Nid yw cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth o anghenraid yn golygu eich bod yn rhoi'r gorau i weithio nac yn rhoi'r gorau i dalu treth. Os byddwch yn dal ati i weithio, neu'n dychwelyd i weithio, bydd faint o dreth a dalwch ar eich incwm pensiwn a'ch incwm cyflogaeth - a sut y byddwch yn talu'r dreth - yn dibynnu ar lefel gyffredinol eich incwm trethadwy ac ar y math o incwm pensiwn yr ydych yn ei gael.
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cyfrif fel incwm trethadwy ond fe'i telir i chi heb dynnu treth oddi arno. Bydd angen i chi dalu rhywfaint o dreth arno os yw cyfanswm incwm trethadwy eich Pensiwn gan y Wladwriaeth, eich swydd ac unrhyw ffynonellau eraill, o'u cyfrifo, yn uwch na'ch lwfansau di-dreth, ee Lwfans Personol ac unrhyw Lwfans Person Dall neu lwfans arall y gallech fod â'r hawl iddo.
Os oes angen talu treth ar eich Pensiwn gan y Wladwriaeth, bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn trefnu i'ch cyflogwr dynnu'r dreth o'ch enillion drwy'r system cod treth Talu Wrth Ennill. Gwneir hyn drwy leihau eich lwfansau di-dreth yn ôl faint o incwm Pensiwn y Wladwriaeth gewch chi. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o dreth.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am sut mae eich Pensiwn gan y Wladwriaeth yn ymddangos yn eich cod treth cyflogaeth drwy ddilyn y dolenni isod.
Os yw'ch materion yn gymhleth - er enghraifft, os oes gennych incwm o fuddsoddiadau sy'n uwch na lefel benodol, neu incwm tramor - efallai y gwnawn hefyd ofyn i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu.
Os ydych chi'n gyflogedig ac yn cael pensiwn cwmni a/neu bensiwn personol cewch nifer o godau treth a slipiau cyflog - gan eich cyflogwr a chan eich darparwr/darparwyr pensiwn.
Os ydych chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth hefyd, bydd Cyllid a Thollau EM yn ceisio casglu'r holl dreth sy'n ddyledus arno gan un cwmni/darparwr pensiwn yn unig drwy leihau eich lwfans di-dreth fel y disgrifiwyd yn yr adran flaenorol. Os oes gennych nifer o bensiynau personol/cwmni byddant fel arfer yn casglu'r dreth sy'n ddyledus gan bob darparwr pensiwn ar wahân.
Os bydd gennych fwy nag un slip cyflog a chod treth, mae'n bwysig i chi ddeall a gwirio pob un ohonynt. Os ydych chi'n meddwl bod cod yn anghywir gallwch ofyn am ei gywiro. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.
Os byddwch yn dechrau swydd newydd ar ôl ymddeol bydd angen i'ch cyflogwr roi gwybod i Gyllid a Thollau EM er mwyn iddynt allu sicrhau eich bod yn talu'r dreth gywir.
Os nad oeddech yn talu treth ar ôl ymddeol
Bydd angen i chi ddechrau talu treth os bydd cyfanswm eich incwm gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth a/neu unrhyw bensiwn arall a gewch, gyda'ch enillion cyflogaeth, yn uwch na'ch lwfansau di-dreth (ee, Lwfans Personol a Lwfans Person Dall).
Pan fydd eich cyflogwr yn dweud wrth Gyllid a Thollau EM eich bod wedi dechrau gweithio cewch god treth a bydd y swm cywir o dreth yn cael ei gasglu drwy'r system Talu Wrth Ennill.
Os oes angen talu treth ar eich Pensiwn gan y Wladwriaeth bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrif am hyn drwy leihau eich lwfansau di-dreth yn ôl faint o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch.
Os oeddech eisoes yn talu treth ar ôl ymddeol
Os oeddech yn talu treth drwy'r system Talu Wrth Ennill oherwydd bod gennych eisoes bensiwn cwmni neu bensiwn personol, darllenwch adrannau blaenorol yr erthygl hon i ddeall sut y byddwch yn talu treth pan fyddwch yn dechrau gweithio.
Os nad oeddech chi'n talu drwy'r system Talu Wrth Ennill yn flaenorol ac yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu er mwyn talu treth ar eich Pensiwn gan y Wladwriaeth (ac ar incwm arall) efallai y bydd modd i chi dalu'ch treth i gyd drwy eich cod treth cyflogaeth. Mae'n bosib y gall eich cyflogwr newydd eich cynghori ynghylch hyn.
Gallwch hefyd ffonio'r Llinell Gymorth Hunanasesu ar 0845 900 0444. Mae ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm bob dydd, ac eithrio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Os ydych chi'n ennill cyflog ac yn cael pensiwn ond bod eich incwm yn dal yn isel, efallai y gallwch hawlio Credyd Pensiwn.