Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pam ei bod yn bwysig llenwi eich ffurflen Cod Ar Gyfer Pensiwn    

Pan fyddwch yn nesáu at oed Pensiwn y Wladwriaeth cewch ffurflen P161 Cod Ar Gyfer Pensiwn sy'n gofyn am fanylion eich oed a'ch incwm, gan gynnwys incwm pensiwn. Mae'n bwysig iawn eich bod yn llenwi'r ffurflen hon ac yn ei dychwelyd. Fodd bynnag, os ydych chi'n hunangyflogedig ni chewch y ffurflen fel mater o drefn. Bydd angen i chi lenwi neu lwytho’r ffurflen oddi ar y we, neu ofyn amdani o Gyllid a Thollau EM.

Pam a phryd y cewch ffurflen Cod Ar Gyfer Pensiwn P161

Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen P161 atoch fel y gallant gyfrifo pa lwfansau di-dreth y mae gennych hawl iddynt. Byddant hefyd yn gyfrifo faint o dreth (o gwbl) y dylech fod yn ei thalu pan ddechreuwch gael eich incwm pensiwn. Os na fyddwch yn llenwi nac yn dychwelyd y ffurflen efallai y bydd eich cyflogwr neu bwy bynnag sy'n talu eich pensiwn yn cael eich cod treth yn anghywir ac fe allech dalu gormod o dreth.

Cyn belled â bod gan Gyllid a Thollau EM eich dyddiad geni ar gofnod, byddant yn anfon y ffurflen atoch fel mater o drefn y mis cyn i chi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Cofiwch fod y ffurflen hon yn wahanol i lythyr a gewch gan y Gwasanaeth Pensiwn yn gofyn i chi hawlio neu ohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych chi'n hunangyflogedig ni fydd ffurflen P161 yn cael ei hanfon atoch fel mater o drefn. Os ydych chi o fewn mis i gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ac nad ydych wedi cael ffurflen, gallwch wneud un o’r canlynol:

  •  llenwi’r ffurflen ar-lein – defnyddiwch yr ail ddolen isod
  •  lawrlwytho copi isod, cyn argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i Gyllid a Thollau EM – defnyddiwch y drydedd ddolen isod
  •  gofyn am ffurflen gan Gyllid a Thollau EM

Os na allwch lwytho ffurflen oddi ar y we, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM.

Bydd Cyllid a Thollau EM hefyd yn ail-anfon y P161 atoch os ydych yn fenyw ar fin cael eich pen-blwydd yn 65 oed. Bwriad hyn yw gweld a yw'ch amgylchiadau wedi newid neu os ydych yn gymwys i gael lwfans uwch ar sail oed.

Llenwi ffurflen P161

Defnyddir y cyfarwyddiadau isod wrth lenwi fersiwn bapur o’r ffurflen neu fersiwn a lwythwyd i lawr. Mae gan y ffurflen ar-lein gyfarwyddiadau ar gael ar y sgrin.

Eich Pensiwn gan y Wladwriaeth

Bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM:

  •  a ydych wedi penderfynu hawlio eich Pensiwn gan y Wladwriaeth yn awr ynteu a ydych am aros am gyfnod (ei ohirio) 
  •  y dyddiad y disgwyliwch i'r taliadau ddechrau 
  •  y swm y disgwyliwch ei gael bob wythnos

Pensiynau eraill

Bydd angen i chi roi manylion unrhyw bensiwn cwmni neu bensiynau personol yr ydych yn eu cael.

Os ydych yn disgwyl y byddwch yn dechrau cael eich pensiwn yn y flwyddyn dreth hon – sy’n rhedeg o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill yn yr un nesaf – dylech ohirio llenwi a hanfon y ffurflen hon at Gyllid a Thollau EM nes eich bod yn cael dyddiad. Os nad ydych yn disgwyl y byddwch yn dechrau cael y pensiwn yn y flwyddyn dreth hon gallwch barhau i lenwi’r ffurflen hon.

Os ydych wedi dechrau cael pensiwn, fe welwch rif y pensiwn (a elwir weithiau'n 'rhif blwydd-dal y pensiwn') ar slipiau talu eich pensiwn neu ar lythyrau gan eich darparwr pensiwn.

Os nad ydych wedi dechrau cael eich pensiwn eto rhaid i chi ysgrifennu 'Heb ddechrau eto' wrth ymyl 'Rhif pensiwn' gan nodi'r dyddiad y disgwyliwch ddechrau ei gael wrth ymyl 'Dyddiad dechrau'r pensiwn'.

Ceir amgylchiadau arbennig lle y gallech gael cyfandaliad pensiwn a delir unwaith yn unig yn hytrach na chael incwm pensiwn rheolaidd.

Mae cyfandaliad pensiwn dibwys yn digwydd pan fydd cyfanswm eich pensiwn gan gynllun galwedigaethol yn fach. Yn yr amgylchiadau hyn mae’r darparwr pensiwn yn gwneud cyfandaliad i chi yn lle taliadau cyson.

Mae cyfandaliad pensiwn dirwyn i ben yn digwydd pan fydd cynllun galwedigaethol wedi cael ei ddirwyn i ben. Yn y sefyllfa hon mae’r darparwr pensiwn yn gwneud cyfandaliad i chi yn lle parhau â’ch pensiwn.

Os yw'r naill sefyllfa neu'r llall yn berthnasol i chi, rhowch fanylion y cyfandaliad yr ydych wedi ei gael cyn treth yn y blwch ‘Gwybodaeth arall’ ar dudalen bedwar. Efallai y bydd y dreth a didynnir o’r cyfandaliad yn fwy na’r dreth y bydd angen i chi ei thalu arno.

Incwm o fuddion trethadwy
Bydd angen i chi roi gwybod faint o Lwfans Ceisio Gwaith, Budd-dal Analluogrwydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a gewch yn llawn (mae’n bosib y gall hyn cyfrif fel incwm trethadwy). Bydd Cyllid a Thollau EM yn gallu gweld o'r dyddiad a ddechreuodd faint ohono, os o gwbl, sy'n drethadwy.

Enillion o gyflogaeth neu hunangyflogaeth

Os ydych chi dal yn gyflogedig, bydd angen i chi roi gwybod faint o incwm yr ydych yn ei gael.
Os ydych chi'n hunangyflogedig ac heb lenwi ffurflen dreth hunanasesu, bydd angen i chi rhoi amcangyfrif o’ch elw am y flwyddyn dreth. Bydd Cyllid a Thollau EM yn gwybod eich incwm unwaith y byddant yn derbyn eich ffurflen dreth ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Incwm trethadwy arall a rhoddion i elusennau

Pan fyddwch yn llenwi'r adrannau hyn, cofiwch:

  •  anwybyddwch incwm nad yw'n drethadwy (gweler y ddolen isod) 
  •  dim ond hanner unrhyw incwm a gewch ar y cyd, megis llog ar gyfrif banc ar y cyd, y dylech ei ddangos

Os ydych chi wedi anfon ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf, does dim rhaid i chi lenwi'r adrannau uchod. Bydd Cyllid a Thollau EM yn defnyddio’ch ffurflen dreth i gyfrifo’ch incwm. Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw llenwi'r blwch sy'n gofyn am eich cyfeirnod treth deg-ffigur - fe welwch hwn ar flaen eich ffurflen dreth. 

Rhoi drwy elusen

Mae Cymorth Rhodd yn cynyddu gwerth rhoddion i elusennau a Chlybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol drwy eu caniatáu i adennill treth cyfradd sylfaenol ar eich rhodd. Os ydych chi’n talu treth gyfradd uwch gallwch adennill gostyngiad ychwanegol ar eich rhoddion. Os ydych chi’n hawlio lwfansau ar sail oedran, weithiau gall rhoddion Cymorth Rhodd gynyddu’ch hawliad.

Dychwelyd y ffurflen

Am fersiynau papur o’r ffurflen, cofiwch lofnodi a dyddio'r ffurflen a'i hanfon yn ôl i Gyllid a Thollau EM mor fuan â phosib, drwy ddefnyddio'r amlen ymateb a anfonir gyda hi. Os ydych chi wedi llwytho ffurflen oddi ar y wefan hon, anfonwch hi at y cyfeiriad yn y ddolen isod.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU