Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 9 Chwefror 2012

Chi a’ch beic

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn teimlo’n hyderus y byddwch yn gallu seiclo’n ddiogel ar y ffordd. Gwnewch yn siŵr

  • eich bod yn dewis beic o’r maint a’r math cywir i fod yn gyfforddus ac yn ddiogel
  • bod y goleuadau a’r adlewyrchyddion yn cael eu cadw’n lân ac yn gweithio’n iawn
  • bod y teiars mewn cyflwr da ac wedi’u pwmpio i’r pwysau a ddangosir ar y teiar
  • bod y gêrs yn gweithio’n iawn
  • bod y gadwyn wedi’i haddasu a’i hiro’n gywir
  • bod y cyfrwy a’r cyrn wedi’u haddasu i’r uchder iawn

Argymhellir eich bod yn gosod cloch ar eich beic.

RHAID i chi

  • wneud yn siŵr fod eich brêcs yn effeithlon
  • yn y nos, defnyddio goleuadau blaen ac ôl, a chael adlewyrchydd coch ar y cefn

[Cyfreithiau PCUR rheoliadau 6 a 10 & RVLR rheoliad 18]

Gall hyfforddiant seiclo helpu plant ac oedolion fel ei gilydd, yn enwedig yr oedolion hynny sy’n ailafael mewn seiclo, er mwyn meithrin y sgiliau angenrheidiol i seiclo’n ddiogel ar ffyrdd y dyddiau hyn. Mae safon cenedlaethol newydd wedi’i ddatblygu ar gyfer hyfforddiant seiclo ac mae’r Llywodraeth yn hybu’r safon hwn ac yn rhyddhau cyllid er mwyn ei gyflwyno mewn ysgolion.

Dylai pob seiclwr ystyried y manteisio o ddilyn yr hyfforddiant seiclo. Am fwy o wybodaeth, cyslltwch â’ch awdurdod lleol.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU