Os credwch chi fod rhywun wedi'ch trin yn annheg neu wedi gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich oedran, eich rhyw, eich hil, eich credoau crefyddol neu eich anabledd, mae cryn dipyn o ddeddfwriaeth, gwybodaeth a chysylltiadau i'ch helpu i ddeall eich hawliau a'u gorfodi.
Sefydlwyd nifer o Gomisiynau i arddel gwerthoedd unigolion a mynd i'r afael ag achosion o wahaniaethu.
Hefyd, mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol wedi llunio taflen gynhwysfawr sy'n rhoi canllawiau manwl am eich hawliau a pha ddeddfwriaeth sy'n eich caniatáu i herio gwahaniaethu.
Y Comisiwn Cyfle Cyfartal yw'r asiantaeth yn y llywodraeth sy'n gyfrifol am gael gwared â gwahaniaethu ar sail rhyw a mathau eraill o wahaniaethu ym Mhrydain. Ceir gwybodaeth arbenigol eang ar eu gwefan ar gyfer unigolion a chyflogwyr, ac mae'n darparu'r canllawiau ymarferol a'r wybodaeth gyfreithiol ddiweddaraf.
Os byddwch chi'n cael eich trin yn annheg yn y gwaith neu gan unrhyw un sy'n darparu gwasanaeth - a chithau'n credu bod hynny am eich bod yn fenyw, neu am eich bod yn ddyn - mae llinell gymorth gyfrinachol ar gael sy'n rhad ac am ddim.
Dyletswydd i Sicrhau Cydraddoldeb rhwng y Ddau Ryw
Daeth y Ddyletswydd i Sicrhau Cydraddoldeb rhwng y Ddau Ryw i rym ym mis Ebrill 2007. Rhaid i bob awdurdod cyhoeddus ddangos eu bod yn hyrwyddo cydraddoldeb i ferched a dynion ac yn cael gwared ag aflonyddu â gwahaniaethu ar sail rhyw. Mynna'r ddyletswydd gyfreithiol bod rhaid i awdurdodau cyhoeddus ddangos eu bod yn trin dynion a merched yn deg.
Mae'r ddyletswydd yn effeithio ar y broses o lunio polisi, ar wasanaethau cyhoeddus megis cludiant, ac ar arferion cyflogaeth megis recriwtio a gweithio hyblyg.
Cydnabod Rhyw
Daeth Deddf Cydnabod Rhyw 2004 i rym ym mis Ebrill 2005. Mae'n rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol i bobl drawsrywiol yn eu rhyw newydd, ar yr amod eu bod yn cyflwyno cais llwyddiannus i'r Panel Cydnabod Rhyw.
Ar ôl cael cydnabyddiaeth gyfreithiol bod eu rhyw wedi newid, gall pobl drawsrywiol briodi yn eu rhyw newydd.
Mae gan y Panel Cydnabod Rhyw wefan sy'n cynnwys gwybodaeth a chyngor i bobl drawsrywiol sy'n dymuno gwneud cais am gydnabyddiaeth rhyw.
Mae Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Cysylltiadau Hiliol 2000) yn amddiffyn unigolion rhag achosion o aflonyddu a gwahaniaethu ar sail hil. Sefydlwyd hawl dan y ddeddf i herio gwahaniaethu mewn llys neu dribiwnlys cyflogaeth.
Mae'r Ddeddf hefyd yn pennu bod gwahaniaethu ar sail hil gan gyrff neu sefydliadau cyhoeddus yn anghyfreithlon ac yn mynnu bod ganddynt bolisïau i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol.
Corff anllywodraethol sy'n cael nawdd cyhoeddus yw'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Fe'i sefydlwyd gan Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976 i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil ac i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol.
Mae'n darparu gwybodaeth a chyngor i bobl sy'n credu eu bod wedi dioddef o wahaniaethu neu aflonyddu ar sail hil, gan weithio gyda chyrff cyhoeddus, busnesau a sefydliadau o bob sector i hyrwyddo polisïau ac arferion a fydd yn sicrhau triniaeth gyfartal i bawb. Mae'r Comisiwn hefyd yn arwain ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n ymwneud â hil, ac yn sicrhau bod pob cyfraith newydd yn rhoi ystyriaeth lawn i'r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol a'r ffordd y mae honno'n amddiffyn rhag gwahaniaethu.
Mae adran 'Pobl anabl' Directgov yn rhoi gwybodaeth am hawliau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, yn rhoi diffiniadau o 'anabledd' ac yn nodi hawliau cyffredinol i gael nwyddau a gwasanaethau.
Corff annibynnol yw'r Comisiwn Hawliau Anabledd a sefydlwyd ym mis Ebrill 2000 drwy Ddeddf Seneddol i roi diwedd ar wahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal i bobl anabl.
Mae'r Comisiwn yn rhoi cyngor a gwybodaeth i bobl anabl, cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau ac yn rhoi cymorth i bobl anabl sicrhau eu hawliau cyfreithiol. Mae'r Comisiwn yn cefnogi achosion cyfreithiol er mwyn mesur hyd a lled y gyfraith ac yn darparu gwasanaeth cymodi i bobl anabl a darparwyr gwasanaethau.
Mae adran Gweithwyr ac adran Dros 50 Directgov yn cynnwys gwybodaeth am ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail oedran.
Ers mis Hydref 2006, mae gwarchodaeth gyfreithiol yn erbyn gwahaniaethu ar sail oedran. Nid yw'n gyfreithiol gwahaniaethu ar sail oedran erbyn hyn. Mae trin gweithwyr yn deg ac adnabod talentau ac anghenion unigolion yn fwy na dim ond gwneud y peth iawn, mae'n gwneud synnwyr o ran busnes hefyd.
Dysgwch fwy am eich hawliau i gael eich trin yn deg yn y gwaith yn adran Gweithwyr Directgov. Ceir gwybodaeth am yr hyn a olygir wrth wahaniaethu ar sail oed, rhyw, hil, anabledd, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol, yn ogystal â'r hyn y gellir ei wneud amdano.
Ym mis Hydref 2007, bydd sefydliad newydd, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn tynnu ynghyd arbenigedd ac adnoddau er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol a mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail rhyw, newid rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, oed a hil. Caiff gwaith y tri Comisiwn presennol, sef y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a'r Comisiwn Cyfle Cyfartal, eu trosglwyddo i'r Comisiwn newydd.
Bydd y Comisiwn yn gweithio yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Caiff pwyllgorau statudol eu sefydlu yng Nghymru a'r Alban a fydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros waith y Comisiwn.