Os ydych chi dros 80 oed ac yn ddinesydd Prydeinig, fe allech fod yn gymwys i gael pasbort am ddim. Bydd angen pasbort deng mlynedd llawn arnoch os oes arnoch eisiau teithio dramor, hyd yn oed os yw hynny am ddiwrnod. Cewch wybod sut mae gwneud cais yn y fan hon.
Os ydych chi'n ddinesydd Prydeinig a aned ar 2 Medi 1929 neu cyn hynny gallwch wneud cais am basbort deng mlynedd am ddim gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau - Gwasanaeth Pasbort y DU gynt. Bydd y pasbort hwn am ddim p'un ai a ydych yn adnewyddu eich pasbort presennol ynteu'n cael pasbort am y tro cyntaf.
Os ydych wedi gwneud cais am basbort ers 19 Mai 2004, a'ch bod yn gymwys i gael pasbort am ddim, cewch wneud cais am ad-daliad o'r ffi pasbort safonol.
Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ateb unrhyw gwestiynau ynghylch cael eich pasbort am ddim neu wneud cais am ad-daliad ar y Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr - 0300 222 0000. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth lawn am bob agwedd ar basbortau a sut mae gwneud cais yn yr adran teithio a thrafnidiaeth.
Gallwch wneud cais mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, mae angen ffurflen gais arnoch. Gallwch naill ai lenwi'r ffurflen ar-lein neu gael copi papur o'r ffurflen drwy wneud y canlynol:
Os ydych chi'n byw y tu allan i'r DU dim ond wyneb-yn-wyneb y cewch wneud cais am basbort am ddim i bobl dros 80 oed pan fyddwch yn ymweld â'r DU, neu gallwch gael un drwy eich Is-genhadaeth, eich Uchel Gomisiwn neu eich Llysgenhadaeth Brydeinig leol. Ni allwch wneud cais ar-lein na thrwy'r post.
Gallwch lenwi cais am basbort ar-lein. Ar ôl i chi lenwi a chyflwyno'r ffurflen (sy'n cynnwys cyfarwyddiadau llawn), bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei dychwelyd atoch i'w llofnodi a'i dyddio. Bydd angen i chi wedyn amgáu'r lluniau a'r dogfennau priodol, cyn ei dychwelyd i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau i'w phrosesu.
Gallwch gael eich pasbort mewn gwahanol ffyrdd, gan ddibynnu ar ba mor gyflym y mae arnoch ei angen.
Pan fyddwch chi'n teithio gyda'ch pasbort, mae'n syniad da:
Os digwydd i chi golli'ch pasbort neu os caiff ei ddwyn, cysylltwch â'r Is-genhadaeth, yr Uchel Gomisiwn neu'r Llysgenhadaeth Brydeinig ar unwaith.
Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, neu'n anabl gymwys, mae'ch tocyn bws wedi newid