Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Amgueddfeydd ac orielau

Ydych chi'n awyddus i gael diwrnod i'r brenin sy'n hwyl ac yn addysgiadol ar yr un pryd? Beth am ymweld ag amgueddfa neu oriel? Mae cannoedd o orielau ac amgueddfeydd ym mhob cwr o wledydd Prydain sy'n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, o hanes lleol i gelf fodern, o ddeinosoriaid i rocedi.

Be sy ’mlaen

Gallwch gymryd rhan yn un o'r llu o weithdai a digwyddiadau sydd ar y gweill ledled y wlad. Yn aml iawn, bydd digwyddiadau a gweithgareddau arbennig yn cael eu cynnal i blant, yn enwedig yn ystod gwyliau'r ysgol.

Gallwch hefyd gael gwybod beth sy'n digwydd mewn canolfan leol heddiw. Ar wefan yr Amgueddfa 24 awr, cewch gyfle i chwilio am beth sy'n digwydd ym mhob cwr o'r DU. Edrychwch ar yr arddangosfa a ddisgrifir ar wefan yr Amgueddfa 24 awr neu dilynwch un o'r llwybrau a awgrymir. Mae'n debygol iawn y gwelwch chi rywbeth o ddiddordeb i chi.

Arddangosfeydd ar-lein

Gallech fynd ar daith o gwmpas un o'r rhith-arddangosfeydd ar wefan yr Amgueddfa 24 awr. Os byddwch yn dewis ymweld ag un o'r safleoedd celf ar-lein, cofiwch y gall y cynnwys fod yn anaddas i blant am fod y thema'n un a fwriedir ar gyfer oedolion.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU