Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawliau defnyddwyr

Cyngor a gwybodaeth am eich hawliau wrth siopa am nwyddau a gwasanaethau a delio gyda nwyddau diffygiol, ac osgoi sgamiau a chael eich twyllo.

Eich hawliau wrth siopa

Consumer Direct

Mae gwefan Consumer Direct yn rhoi cymorth a chyngor am siopa a phrynu yng Ngwledydd Prydain. Mae'n rhoi cyngor am bynciau megis gwyliau, prynu offer trydanol a defnyddio gwerthwyr tai; gwybodaeth am sefyllfaoedd penodol neu faterion fel prynu ar gredyd, nwyddau ffug a gwerthu ar garreg y drws; a chymorth ymarferol ar gyfer cwyno.

Y Swyddfa Masnachu Teg (OFT)

Mae'r Swyddfa Masnachu Teg yn cyhoeddi amrywiaeth o ddeunydd sy'n rhoi cyngor am siopa ar y stryd fawr, siopa o gartref a siopa dros y rhyngrwyd.

Mae'n darparu cyngor am faterioin arbenigol megis prynu cyfrifiadur, ceir ail-law, gwarantau estynedig, gwystlo, asiantaethau tocynnau ac arwerthiannau dros y we.

Safonau masnach

Mae adrannau safonau masnach awdurdodau lleol hefyd yn rhoi cyngor am siopa a phrynu. Bydd llawer yn rhoi cyngor i unigolion sy'n byw yn eu hardal.

Mae eu gwefan hefyd yn darparu manylion cyswllt ar gyfer pob adran safonau masnach drwy'r DU.

Deddf Gwerthu Nwyddau - nwyddau diffygiol

Mae gan yr Adran Diwydiant a Masnach daflen ffeithiau ddefnyddiol ar y gyfraith a nwyddau diffygiol.

Dod o hyd i gyngor i ddefnyddwyr

Gallwch lenwi eich manylion am ble yr ydych yn byw yn y ddolen ganlynol, bydd hyn wedyn yn eich tywys i wefan eich awdurdod lleol.

Sgamiau a rhybuddion

Sgamiau

Mae'r Swyddfa Masnachu Teg (OFT) yn cyhoeddi gwybodaeth am sgamiau diweddar sydd ar y rhyngrwyd, drwy'r post ac ar garreg eich drws.

Taclo'r twyllwyr (Rip-off tip-off)

Sefydlwyd Taclo'r twyllwyr (Rip-off tip-off) gan adrannau safonau masnach lleol i annog y cyhoedd i roi gwybod am fasnachwyr sydd o bosibl yn rhedeg sgam. Mae'r rhain yn cynnwys adeiladwyr cowboi, masnachwyr carreg y drws, gwerthwyr nwyddau ffug, siarcod benthyg arian, cynlluniau gweithio-gartref ffug a chystadleuthau ffug.

Sgamiau ariannol

Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn cyhoeddi'r newyddion diweddaraf am sgamiau a thwyll ynghyd â rhoi gwybod am y materion pwysicaf sy'n wynebu defnyddwyr gwasanaethau ariannol.

Galw cynnyrch yn ôl

Mae gwefan Safonau Masnach yn rhestru'r cynnyrch diweddar sydd wedi'i alw'n ôl ac yn rhoi hysbysiadau diogelwch am gynnyrch gan wneuthurwyr pan fydd nam ar eu nwyddau neu broblemau gyda hwy.

Rhoi gwybod ynghylch masnachu anghyfreithlion ar y stryd

Gallwch lenwi manylion am ble yr ydych yn byw yn y ddolen ganlynol, bydd hyn wedyn yn eich tywys i wefan eich awdurdo lleol ble gallwch gael mwy.

Gwasanaethau ariannol

Cynnyrch ariannol

Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn cyhoeddi gwybodaeth i ddefnyddwyr am gynllunio ariannol, hysbysebu ariannol, yswiriant, pensiynau, morgeisi, buddsoddiadau a chynilion.

Mae gan eu gwefan gyfrifiannell Cyllideb, cyfrifiannell taliadau morgais a thablau yn cymharu gwahanol gynnyrch ariannol masnachol megis cyfrifon cynilo, ISAs, gwaddolion, blwydd-dal pensiwn a sawl peth arall.

Credyd a dyledion

Mae gan y Swyddfa Masnachu Teg ymgyrch i geisio helpu pobl i fynd i'r afael â'u dyledion.

Mae'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn esbonio materion fel y system i raddio ac adfer credyd, benthyciadau a dyledion.

Diogelwch bwyd

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi cyngor am ddiogelwch bwyd, labelu bwyd a bwyta'n iach ar ei gwefannau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU