Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tocynnau bws am ddim a theithio ar goetsys i bobl dros 60 oed

Yn aml, bydd teithio ar fws neu goets yn ddewis rhad ar gyfer eich taith. Hefyd, mae nifer o gonsesiynau teithio ar gael ar y bysiau i wneud teithio o gwmpas yn fwy fforddiadwy byth.

Teithio'n lleol ar fws yn Lloegr

Mae gan bawb sy'n 60 oed neu'n hŷn ac sy'n byw yn Lloegr hawl i deithio am ddim ar wasanaethau bws lleol ar adegau distaw unrhyw le yn Lloegr drwy ddefnyddio Tocyn Bws Am Ddim Cenedlaethol. Teithio ar adegau distaw yw pan fyddwch yn teithio unrhyw bryd rhwng 9.30am ac 11.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac unrhyw bryd ar y penwythnos ac ar wyliau cyhoeddus.

I gael tocyn bws am ddim, bydd angen i chi wneud cais i'ch awdurdod lleol sy'n gyfrifol am roi'r tocynnau am ddim. Nid oes cost am y tocyn cyntaf, ond efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi i gael tocyn newydd yn ei le.

Efallai y bydd awdurdodau lleol yn dal i gynnig mwy o fuddiannau i breswylwyr lleol, megis teithio am ddim yn ystod adegau prysur neu ostyngiadau wrth deithio ar drên, ond dim ond yn yr ardal leol y bydd y rhain yn berthnasol, ac nid drwy Loegr i gyd. Holwch eich awdurdod lleol i weld a ydynt yn cynnig y gwasanaethau ychwanegol hyn. Os ydynt, efallai y bydd tâl am y tocyn, ond rhaid i'ch awdurdod lleol ddal i gynnig y dewis o docyn bws consesiynol arferol am ddim i chi.

Teithio'n lleol ar fws yng Nghymru

Yng Nghymru, os ydych chi dros 60, mae gennych hawl i gael tocyn bws am ddim gan eich awdurdod lleol. Gallwch ei ddefnyddio ar unrhyw amser o'r dydd, a chewch deithio ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru. Cewch hefyd ddefnyddio'r tocyn ar rai gwasanaethau pellter hir.

Sut mae gwneud cais

Gallwch wneud cais i'ch awdurdod lleol am y Tocyn Bws Consesiynol. Fel arfer, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais a mynd â llun math pasport gyda chi, yn ogystal â phrawf o'ch oed a'ch cyfeiriad.

Teithio'n lleol ar fws yn yr Alban

Yn yr Alban, mae gan bawb sy'n 60 neu'n hŷn hawl i deithio ar fysiau lleol ac ar wasanaethau coets pellter hir a drefnir o fewn yr Alban unrhyw adeg o'r dydd, gan gynnwys yr awr brysur yn y bore. Rhedir y cynllun hwn gan Transport Scotland, a bydd angen i chi wneud cais am Gerdyn Hawl Genedlaethol i deithio am ddim.

Tocynnau teithio am ddim yng Ngogledd Iwerddon

Gall pawb sy'n 65 oed neu'n hŷn ac sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon deithio ar fysiau a threnau am ddim gyda Senior SmartPass. Mae ffurflenni cais am gerdyn Senior SmartPass ar gael o orsafoedd bws a thrên Translink, neu drwy ffonio Translink ar 028 90 66 66 30, o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 7.00 am ac 8.00 pm.

Gostyngiadau i bobl dros 60 wrth deithio ar goetsys  

Gall rhwydwaith bysiau moethus National Express yng Nghymru a Lloegr, a Citylink yn yr Alban, fynd â chi i'r rhan fwyaf o lefydd ym Mhrydain.

Yng Nghymru a Lloegr, os ydych chi dros 60 oed byddwch yn gymwys fel mater o drefn ar gyfer prisiau 'routesixty'. Mae hyn yn golygu y cewch chi deithio am hyd at hanner pris ar y rhan fwyaf o wasanaethau National Express. I gael gwybod mwy, ffoniwch 08705 808 080. Mae rhai cwmnïau llai, megis Berrys a Baker Dolphin, hefyd yn rhan o'r cynllun.

Yn yr Alban, os ydych chi dros 60 oed, mae Scottish Citylink yn cynnig amrywiol docynnau mantais i bobl dros 60 oed ac maent yn newid yn rheolaidd. Os oes gennych Gerdyn Hawl Cenedlaethol, mae'n bosibl y gallwch chi deithio am ddim ar rai o'i wasanaethau. I wybod mwy, ffoniwch 08705 505 050.

Buddiannau ychwanegol

Gallwch arbed arian drwy gyfuno tocynnau teithio ar fws â thocynnau mynediad. Mae amrywiaeth o nodweddion teithio ychwanegol i'w hystyried hefyd, megis pecynnau coets a maes awyr-gwesty cynhwysol yn ogystal â chynigion theatr, sioeau a chyngherddau a thocynnau i gyrchfannau yn Ewrop.

Additional links

Teithio ar fysiau am ddim

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, neu'n anabl gymwys, mae'ch tocyn bws wedi newid

Allweddumynediad llywodraeth y DU