Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawliau dynol

Mae gan ddinasyddion y DU rai hawliau dynol sylfaenol y mae'n ofyn cyfreithiol i lywodraethau ac awdurdodau cyhoeddus eu parchu. Daeth y rhain yn gyfraith fel rhan o Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

Y Ddeddf Hawliau Dynol

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn rhoi grym cyfreithiol yn y DU i'r rhyddid a'r hawliau sylfaenol a geir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR). Nid hawliau sy'n ymwneud â materion bywyd a marwolaeth yn unig ydynt, fel rhyddid rhag cael eich arteithio a'ch lladd, maent hefyd yn effeithio ar eich hawliau mewn bywyd bob dydd: beth gewch chi ei ddweud a'i wneud, eich credoau, eich hawl i gael treial teg a llawer o hawliau sylfaenol tebyg eraill.

Nid yw'r hawliau'n absoliwt – mae gan lywodraethau'r grym i'w cyfyngu neu i'w rheoli mewn cyfnodau o argyfwng neu angen difrifol. Mae gennych hefyd gyfrifoldeb i barchu hawliau pobl eraill – ac i beidio â defnyddio'ch hawliau chi mewn ffordd sy'n debygol o'u rhwystro rhag gallu defnyddio'u hawliau hwy.

Dyma'ch hawliau dynol:

  • yr hawl i fywyd
  • yr hawl i ryddid rhag artaith a chael eich trin mewn modd sy'n eich diraddio
  • yr hawl i ryddid rhag caethwasiaeth a llafur gorfodol
  • yr hawl i ryddid
  • yr hawl i dreial teg
  • yr hawl i beidio â chael eich cosbi am rywbeth nad oedd yn drosedd pan y'i gwnaethoch
  • yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol
  • yr hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd
  • yr hawl i ryddid mynegiant
  • yr hawl i ryddid i ymgynnull a chymdeithasu
  • yr hawl i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil a dechrau teulu
  • yr hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu yng nghyswllt pob hawl a rhyddid a nodwyd
  • yr hawl i fod yn berchen ar eiddo
  • yr hawl i addysg
  • yr hawl i gymryd rhan mewn etholiadau rhydd

Os camddefnyddir unrhyw hawl neu ryddid a enwir uchod mae gennych hawl i ateb effeithiol yn ôl y gyfraith, hyd yn oed os mai rhywun mewn awdurdod, er enghraifft plismon, wnaeth gamddefnyddio'r rhyddid neu'r hawl.

Arfer eich hawliau dynol

...ceisiwch ddatrys y broblem heb fynd i'r llys

 

Os ydych chi mewn sefyllfa lle rydych o'r farn bod eich hawliau dynol yn cael eu sathru, fe'ch cynghorir i geisio datrys y broblem heb fynd i'r llys drwy ddefnyddio cyfryngu neu gorff cwyno mewnol.

Os credwch nad yw eich hawliau wedi cael eu parchu ac na allwch ddatrys y broblem y tu allan i'r llys, mae gennych hawl i ddod ag achos gerbron y llys neu'r tribiwnlys priodol yn y DU. Yna, bydd y llys neu'r tribiwnlys yn ystyried eich achos.

Ceisio cyngor cyfreithiol

Cyn penderfynu cymryd camau cyfreithiol, mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol.

Efallai y gall Cyngor ar Bopeth eich helpu ac fe all Cyngor Cyfreithiol Cymunedol eich rhoi mewn cysylltiad â'r rheini sy'n darparu cyngor yn eich ardal. Ceir hefyd nifer o Ganolfannau Cyfraith ledled y DU, sy'n gallu cynnig cyngor a chymorth i chi ar amrywiol faterion.

Mae Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn darparu llyfryn, 'Deddf Hawliau Dynol 1998 – Gwybodaeth i Ddefnyddwyr Llys', sy'n rhoi gwybodaeth ynghylch sut mae gwneud cais am iawndal neu am arian sy'n ddyledus dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Mae'n nodi rhai pethau pwysig i chi eu hystyried cyn i chi wneud cais o'r fath.

Gwybodaeth ddi-dâl ac mewn iaith dramor am y Ddeddf Hawliau Dynol

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi creu canllaw rhad ac am ddim am y Ddeddf Hawliau Dynol. Hefyd mae llyfryn ar gael sy’n egluro’r Ddeddf Hawliau Dynol mewn termau pob dydd i bobl gydag anawsterau dysgu. Gellir llwytho copïau oddi ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder neu gellir archebu copïau papur am ddim drwy ffonio 020 7210 1437. Mae'r canllaw i'r Ddeddf ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gellir gwneud cais am fersiynau print bras, Braille neu dapiau sain.

Gellir dilyn y dolenni isod i gael fersiynau PDF sy'n rhoi arweiniad i'r Ddeddf yn yr ieithoedd canlynol: Arabeg, Cantoneeg, Saesneg, Ffrangeg, Gwjarati, Pwyleg, Pwnjabeg, Somalieg, Tamil, Wrdw a Chymraeg.

Allweddumynediad llywodraeth y DU