Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cenedligrwydd a dinasyddiaeth

Ceir ffynonellau gwybodaeth ar gyfer pobl sy’n dod i Brydain a gwybodaeth am ddinasyddiaeth a chenedligrwydd yn y DU yn gyffredinol.

Dod i'r DU ar ymweliad, i astudio neu i weithio

Fisas

Mae gwefan fisas y DU yn rhoi manylion am y gofynion o ran dod i mewn i'r DU. Drwy nodi pwrpas eich ymweliad, eich cenedligrwydd a'ch lleoliad, bydd modd i'r wefan roi gwybod i chi a oes angen fisa neu ganiatâd mynediad arnoch, pa ffurflen gais y mae angen i chi ei llenwi, pa ganllawiau y dylech chi eu darllen a ble mae gwneud cais.

Mae'r wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth am warchodwyr plant a staff domestig dramor, aelodau o'r teulu a phlant sydd wedi'u mabwysiadu, gwyliau gweithio, mewnfudwyr sgilgar a buddsoddwyr ym Mhrydain.

Trwyddedau gwaith

Mae'r wefan ar gyfer trwyddedau gwaith yn rhoi gwybodaeth am y gwahanol lwybrau sydd ar gael i bobl sydd â chenedligrwydd tramor a hwythau'n dymuno dod i weithio yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r cynlluniau hyn ar gael i bobl fusnes, gweithwyr domestig, diddanwyr, criwiau ffilm, pobl ar flwyddyn fwlch, mewnfudwyr sgilgar, arloeswyr, buddsoddwyr, gweinidogion yr efengyl, newyddiadurwyr tramor, pobl yn y byd chwaraeon a gweithwyr gwirfoddol.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo

Mae Swyddfa Comisiynydd y Gwasanaeth Mewnfudo (OISC) yn bodoli er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyngor da ar fewnfudo. Ni allant helpu gyda cheisiadau unigol neu roi cyngor, ond gallant ddod o hyd i rywun yn yr ardal sy'n gallu helpu. Mae gwefan OISC yn rhoi manylion sut i ddod o hyd i ymgynghorydd mewnfudo a sut i gwyno os ydych yn credu i chi gael eich trin yn annheg.

Brodori, preswylio, lloches a chenedligrwydd

Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo

Yr Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo yn y Swyddfa Gartref sy'n gyfrifol am geisiadau am genedligrwydd Prydeinig, am ganiatâd i aros ym Mhrydain, am ddinasyddiaeth ac am loches. Mae eu gwefan yn darparu ffurflenni a gwybodaeth am wneud ceisiadau sy'n ymwneud â phob agwedd ar y drefn fewnfudo a chenedligrwydd.

Cenedligrwydd deuol

Yn gyffredinol, nid oes cyfyngiad, yn ôl cyfraith y DU, ar frodor o Brydain rhag bod yn ddinesydd mewn gwlad arall yn ogystal. Felly, os rhoddir cenedligrwydd arall i chi, ni fyddwch chi'n colli eich cenedligrwydd Prydeinig. Yn yr un modd, ni fydd yn rhaid i chi ildio'ch cenedligrwydd arall wrth ddod yn Brydeiniwr. Mae'r Swyddfa Gartref yn darparu gwybodaeth fanylach.

Seremonïau dinasyddiaeth a'r Prawf Byw yn y DU

I ddathlu dod yn ddinesydd Prydeinig, mae'r llywodraeth wedi cyflwyno seremonïau dinasyddiaeth yn ddiweddar.

Mae yna hefyd wefan sy'n rhoi amlinelliad o'r Prawf Byw yn y DU y bydd yn rhaid i lawer o ddinasyddion Prydeinig newydd eu cymryd. Ceir yno gwybodaeth am bwy fydd yn gorfod sefyll y prawf a sut i baratoi ar ei gyfer.

Addysg dinasyddiaeth

Mae dinasyddiaeth yn rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol. Mae nifer o adnoddau ar-lein ar gael.

Y Cwricwlwm Cenedlaethol

Mae gwefannau'r cwricwlwm cenedlaethol ar-lein ar gyfer Lloegr yn rhoi gwybodaeth am raglenni astudio a chanllawiau anstatudol (ar gyfer dinasyddiaeth a phob pwnc arall), yn nodi targedau cyrhaeddiad, ac yn rhoi nodiadau a dolenni i adnoddau dysgu ar-lein.

Mae gwefan y cwricwlwm cenedlaethol ar waith yn darparu enghreifftiau o waith disgyblion a sylwadau.

Yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm

Mae'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (QCA) yn rhoi gwybodaeth am addysg dinasyddiaeth yn Lloegr, mewn ysgolion a sefydliadau dysgu ôl-16

Hanes dinasyddiaeth

Mae'r Archifau Cenedlaethol a'r Archifau Seneddol wedi creu arddangosfa dinasyddiaeth ar-lein.

Mae'r arddangosfa'n archwilio'r hyn y mae bod yn ddinesydd wedi'i olygu dros fileniwm yn hanes Prydain. Mae dinasyddiaeth yn aml yn y newyddion. Ond beth ydyw, a sut mae wedi newid dros y canrifoedd? O ble daeth y Senedd? Sut y cafodd pobl gyffredin hawliau gwleidyddol a chymdeithasol?

Gwefan dinasyddiaeth yr Adran Addysg a Sgiliau

Dysgwch fwy am addysg dinasyddiaeth, pwnc sydd ar y cwricwlwm cenedlaethol, a sut y gallwch chi gyfrannu mewn ffordd gadarnhaol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU