Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth os ydych chi'n hunangyflogedig ac yn cael pensiwn

Nid yw cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth o reidrwydd yn golygu ymddeol o waith. Os ydych chi'n hunangyflogedig efallai y penderfynwch barhau i weithio a hawlio Pensiwn gan y Wladwriaeth. Efallai y cewch hefyd bensiwn cwmni, pensiwn personol, neu'r ddau. Bydd sut y byddwch yn talu treth yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych chi'n hunangyflogedig a Phensiwn y Wladwriaeth yw eich unig bensiwn

Os ydych chi'n hunangyflogedig, bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu bob blwyddyn i roi gwybod am eich incwm cyffredinol ac unrhyw enillion cyfalaf, ac i hawlio unrhyw lwfansau treth yn erbyn eich bil treth.

Pan fyddwch yn dechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth rhaid i chi ddatgan hyn ar eich ffurflen dreth hefyd. Y rheswm am hyn yw am ei fod yn incwm trethadwy sy'n cael ei dalu i chi heb i'r dreth gael ei thynnu.

Cofiwch y byddwch yn rhoi'r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) pan fyddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth - felly ni fydd angen i chi gynnwys y rhain ar eich ffurflen dreth rhagor. Yr unig eithriad yw Cyfraniadau YG Dosbarth 4 sy'n ddyledus ar elw trethadwy a wnaed yn y flwyddyn dreth pan oeddech chi'n cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych chi'n hunangyflogedig ac yn cael pensiwn cwmni neu bensiwn personol a Phensiwn y Wladwriaeth

Os ydych chi'n hunangyflogedig ac yn cael un neu ragor o bensiynau yn ogystal â Phensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn talu treth mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Byddwch yn talu treth ar eich incwm hunangyflogaeth (ac fel rheol ar ffynonellau eraill o incwm nad yw wedi'i drethu, heblaw am Bensiwn y Wladwriaeth) drwy Hunanasesu ar ôl llenwi ffurflen dreth bob blwyddyn. Byddwch yn talu treth ar unrhyw bensiwn cwmni neu bensiwn personol a gewch drwy'r system Talu Wrth Ennill. Bydd eich Swyddfa Dreth yn rhoi cod treth i chi sy'n dweud wrth ddarparwr y pensiwn faint i'w dynnu o'ch pensiwn/pensiynau cyn iddynt eich talu.

Mae'r cod treth yn seiliedig ar yr wybodaeth yr ydych chi wedi'i rhoi am eich incwm cyffredinol. Os ydych chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth hefyd, bydd Cyllid a Thollau EM fel rheol yn gofyn i ddarparwr eich pensiwn dynnu unrhyw dreth sy'n ddyledus arno yr un pryd drwy roi cod treth newydd i'r darparwr ar eich cyfer chi.

Os ydych chi'n hunangyflogedig ac ar incwm isel

Os ydych chi'n hunangyflogedig ac yn cael pensiwn efallai eich bod ar incwm isel. Yn yr achos hwn, efallai y bydd modd i chi hawlio Credyd Pensiwn i ychwanegu at eich incwm isel.

Dod yn hunangyflogedig am y tro cyntaf

Efallai y penderfynwch ddod yn hunangyflogedig am y tro cyntaf pan fyddwch yn ymddeol. I wneud hyn mae angen i chi gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM. Mae angen i chi wneud hyn o fewn tri mis i ddod yn hunangyflogedig. Gallwch lwytho'r ffurflen gofrestru oddi ar y we neu gofrestru drwy eu ffonio ar 0845 915 4515.

Cyflogi cyfrifydd

Does dim rhaid i chi gyflogi cyfrifydd (asiant) os nad oes arnoch eisiau, ond efallai y gwelwch y gall cyfrifydd, am ffi, eich helpu i gael trefn ar eich ffurflen dreth.

Os ydych yn poeni am eich treth

Os ydych chi'n poeni eich bod yn talu gormod o dreth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am dreth a hunangyflogaeth ar ôl oed Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch gysylltu â'ch Swyddfa Dreth. Neu gallwch ffonio'r Llinell Gymorth i bobl sydd newydd fynd yn hunangyflogedig ar 0845 915 4655. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU