Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Defnyddiwr y ffordd a’r gyfraith

Cyfraith traffig y ffordd fawr

Mae’r rhestr isod i’w gweld ar ffurf byrfoddau ledled y Rheolau. Nid yw wedi’i bwriadu i fod yn arweiniad cynhwysfawr ond, yn hytrach, fel canllaw i rai o bwyntiau pwysig y gyfraith. I gael union eiriad y gyfraith, dylid cyfeirio at y gwahanol Ddeddfau a’r Rheoliadau (fel y’u diwygiwyd) a nodir yn y Rheolau. Rhestrir y byrfoddau ar y dudalen ganlynol.

Mae’r rhan fwyaf o’r darpariaethau yn berthnasol i bob ffordd ar hyd a lled Prydain Fawr, er bod rhai eithriadau. Y diffiniad o ffordd yng Nghymru a Lloegr yw ‘unrhyw ffordd fawr ac unrhyw ffordd arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddi gan gynnwys pontydd y bydd ffordd yn mynd drostynt’ (RTA 1988 adran 192(1)). Yn yr Alban ceir diffiniad tebyg sydd wedi ei ehangu i gynnwys unrhyw ffordd lle mae gan y cyhoedd hawl tramwy (R(S)A 1984 adran 151(1)).

Mae’n bwysig nodi fod cyfeiriadau at ‘ffordd’, felly, yn gyffredinol yn cynnwys llwybrau troed, llwybrau ceffyl a llwybrau beiciau a llawer iawn o ffyrdd a rhodfeydd ar dir preifat (yn cynnwys llawer iawn o feysydd parcio). Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y gyfraith yn berthnasol iddynt a gallai fod rheolau ychwanegol ar gyfer llwybrau neu ffyrdd arbennig. Mae rhai troseddau gyrru difrifol, yn cynnwys yfed a gyrru, yn berthnasol i bob man cyhoeddus, er enghraifft meysydd parcio cyhoeddus.

Deddfau a rheoliadau [byrfoddau mewn cromfachau]

Gallwch weld deddfau a rheoliadau ers 1988 ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus. Dim ond yn eu fformat print gwreiddiol y mae deddfau a rheoliadau cyn 1988 ar gael ond fe ellir gael copïau ohonynt gan y Llyfrfa. Am ragor o wybodaeth ymwelwch â wefan y Llyfrfa.

Deddfau a rheoliadau cyn 1988

Ddeddf Cleifion Cronig a Phobl Anabl 1970   [CSDPA]

Gorchymyn Swyddogaethau Wardeiniaid Traffig 1970   [FTWO]

Deddf Llundain Fwyaf (Pwerau Cyffredinol) 1974   [GL(GP)A]

Deddf Priffyrdd 1835 neu 1980 (fel a nodir)   [HA]

Rheoliadau Beiciau Modur (Helmedau Amddiffyn) 1980   [MC(PH)R]

Rheoliadau Traffig ar Draffyrdd (Cymru a Lloegr) 1982   [MT(E&W)R]

Rheoliadau Diwygiedig Traffig ar Draffyrdd (Cymru a Lloegr)   [MT(E&W)(A)R]

Rheoliadau Beiciau (Gwneuthuriad a Defnydd) 1983   [PCUR]

Deddf Cerbydau Teithwyr Cyhoeddus 1981  [PPVA]

Deddf Traffig y Ffyrdd 1984, 1988 neu 1991 (fel a nodir)   [RTA] 

Deddf Rheoliad Traffig y Ffyrdd 1984   [RTRA]

Rheoliadau Cerbydau’r Ffordd (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986   [CUR]

Deddf Ffyrdd (Yr Alban) 1984   [R(S)A]

Deddfau a rheoliadau ers 1988

Cymorth gyda ffeiliau PDF

* Ceir ddedfwriaeth benodol sy’n ymwneud ag ysmygu mewn cerbydau sy’n gyfystyr â mannau gwaith. Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â'r dolenni isod:

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU