Mae llawer o wybodaeth a chyngor ar gael ar y materion ymarferol a chyfreithiol ynghylch priodi, byw gyda'ch gilydd a phartneriaethau sifil (i gyplau o'r un rhyw).
Mae Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol wedi cyhoeddi canllaw ar-lein ar briodi. Mae'r wefan yn rhoi gwybodaeth am lle gallwch briodi yng Nghymru a Lloegr a sut i briodi dramor. Mae'r wefan yn sôn am y gofynion cyfreithiol a'r gofynion preswylio ar gyfer priodi, a'r camau sy'n rhaid i chi eu cymryd os oes gwall ar eich tystysgrif priodas.
Mae gan Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol gyfrifoldeb dros Gymru a Lloegr, a cheir swyddfeydd cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Os ydych chi'n chwilio am gopi o'ch tystysgrif briodas, gellir archebu un ar y we neu drwy'r swyddfa gofrestru neu'r adeilad crefyddol ymhle cynhaliwyd y briodas. Mae Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol yn cadw copi canolog o bob cofrestriad yng Nghymru neu Loegr. Mae Swyddfeydd Cofrestru Lleol hefyd yn cadw eu cofnodion eu hunain o'r holl ddigwyddiadau a gofrestrwyd yn eu hardal.
Daeth Deddf Partneriaethau Sifil 2004 i rym ar 5 Rhagfyr 2005 ac mae'n galluogi cyplau o'r un rhyw i gael cydnabyddiaeth gyfreithiol o'u perthynas. Bydd cyplau sy'n ffurfio partneriaeth sifil yn derbyn statws cyfreithiol newydd, sef 'partner sifil'.
Bydd partneriaid sifil yn cael eu trin yn gyfartal â chyplau priod mewn amrywiol faterion cyfreithiol, gan gynnwys:
Sut mae cofrestru partneriaeth sifil
Cyn ffurfio partneriaeth sifil, rhaid i chi 'roi rhybudd' yn gyntaf. Mae hyn yn cynnwys nodi eich bwriad i gofrestru partneriaeth sifil wrth eich awdurdod cofrestru. Unwaith y cewch hwn, caiff eich rhybudd ei gyhoeddi gan yr awdurdod cofrestru am gyfnod o 15 diwrnod. Gellir ffurfio partneriaeth sifil yng Nghymru a Lloegr mewn swyddfa gofrestru neu mewn lleoliadau cymeradwy.
Ceir rhagor o wybodaeth fanwl am y broses o ffurfio partneriaeth sifil a'r costau cysylltiedig gan Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol.
Trefnu partneriaeth sifil
Bydd y ddolen 'Trefnu Partneriaeth Sifil' isod yn gofyn i chi roi manylion eich cyfeiriad ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Budd-daliadau yn seiliedig ar incwm a chwestiynau cyffredin eraill
Ers i'r gyfraith ar bartneriaethau sifil ddod i rym mae newidiadau pwysig wedi dod yn ei sgil sy'n effeithio ar gyplau o'r un rhyw sy'n hawlio budd-daliadau ar sail incwm, waeth os ydynt yn penderfynu ffurfio partneriaeth sifil ai peidio. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyhoeddi taflen yn cynnwys gwybodaeth am sut y gall partneriaethau effeithio ar eich budd-daliadau ac mae'r Uned Merched a Chydraddoldeb wedi cyhoeddi rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin a geir am bartneriaethau sifil.
Mae dros bedair miliwn o gyplau o wahanol ryw yn byw gyda'i gilydd yng Nghymru a Lloegr. Er bod gan barau sy'n cyd-fyw warchodaeth gyfreithiol bellach mewn amryw o feysydd, mae ganddyn nhw a'u teuluoedd gryn dipyn yn llai o gyfrifoldebau na pharau sydd wedi priodi neu sydd wedi ffurfio partneriaeth sifil.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl, ar ôl iddynt fod yn byw gyda'u partner am ychydig o flynyddoedd, eu bod yn dod yn "ŵr a gwraig drwy gyd-fyw" a chanddynt yr un hawliau â pharau priod. Nid yw hyn yn wir. Yn wir, nid oes gan barau sy'n byw gyda'i gilydd fawr ddim o'r un hawliau â pharau priod neu barau sifil.
Nid oes y fath beth â 'phriodas drwy gyd-fyw'.
Os ydych yn byw gyda'ch gilydd fel cwpl, ceir camau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich hun a'ch partner. Ceir ffyrdd hefyd o leihau'r problemau cyfreithiol ac ariannol a allai godi gymaint â phosibl os, fel sy'n gallu digwydd, y byddwch yn penderfynu gwahanu, neu os bydd un ohonoch yn marw.
Gallwch gael gwybodaeth am hawliau presennol cyplau sy'n cyd-fyw gan Advicenow - gwefan annibynnol sy'n cynnig gwybodaeth am hawliau a materion cyfreithiol. Nod eu hymgyrch 'Living Together' yw gwneud pobl o ddau ryw neu o'r un rhyw sy'n byw gyda'i gilydd yn fwy ymwybodol o'u statws cyfreithiol. Mae'r ymgyrch hefyd yn edrych ar gyngor ar sut i ddiogelu eich hun a'ch teulu, pe byddech yn dymuno gwneud hynny.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gwahaniaethau yn statws cyfreithiol parau priod a di-briod, mae adran 'Married or Not' y wefan One Plus One yn rhoi trosolwg i chi.
Bydd y ddolen isod yn gadael i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am sut i drefnu seremoni bartneriaeth sifil yn eich ardal.
Mae gwybodaeth a chyngor ar ysgaru a gwahanu ar gael yn adran rhieni Directgov.