Os ydych chi'n ddi-waith, boed hynny'n wirfoddol neu am fod eich swydd wedi dod i ben, fe all gymryd amser i ddod o hyd i swydd arall, waeth faint yw eich oed. Fodd bynnag, mae cyfoeth eich profiad yn y gweithle'n hynod o werthfawr ac fe allwch ddefnyddio'ch gwybodaeth a'ch sgiliau i ddod o hyd i waith.
Mae rhaglenni ac adnoddau arbenigol ar gael i bobl dros 50 i'ch helpu i ddod o hyd i waith neu ddysgu sgiliau newydd.
Os ydych chi'n ddi-waith neu'n meddwl am newid gyrfa, mae'n adeg dda i chi edrych eto ar eich profiad a'ch CV. Meddyliwch am y sgiliau sydd gennych i'w cynnig ac a oes angen rhagor o hyfforddiant arnoch er mwyn gwneud eich dewis swydd.
Mae llawer o asiantaethau recriwtio a chynghori ar gael sy'n cynnig help i bobl hŷn sy'n chwilio am waith.
Y Fargen Newydd 50 oed a throsodd
Un o raglenni'r Ganolfan Byd Gwaith yw'r Fargen Newydd 50 oed a throsodd. Mae'n cynnig cymorth a chyngor i bobl dros 50 ddod o hyd i waith. Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant a help os ydych chi wedi'i chael hi'n anodd dod o hyd i swydd neu waith sy'n talu cyflog teg.
Rydych chi'n gymwys ar gyfer y rhaglen os ydych chi neu'ch partner yn derbyn ac wedi bod yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol neu fwy nag un ohonynt am o leiaf chwe mis:
Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig help a chyngor am swyddi a hyfforddiant i bobl sy'n gallu gweithio. Mae sawl rhan o'r Ganolfan Byd Gwaith sy'n berthnasol i geiswyr gwaith hŷn. Mae'r rhain yn cynnwys Canolfannau'r Rhaglen, Timau Gweithredu a hyfforddiant yn y gwaith i oedolion di-waith.
Gall un o gynghorwyr eich Canolfan Byd Gwaith leol drafod gyda chi pa fath o waith hoffech chi a'r cyfleoedd hyfforddi a all fod ar gael.
Dod o hyd i swydd nawr
Mae’r cyfleuster chwilio swyddi a sgiliau Directgov yn eich gadael chi i chwilio am swyddi, hyfforddiant, gwybodaeth gyrfaoedd, gwaith gwirfoddol a darparwyr gofal plant ar draws y DU.
Mae yna dros 400,000 o swyddi i chwilio. Gallwch hefyd gweld proffiliau gyrfa sy'n cynnwys gwybodaeth ynghylch oriau gwaith a chymwysterau.
Mae penderfynu cychwyn ar fenter fusnes newydd drwy ddecrhau busnes eich hunan yn gam mawr. Yn wir, mae'n bwysig bod yn ymwybodol o oblygiadau llawn dod yn hunan-gyflogedig a chael gwybod ble i fynd am help a chyngor.
O 1 Hydref 2006 ymlaen, bydd cwmnïau'n wynebau cosbau ariannol sylweddol os bydd eu harferion cyflogi'n torri deddfau newydd sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail oedran. Bydd gorfodi pobl i ymddeol cyn iddynt gyrraedd 65 a gwahaniaethu ar sail oedran wrth recriwtio, dyrchafu a hyfforddi staff yn cael ei wahardd. Hefyd, bydd rhaid i gyflogwyr ystyried ceisiadau gan eu gweithwyr i gael parhau i weithio ar ôl cyrraedd 65 oed.
Bydd gan bobl dros 65 yr un hawl i daliadau diswyddo annheg a thaliadau pan fydd swydd yn dod i ben â gweithwyr iau dan gamau newydd i wahardd gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithle.
Ymgyrch gan y llywodraeth yw Age Positive a'i nod yw mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran a hyrwyddo amrywiaeth oedran yn y gweithle.