn hunan-gyflogedig a does gennych chi ddim tystysgrif eithrio enillion isel.

Ddim yn gweithio

Gallwch chi benderfynu peidio â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol os yw’r ddau amod canlynol yn wir amdanoch chi:

  • rydych chi’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol oherwydd dydych chi ddim yn gweithio
  • mae gennych chi ddigon o flynyddoedd cymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llawn

Os byddwch chi’n stopio talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol, efallai y bydd hyn yn effeithio ar unrhyw fudd-dal profedigaeth y bydd gan eich gweddw neu'ch partner sifil hawl i’w gael.

Hawl i gael budd-dal profedigaeth

Bydd angen i chi fod wedi cronni digon o flynyddoedd cymwys drwy gydol eich gyrfa i alluogi eich gweddw neu’ch partner sifil i gael budd-dal profedigaeth ar y gyfradd lawn. Bydd hyn fel arfer tua 90 y cant o’r blynyddoedd cymwys yn eich bywyd gwaith.

Yswiriant Gwladol ar gyfradd is

Yn y gorffennol, gallai menywod priod a rhai gwragedd gweddw ddewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd is fel gweithiwr, neu ddewis peidio â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os oedden nhw’n hunan-gyflogedig. Dewis menywod priod neu weddwon oedd yr enw am hyn.

Er i hyn ddod i ben yn 1977, gallai menywod a oedd eisoes yn talu’r gyfradd is barhau i wneud hynny.

Nid yw cyfraniadau ar gyfradd is yn cyfri tuag at Bensiwn y Wladwriaeth, a does dim modd cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar gyfer unrhyw gyfnod Dewis Menywod Priod neu Weddwon.

Byddwch chi’n stopio talu’r cyfraddau is os byddwch chi:

  • yn cael ysgariad neu bod eich priodas yn cael ei dirymu (ei chanslo’n swyddogol)
  • yn colli'r hawl i gael rhai budd-daliadau profedigaeth
  • yn gofyn am gael peidio â thalu’r gyfradd is

Byddwch chi hefyd yn stopio talu’r cyfraddau is os bydd y canlynol yn wir am ddwy flynedd treth yn olynol:

  • os dydych chi ddim wedi ennill digon o arian i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, neu gael eich trin fel petaech chi'n eu talu, fel gweithiwr
  • os dydych chi ddim wedi bod yn hunan-gyflogedig

Os bydd angen cyngor arnoch chi am Ddewis Menywod Priod neu Weddwon, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM.

Treulio amser yn y brifysgol

Chewch chi ddim credydau am unrhyw amser y byddwch chi’n ei dreulio yn y brifysgol. Byddwch chi’n cael credydau’n awtomatig ar gyfer y blynyddoedd treth pan gawsoch chi’ch pen-blwydd yn un ar bymtheg, yn ddwy ar bymtheg ac yn ddeunaw os oedd hyn ar neu ar ôl 6 Ebrill 1975 a’ch bod yn dilyn addysg amser llawn, prentisiaeth ddi-dâl neu hyfforddiant ar y pryd.

Gweithio dramor a chyfraniadau nawdd cymdeithasol

Dydy eich rhagolwg ddim yn cynnwys unrhyw gyfraniadau nawdd cymdeithasol rydych chi wedi’u talu os ydych chi wedi bod yn gweithio dramor.

Os buoch chi’n talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol tra roeddech chi’n gweithio mewn gwlad sydd yn Ardal Economaidd Ewrop neu sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol â'r DU, byddan nhw’n cael eu hystyried pan fyddwch chi’n hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol.

Ychwanegu at Bensiwn y Wladwriaeth

Os yw eich rhagolwg yn dangos efallai na fyddwch chi'n cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llawn, efallai y byddwch chi am ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth drwy wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych chi wedi methu rhai taliadau, er enghraifft am nad oeddech chi’n gweithio neu am eich bod chi dramor. Bydd y manylion yn cael eu cynnwys yn eich rhagolwg os yw hyn yn berthnasol i chi.

Rheolau newydd ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol

Er 6 Ebrill 2009, mae rheolau newydd yn caniatáu i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 Gwirfoddol. Gall hyn eich helpu chi i dalu cyfraniadau ychwanegol at eich Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch chi wneud hyn am unrhyw gyfnod o chwe blynedd ar ôl 6 Ebrill 1975, os:

  • byddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 2008 a 5 Ebrill 2015
  • rydych chi eisoes wedi cronni 20 blwyddyn gymwys (gan gynnwys blynyddoedd Diogelwch Cyfrifoldeb Cartref)

Chewch chi ddim talu’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 ychwanegol ar gyfer unrhyw flwyddyn dreth os ydych chi’n fenyw briod neu’n wraig weddw sydd wedi dewis talu cyfradd is am y flwyddyn honno i gyd.

Nid yw’r rheolau newydd yn effeithio ar unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 Gwirfoddol y byddwch chi efallai’n gallu eu talu dan y rheolau presennol.

Cwestiynau eraill

Os oes gennych chi gwestiynau eraill am eich cyfraniadau neu’ch credydau Yswiriant Gwladol, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU