Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Arweiniad i deithio gartref a thramor

Os ydych chi dros 50 a bod gennych chi rywfaint o amser sbâr, efallai yr hoffech ymweld â llefydd yn eich ardal leol, archwilio'r DU neu deithio dramor. Efallai y byddwch hefyd am symud neu ymddeol dramor. Cewch wybod yma beth y mae angen i chi ei wybod am deithio a beth sydd ar gael i bobl dros 50.

Rhestr atgoffa ar gyfer teithio gartref a thramor

Bydd cynllunio da fel arfer yn gwneud taith yn haws – waeth pa mor fyr ydyw. Er bod nifer o bethau i'w hystyried cyn mynd i ffwrdd – beth bynnag yw eich oed – mae rhai pethau ychwanegol i'w hystyried wrth i chi fynd yn hŷn.

Pasportau am ddim i bobl dros 79 oed

Os ydych chi'n ddinesydd Prydeinig a aned ar 2 Medi 1929 neu cyn hynny, gallwch wneud cais am basport deng mlynedd 32-tudalen safonol am ddim gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau.

Cerdyn Trên i Bobl Hŷn

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, gallwch arbed traean ar y rhan fwyaf o docynnau trên safonol a dosbarth cyntaf ledled Prydain wrth brynu Cerdyn Trên i Bobl Hŷn. Mae hyn yn golygu bod teithio ar drên yn fwy fforddiadwy a hygyrch.

Tocynnau bws am ddim a theithio ar goetsys i bobl dros 60 oed

Yn aml, teithio ar fysiau a choetsys yw'r dewis rhataf ar gyfer unrhyw daith, ac mae ystod eang o gonsesiynau teithio ar gynnig ar y bysiau i sicrhau bod teithio o gwmpas hyd yn oed yn fwy fforddiadwy.

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, mae gennych hawl i deithio am ddim ar wasanaethau bws lleol ar adegau distaw unrhyw le yn Lloegr. Os ydych chi'n byw yng Nghymru neu'r Alban, mae gennych hawl i deithio am ddim ar wasanaethau bws yn eich ardal leol. Yng Ngogledd Iwerddon, os ydych chi dros 65, cewch deithio ar fysiau a threnau am ddim.

Cynlluniwch eich taith

Cynlluniwch eich taith o ddrws i ddrws ar-lein, i unryw le ac o unryw le ym Mhrydain Fawr. Ffynhonnell o wybodaeth am deithio yw'r cynlluniwr siwrnai, a gall eich helpu i ddod o hyd i'r llwybr cyflymaf o A i B, wrth gyflwyno'r holl ddewisiadau sydd ar gael i chi a mwy...

Paratoi i symud neu ymddeol dramor

Mae symud dramor yn gam mawr. Ar wahân i ystyriaethau'n ymwneud â theulu a ffrindiau, dylech fod yn ymwybodol o faterion sy'n ymwneud â phensiynau, treth a chostau iechyd. Bydd y rhestr wirio hon yn helpu i sicrhau eich bod wedi ystyried y materion hanfodol.

Cyrraedd yno

Gwybodaeth am deithio ar gyfer pobl a all fod ag angen help i symud o gwmpas gan gynnwys gwasanaethau maes awyr a chwmnïau hedfan, cod ymarfer hedfan a theithio dramor ar drên neu fferi.

Additional links

Teithio ar fysiau am ddim

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, neu'n anabl gymwys, mae'ch tocyn bws wedi newid

Allweddumynediad llywodraeth y DU