Os ydych wedi cael eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth a bod angen help arnoch gyda’r termau a ddefnyddir, bydd y dudalen hon yn helpu i’w hegluro. Os bydd angen mwy o gymorth arnoch neu os oes gennych fwy o gwestiynau, defnyddiwch y manylion cyswllt isod i gael mwy o wybodaeth.
Mae Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn bensiwn ar sail enillion sy’n ychwanegol i’r Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Ei enw’n wreiddiol oedd Cynllun Pensiwn ar Sail Enillion y Wladwriaeth a chafodd ei ddisodli gan Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn 2002.
Efallai y bydd gennych hawl i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth uwch na’r hyn a ddangosir ar eich rhagolwg, os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
Caiff systemau TG eu diweddaru er mwyn adlewyrchu hyn.
Mae Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref yn helpu i ddiogelu eich pensiwn drwy leihau nifer y blynyddoedd cymwys y mae eu hangen ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Efallai y cewch Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref os byddwch yn treulio amser yn gofalu am blentyn neu unigolyn sâl neu anabl a’ch bod yn cael rhywfaint o fudd-daliadau.
Mae rhagolwg eich Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar gyfraddau cyfredol Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae cyfraddau Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth ar hyn o bryd yn codi yn unol â’r cynnydd mewn prisiau cyfartalog (neu chwyddiant). Rywbryd yn y dyfodol bydd hyn yn newid, fel bod y cyfraddau’n cynyddu yn unol ag enillion cyfartalog.
O ganlyniad, efallai y bydd swm Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn wahanol i’r swm a ddangosir yn eich rhagolwg. Y rheswm am hyn yw o ganlyniad i’r newid yn y gyfraith a ddisgwylir o 2012 ymlaen, a’r newidiadau yn lefelau prisiau ac enillion cyfartalog dros amser.
Nes byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth caiff eich Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ei ailbrisio bob blwyddyn yn unol ag enillion cyfartalog. Unwaith y byddwch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yna bydd yn cynyddu yn unol â phrisiau cyfartalog.
Os nad yw eich priod neu’ch partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, dylent wneud cais am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth drostynt eu hunain. Os ydynt eisoes wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac nad ydynt yn cael y Pensiwn y Wladwriaeth sydd ar gael iddynt, dylent gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn.
Mae contractio allan yn golygu eich bod wedi ymuno â chwmni, rhanddeiliad neu gynllun pensiwn personol y gellir ei ddefnyddio i ddisodli Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth i gyd, neu rywfaint ohono.
Os oes didyniad eithrio ar eich rhagolwg gallwch gael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â Chyllid a Thollau EM (HMRC).
Os oes angen mwy o help arnoch i ddeall eich rhagolwg yna gallwch lwytho canllaw i lawr.
Os oes gennych fwy o gwestiynau am gynnwys eich rhagolwg yna cysylltwch â thîm rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth.
I gael mwy o wybodaeth am sut y mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn effeithio ar eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, ewch i’r dudalen ganlynol.