P'un ai'ch bod yn defnyddio beic am hwyl neu er mwyn mynd i'r ysgol neu'r gweithle, mae seiclo'n ffordd dda o fynd o le i le. Mae'n gyflym, yn eco-gyfeillgar, ac yn dda i chi.
Mae'n hawdd cychwyn arni - yr unig bethau y bydd eu hangen arnoch yw beic, helmed ddiogelwch a rhyw fath o ffordd o sicrhau y bydd eraill yn medru'ch gweld yn rhwydd. Gall eich siop seiclo leol eich cynghori pa feic fyddai'r mwyaf addas ar gyfer eich anghenion chi.
Cyn i chi gychwyn arni, bydd angen i chi wneud rhai gwiriadau syml er mwyn sicrhau eich bod chi a'ch beic yn barod i fynd ar y lôn:
Os na fuoch ar gefn beic ers tro neu hyd yn oed os yw seiclo'n rhywbeth cwbl newydd i chi, y naill ffordd neu'r llall, mae'n werth buddsoddi amser mewn cwrs hyfforddiant ar feic.
Mae safon genedlaethol tair lefel newydd wedi cael ei datblygu er mwyn darparu i seiclwyr yr holl sgiliau y bydd arnynt eu hangen i'w galluogi i seiclo'n ddiogel. Gallwch ddod o hyd i fanylion hyfforddwyr yn eich ardal chi drwy ffonio Llinell Gymorth Hyfforddiant Seiclo Cenedlaethol ar 0870 607 0415. Ceir rhestr o hyfforddwyr ar wefan y CTC (Cycling Tourists Club) hefyd:
Argymhellir eich bod yn cael gafael ar gyfarpar sylfaenol fel y gallwch seiclo mewn modd diogel a phleserus. Mae'r rhain yn cynnwys:
Bydd nifer o gynghorau lleol yn cyhoeddi mapiau seiclo sy'n dangos teithiau oddi ar y ffordd a theithiau ar y ffordd sy'n fwy diogel. Bydd rhai awdurdodau yn sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael ar-lein a thrwy gyfrwng swyddfeydd gwybodaeth i dwristiaid.
Rhwydwaith cenedlaethol o lwybrau ar y ffordd ac oddi ar y ffordd yw'r Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol (NCN), ac fe'i hyrwyddir gan yr elusen drafnidiaeth Sustrans. Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn a allai fod yn ddefnyddiol wrth drefnu taith seiclo ar y rhyngrwyd.
Yn Llundain, gallwch hefyd drefnu'ch taith seiclo gan ddefnyddio gwasanaeth trefnu taith Transport for London (TFL):
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am seiclo yn Llundain ar y rhyngrwyd gan Rwydwaith Seiclo Llundain, yn cynnwys mapiau y gellir eu llwytho o bob Bwrdeistref. Neu gallwch ofyn am fersiwn printiedig yn eich gorsaf drenau neu orsaf diwb leol.
Gall cyfuno teithiau ar feic ac ar drenau fod yn anodd yn ystod oriau brig ar drenau. Cyfyngir beiciau confensiynol fel arfer, ond rhoddir rhyddid i feiciau plygu deithio heb unrhyw gyfyngiad, oni ddywedir yn wahanol.
Caiff rheolau gwahanol eu pennu gan gwmnïau trenau gwahanol felly cysylltwch ag Ymholiadau’r Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50 i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau yn eich ardal chi.