Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 23 Chwefror 2012

Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd cyn 6 Ebrill 1953 neu ddynion a anwyd cyn 6 Ebrill 1951

Os ydych yn fenyw a gawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1953, neu'n ddyn a gawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1951, gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hwn yn seiliedig ar eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol a bydd yn rhoi amcangyfrif i chi o'ch Pensiwn sylfaenol ac ychwanegol y Wladwriaeth.

Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch i wneud cais am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Actifadu eich cyfrif Porth y Llywodraeth

Os ydych wedi cael llythyr yn ddiweddar i actifadu eich cyfrif Porth y Llywodraeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i wneud cais am ragolwg:

  • eich rhif YG (a rhif eich diweddar briod neu'ch cyn-briod neu eich diweddar bartner sifil neu'ch cyn-bartner sifil, os yw wedi marw, os ydych wedi ysgaru neu os yw eich partneriaeth sifil wedi'i diddymu)
  • manylion y mathau o gyfraniadau YG rydych yn eu talu (mae hyn yn dibynnu, er enghraifft, a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig)
  • manylion unrhyw briodasau, partneriaethau sifil (gan gynnwys priodasau wedi'u dirymu neu bartneriaethau sifil wedi'u diddymu)
  • manylion unrhyw amser rydych wedi'i dreulio yn gweithio y tu allan i'r DU
  • manylion eich cyflog presennol os cewch eich talu gan gyflogwr (yn hytrach na bod yn hunangyflogedig)

Os nad ydych yn siŵr pa fath o gyfraniadau YG rydych yn eu talu, gweler 'Cyflwyniad i gyfraniadau Yswiriant Gwladol'.

Sut mae cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth?

Os ydych yn byw yn y DU, gallwch gael rhagolwg ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post. Os ydych yn byw y tu allan i'r DU, gallwch gael rhagolwg dros y ffôn neu drwy'r post.

Cael rhagolwg ar-lein

Gallwch gael rhagolwg ar-lein os yw pob un o'r amodau canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn byw yn y DU
  • rydych yn fenyw a gawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1953, neu'n ddyn a gawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1951
  • rydych yn fenyw sy'n fwy na phedwar mis i ffwrdd o droi'n 60 oed, neu'n ddyn sy'n fwy na phedwar mis i ffwrdd o droi'n 65 oed
  • nid ydych yn weddw neu mae eich partner sifil yn dal i fyw
  • nid ydych wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth eto
  • mae gennych gyfrif Porth y Llywodraeth (am ragor o wybodaeth am Borth y Llywodraeth, gweler 'Cyngor technegol ar ddefnyddio gwasanaeth rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein', gan gynnwys cyfrifon Porth y Llywodraeth)

Er mai nod y Gwasanaeth Pensiwn yw darparu rhagolwg ar-lein i bawb sy'n dymuno defnyddio'r gwasanaeth hwn, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Os na all Y Gwasanaeth Pensiwn roi rhagolwg i chi ar-lein, gall anfon rhagolwg atoch drwy'r post.

Actifadu eich cyfrif Porth y Llywodraeth

Os ydych wedi cael llythyr yn ddiweddar i actifadu eich cyfrif Porth y Llywodraeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol.

Cael rhagolwg dros y ffôn neu drwy'r post

Os na allwch gael rhagolwg ar-lein, gallwch gael rhagolwg dros y ffôn neu drwy'r post.

Deall eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych wedi cael eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth a bod angen help pellach arnoch i ddeall beth mae'n ei olygu, darllenwch 'Deall eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth'.

Yswiriant Gwladol a'ch rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych wedi cael eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth a bod angen help arnoch i ddeall yr effaith y gall Yswiriant Gwladol ei chael ar eich rhagolwg, darllenwch y canlynol.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU