Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ynghylch Directgov

Gwefan llywodraeth y DU yw Directgov sy'n rhoi gwybodaeth a gwasanaethau ar-lein i'r cyhoedd.

Beth yw'r wefan?

Mae'n darparu gwybodaeth o wahanol adrannau'r llywodraeth a thu hwnt am bynciau sy'n amrywio o gwblhau eich prawf gyrru ac absenoldeb rhiant i ddod o hyd i swydd neu wasanaeth GIG lleol.

Dod o hyd i wybodaeth a gwasanaethau

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a gwasanaethau drwy chwilio neu gallwch: bori fesul pwnc, er enghraifft:

  • arian
  • cyflogaeth
  • teithio
  • addysg

a dod o hyd i wybodaeth yn ôl grwpiau gwahanol, er enghraifft:

  • pobl anabl
  • pobl dros 50 oed
  • rhieni

Mynediad at wasanaethau ar-lein y llywodraeth

I wneud eich bywyd yn haws gallwch gwblhau amryw o wasanaethau'r llywodraeth ar-lein - o archebu eich prawf gyrru a threthu eich car i adnewyddu eich pasbort neu wneud cais am fenthyciad myfyrwyr.

Sut all Directgov eich helpu chi?

Gyda Direct gallwch gael:

  • y wybodaeth ddiweddaraf yn uniongyrchol gan y llywodraeth
  • gafael ar wybodaeth a gwasanaethau ar-lein 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos
  • cymorth a chyngor drwy eich ffôn symudol a'ch gwasanaeth digidol
  • gafael ar wasanaethau lleol a chanolog y llywodraeth
  • gwasanaeth hygyrch a diogel

Directgov ar eich ffôn symudol a'ch teledu digidol

Mae Directgov ar gael ar bob ffôn symudol sy'n gallu defnyddio'r rhyngrwyd. Os ydych chi ar grwydr neu os nad oes cyfrifiadur personol ar gael i chi, gallwch ddefnyddio eich ffôn i gael y wybodaeth deithio ddiweddaraf, dod o hyd i'ch meddyg agosaf, dysgu am gymorth gyda chostau gofal plant a llawer mwy.

Os ydych yn gwsmer i Sky neu Virgin Media gallwch gael Directgov drwy eich set deledu. Mae gan y gwasanaeth, sydd wedi'i gynllunio'n arbennig ar gyfer y teledu, gyfoeth o wybodaeth sy'n eich galluogi i weld gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn

Gwella Directgov

Rydym bob amser yn ceisio gwella Directgov ac yn croesawu eich adborth. Dyma rai o'r newidiadau a wnaed ar sail yr hyn a ddywedwyd gennych chi:

  • hafan sy'n ei gwneud hi'n haws dod o hyd i wasanaethau allweddol
  • cyfleuster i ddod o hyd i'ch ysgol neu'ch canolfan learndirect agosaf
  • gwell canlyniadau chwilio
  • dolenni hwylus i'ch hoff dudalennau
  • dros 1,800 o gysylltiadau manwl

Dolenni i Directgov

Mae Directgov yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gael dolen at ei dudalennau gwybodaeth. Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i greu dolen i Directgov, ond gallwn ni ddarparu'r geiriau a'r graffigau ar eu cyfer.

Faint o bobl sy'n defnyddio Directgov?

Rydym yn monitro gweithgarwch ar Directgov yn rheolaidd - nifer yr ymweliadau, nifer y defnyddwyr unigryw, nifer y ceisiadau am dudalennau - er mwyn amcangyfrif faint o bobl sy'n defnyddio'r wefan ac i gael gwybod pa dudalennau yw'r rhai mwyaf poblogaidd.

Ymholiadau gan y wasg a'r cyfryngau

Mae gan Directgov dîm ymrwymedig ar gyfer yr holl ymholiadau gan y cyfryngau a'r wasg.

Allweddumynediad llywodraeth y DU