Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Canllaw i yrru a symudedd

Os bu i chi basio'ch prawf gyrru yn eich arddegau neu'n fwy diweddar, mae rhai pethau i'w hystyried, a buddiannau, i yrru wrth fynd yn hŷn. Gallwch ddysgu am y pethau i'w hystyried a'r buddiannau i yrru i bobl dros 50 megis adnewyddu eich trwydded, rheolau meddygol, symudedd, addasu cerbyd a chynlluniau parcio.

Adnewyddu eich trwydded yrru yn 70 oed ac yn hŷn

Bydd eich hawl i gael trwydded yrru yn dod i ben pan fyddwch chi'n 70 oed, ac er mwyn i chi allu parhau i yrru, bydd yn rhaid i'r hawl honno gael ei hadnewyddu gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Os nad ydych chi, am unrhyw reswm, yn derbyn y ffurflenni atgoffa i wneud cais am eich trwydded yrru, fe allwch chi ddefnyddio ffurflen gais D1, sydd ar gael drwy wasanaeth archebu ffurflenni DVLA ac o ganghennau Swyddfa'r PostTM.

Adnewyddu eich trwydded yrru ar gyfer cerbydau mwy

Ar eich trwydded, mae'ch hawl i yrru cerbydau nwyddau mawr neu gerbydau cludo teithwyr yn ddilys tan eich pen-blwydd yn 45 oed. Wedi hynny, bydd angen i chi adnewyddu'ch hawl bob pum mlynedd hyd nes eich bod yn 65. Unwaith i chi gyrraedd 65 oed, rhaid i chi adnewyddu'ch trwydded bob blwyddyn.

Rheolau meddygol ar gyfer pob gyrrwr

Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd sy'n effeithio ar eich ffitrwydd i yrru, efallai y bydd rhaid i chi hysbysu'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Cynllun parcio Bathodyn Glas

Efallai y bydd gennych hawl i ymuno â'r cynllun parcio Bathodyn Glas os oes gennych anabledd neu os ydych yn ei chael yn anodd sefyll neu gerdded am gyfnodau hir (bydd angen i chi fodloni rhai meini prawf penodol). Mae hyn yn golygu y cewch ddefnyddio mannau talu-ac-arddangos neu fannau parcio â mesurydd am ddim, a pharcio ar linellau melyn am hyd at dair awr (gyda rhai cyfyngiadau).

Gwneud cais am drwydded parcio Bathodyn Glas

Eich awdurdod lleol sy'n gyfrifol am gyhoeddi trwyddedau parcio Bathodyn Glas – cysylltwch â hwy i gael mwy o wybodaeth. Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth a gwneud cais ar-lein.

Y Cynllun Motability

Gall prynu ac addasu car fod yn ddrud. Mae'r Cynllun Motability - a redir gan y mudiad ddim-er-elw annibynnol Motability - yn rhoi cyfle i bobl anabl fod yn berchen ar gar, neu brydlesu un, am bris fforddiadwy.

Gall y Cynllun Motability eich helpu gyda phrydlesu neu brynu car os ydych yn derbyn Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel neu gyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl. Hyd yn oed os nad ydych chi'n gyrru, gallwch wneud cais am gar fel teithiwr ac enwi dau unigolyn arall yn yrwyr i chi.

Addasu eich cerbyd

Gallwch addasu eich cerbyd fel ei fod yn ddiogel ac yn gyfforddus i'w yrru a'i bod yn haws mynd i mewn ac allan o'r car. Mae offer moduro ar gael i bobl ag anableddau yn rhan uchaf neu ran isaf y corff, neu'r ddau.

Rhagor o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU