Mae manylion personol mwy na 100,000 o bobl yn cael eu dwyn bob blwyddyn. Drwy ddarganfod rhai o'ch manylion personol, gall troseddwyr wneud cais am gyfrifon banc, cardiau credyd, budd-daliadau a dogfennau swyddogol yn eich enw chi. Gallwch warchod eich hun rhag i ladron ddwyn eich manylion personol drwy ddilyn rhai camau syml.
Un ffordd gyffredin o gael gafael ar eich manylion personol yw chwilota drwy'ch biniau a dwyn dogfennau, llythyrau a derbyniadau yr ydych wedi eu taflu. Neu gallai rhywun sy'n cymryd arno ei fod yn dod o sefydliad cyfreithlon eich ffonio neu anfon e-bost atoch yn gofyn am wybodaeth bersonol gennych.
Gwnewch y pethau canlynol i ddiogelu'ch hun:
Dyma rai arwyddion posib bod rhywun wedi dwyn eich manylion personol:
Gwnewch gais am gopi o'ch ffeiliau credyd, a fydd yn cynnwys manylion am fudiadau yr ydych wedi bod yn delio'n ariannol â nhw yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae tair prif asiantaeth archwiliadau credyd (Callcredit, Equifax and Experian), a allai fod â gwybodaeth wahanol amdanoch. Bydd yn costio £2 i gael adroddiad credyd statudol drwy'r post, neu gallwch gofrestru ar gyfer eu gwasanaethau ar-lein.
Pan dderbyniwch eich adroddiad, edrychwch drwyddo'n fanwl. Os welwch chi unrhyw beth sy'n edrych yn anghyfarwydd, cysylltwch â'r sefydliad ar unwaith.
Os ydych yn meddwl bod eich post ar goll, cysylltwch â'r Post Brenhinol. Gallwch gofnodi'r manylion ar wefan y Post Brenhinol, neu siarad â chynghorydd gwasanaethau i gwsmeriaid ar 08457 740 740. Byddant yn ailgyfeirio eich ymholiad i uned ymchwilio a fydd yn gallu delio â'ch ymholiad.
Dylech bob amser gysylltu â'r heddlu os ydych yn amau bod rhywun wedi bod yn chwilota drwy'ch bin sbwriel neu os oes gennych unrhyw bryderon tebyg, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw reswm dros feddwl bod lleidr wedi dwyn eich manylion personol.
Mae'r Ddeddf Diogelu Data yn rheoleiddio sut y defnyddir eich gwybodaeth bersonol ac yn eich diogelu rhag camddefnydd o'ch manylion personol.
Mae manylion y Ddeddf Diogelu Data yn gymhleth iawn, ond wrth galon y Ddeddf mae 8 o reolau synnwyr cyffredin sef yr Egwyddorion Diogelu Data.
Mae’r rhain yn pennu bod rhaid i wybodaeth bersonol:
Rhaid i fudiadau sy’n defnyddio gwybodaeth bersonol (‘rheolwyr data’) gydymffurfio â’r Egwyddorion hyn.
Mae'r Ddeddf yn diogelu gwybodaeth sensitif yn llymach fyth, er enghraifft eich tarddiad ethnig, eich barn wleidyddol, eich credoau crefyddol, aelodaeth o undeb llafur, eich iechyd, eich bywyd rhywiol a'ch hanes troseddol.
Cael gafael ar eich gwybodaeth
Mae'r Ddeddf, gyda rhai eithriadau, yn rhoi'r hawl i chi gael gwybod pa wybodaeth a gedwir amdanoch gan sefydliadau. Gelwir hyn yn 'hawl i weld gwybodaeth'. Ar gais ysgrifenedig, mae gennych yr hawl i gael copi gyda'r holl wybodaeth sydd gan sefydliadau amdanoch.
Efallai y bydd y sefydliad yn codi ffi arnoch am ddarparu'r wybodaeth, hyd at uchafswm o £10 fel arfer a hyd at £50 gyda chofnodion meddygol papur (h.y. rhai nad ydynt ar gael ar ffurf electronig). Mae gweld pa wybodaeth y mae asiantaethau archwilio credyd yn ei chadw amdanoch yn costio £2.
Stopio marchnata uniongyrchol
Mae gennych hefyd hawl i atal sefydliadau rhag defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Gallwch wneud hyn drwy gofrestru eich manylion gydag un o'r gwasanaethau dewis.
Gorfodir y Ddeddf gan awdurdod annibynnol sef y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae ganddo'r pŵer i gymryd camau yn erbyn sefydliad sy'n camddefnyddio gwybodaeth amdanoch.