Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pwy sy'n rhedeg y cynlluniau diogelu blaendal tenantiaid?

Mae'r Llywodraeth wedi dyfarnu cytundebau i dri chwmni redeg cynlluniau diogelu blaendal tenantiaid.

Y Gwasanaeth Diogelu Blaendaliadau (DPS)

Y Gwasanaeth Diogelu Blaendaliadau yw'r unig gynllun gwarchod blaendal sy'n diogelu blaendaliadau. Mae am ddim ac ar gael i Landlordiaid ac Asiantau Gosod. Mae'r gwasanaeth yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl gan y llog a enillir gan y blaendaliadau a ddelir. Bydd Landlordiaid ac Asiantau Gosod yn gallu cofrestru a gwneud taliadau ar-lein. Mae ffurflenni papur ar gael hefyd os yw cael mynediad at y we yn broblem. Bydd canolfan alw arbennig a gwasanaeth datrys anghydfodau annibynnol yn cefnogi'r cynllun.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i'r wefan isod neu ffoniwch 0870 707 1 707.

Tenancy Deposit Solutions Ltd (TDSL)

Partneriaeth rhwng Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid ac Yswiriant Hamilton Fraser yw Tenancy Deposit Solutions Ltd (TDSL). Mae'r cynllun diogelu blaendal tenantiaid hwn (ar sail yswiriant) yn galluogi landlordiaid i ddal blaendaliadau, naill ai'n uniongyrchol neu drwy asiantau.Gall asiantau gosod ymuno â'r cynllun hefyd.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i'r wefan isod neu ffoniwch 0871 703 0552.

Y Cynllun Blaendal Tenantiaid (TDS)

Cynllun sy'n datrys anghydfodau ac yn diogelu blaendaliadau ar sail yswiriant yw'r Cynllun Blaendal Tenantiaid. Fe'i rhedir gan Y Gwasanaeth Anghydfodau, sy'n adeiladu ar gynllun a sefydlwyd yn 2003 i ddarparu gwasanaeth sy'n mynd ati i ddatrys anghydfodau a delio â chwynion ar gyfer y diwydiant gosod. Mae'r cynllun newydd yn galluogi asiantau gosod a landlordiaid i ddal blaendaliadau.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i'r wefan isod neu ffoniwch 0845 226 7837.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU