Y senedd sydd yn gosod y cosbau uchaf ar gyfer troseddau traffig. Mae difrifoldeb y drosedd yn cael ei adlewyrchu yn y gosb uchaf. Y llysoedd sydd i benderfynu pa gosb i’w rhoi yn unol â’r amgylchiadau.
Mae’r tabl cosbau ar dudalen 126 yn dangos rhai o’r prif droseddau a’r cosbau cysylltiedig. Ceir amrediad eang o droseddau eraill, mwy penodol, nad ydynt, er mwyn symlrwydd, yn cael eu dangos yma. Disgrifir y pwyntiau cosb a’r system wahardd isod.
Bwriad y system pwyntiau cosb yw atal gyrwyr a beicwyr modur rhag dilyn aferion moduro anniogel. Gallwch gael pwyntiau cosb am rai troseddau nad ydynt yn ymwneud â moduro e.e. methu â thrwsio nam ar y cerbyd. RHAID i’r llys orchymyn i bwyntiau gael eu harnodi ar y drwydded yn unol â’r nifer penodedig neu’r ystod a bennwyd gan y Senedd. Mae casglu pwyntiau’n rhybuddio gyrwyr a beicwyr modur bod perygl iddynt gael eu gwahardd os byddant yn cyflawni rhagor o droseddau.
[Cyfraith RTOA adrannau 44 a 45]
RHAID i yrrwr neu feiciwr modur sy’n casglu 12 neu ragor o bwyntiau cosb o fewn cyfnod o dair blynedd gael ei wahardd. Cyfnod byrraf y gwaharddiad fydd chwe mis, neu’n hirach os yw’r gyrrwr neu’r beiciwr modur wedi’i wahardd o’r blaen.
[Cyfraith RTOA adran 35]
Am bob trosedd sy’n cario pwyntiau cosb, mae gan y llys rym dewisol i orchymyn bod deiliad y drwydded yn cael ei wahardd. Gall hyn fod am unrhyw gyfnod sy’n briodol ym marn y llys ond, gan amlaf, bydd yn para rhwng wythnos ac ychydig fisoedd.
Yn achos troseddau difrifol, megis gyrru’n beryglus ac yfed a gyrru RHAID i’r llys orchymyn gwahardd. Y cyfnod byrraf yw 12 mis, ond i’r rheini sy’n aildroseddu neu lle mae lefel yr alcohol yn uchel, gall fod yn hirach. Er enghraifft, bydd ail drosedd yfed a gyrru o fewn cyfnod o 10 mlynedd yn arwain at isafswm o dair blynedd o waharddiad.
[Cyfraith RTOA adran 34]
Nodir os gwelwch yn dda mai cosbau uchaf yw'r cosbau y rhestrir dan 'Carchar', 'Dirwy' a 'Gwahardd'.
|
Trosedd |
Carchar |
Dirwy |
Gwahardd |
Pwyntiau Cosb |
|---|---|---|---|---|
|
*Achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus |
14 mlynedd |
Diderfyn |
Gorfodol - 2 flynedd o leiaf |
3-11 (os, fel eithriad, na cheir gwaharddiad) |
|
*Gyrru’n beryglus |
2 flynedd |
Diderfyn |
Gorfodol |
3-11 (os, fel eithriad, na cheir gwaharddiad) |
|
*Achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal o dan ddylanwad y ddiod neu gyffuriau |
14 mlynedd |
Diderfyn |
Gorfodol - 2 flynedd o leiaf |
3-11 (os, fel eithriad, na cheir gwaharddiad) |
|
Gyrru’n ddiofal neu heb ystyriaeth |
- |
£5,000 |
Dewisol |
3-9 |
|
Gyrru a chithau’n anabl i wneud hynny oherwydd y ddiod neu gyffuriau neu oherwydd gormodedd o alcohol; neu fethu â rhoi sbesimen i’w ddadansoddi |
6 mis |
£5,000 |
Gorfodol |
3-11 (os, fel eithriad, na cheir gwaharddiad) |
|
Peidio â stopio ar ôl damwain neu beidio â rhoi gwybod am ddamwain |
6 mis |
£5,000 |
Dewisol |
5-10 |
|
Gyrru ar ôl cael eich gwahardd |
6 mis (12 mis yn yr Alban) |
£5,000 |
Dewisol |
6 |
|
Gyrru ar ôl i drwydded gael ei gwrthod neu ei thynnu’n ôl am resymau meddygol |
6 mis |
£5,000 |
Dewisol |
3-6 |
|
Gyrru heb yswiriant |
|
£5,000 |
Dewisol |
6-8 |
|
Defnyddio cerbyd mewn cyflwr peryglus |
- |
LGV £5,000 PCV £5,000 Arall £2,500 |
Yn ôl disgresiwn ym mhob achos |
3 ym mhob achos |
|
Peidio â rheoli cerbyd yn gywir neu gael golwg llawn o'r ffordd a'r traffig sydd o'ch blaen, neu ddefnyddio ffôn symudol sy’n cael ei ddal â llaw wrth yrru |
- |
£1,000 (£2,500 am PCV neu gerbyd nwyddau) |
Dewisol |
3 |
|
Gyrru mewn ffordd nad yw’n unol â’r drwydded |
- |
£1,000 |
Dewisol |
3-6 |
|
Goryrru |
- |
£1,000 (£2,500 am droseddau ar y draffordd) |
Dewisol |
3-6 neu 3 (cosb benodedig) |
|
Troseddau goleuadau traffig |
- |
£1,000 |
Dewisol |
3 |
|
Dim tystysgrif MOT |
- |
£1,000 |
|
- |
|
Troseddau gwregysau diogelwch |
- |
£500 |
|
- |
|
Beicio’n beryglus |
- |
£2,500 |
|
- |
|
Beicio’n ddiofal |
- |
£1,000 |
|
- |
|
Beicio ar y palmant |
- |
£500 |
|
- |
|
Peidio ag enwi gyrrwr cerbyd |
- |
£1,000 |
Dewisol |
6 |
* Pan fydd llys yn gwahardd person ar ôl ei euogfarnu am un o’r troseddau hyn, rhaid iddo orchymyn ail brawf estynedig. Hefyd, mae gan y llysoedd ddisgresiwn i orchymyn ail brawf am unrhyw drosedd arall sy’n dwyn pwyntiau cosb; yn achos gwaharddiad gorfodol rhaid sefyll ail brawf estynedig, a phrawf arferol pan nad yw’r gwaharddiad yn orfodol.
Ar ben hynny, mewn rhai achosion difrifol, RHAID i’r llys (yn ogystal â phennu cyfnod gwahardd penodedig) orchymyn bod y troseddwr yn cael ei wahardd nes bydd yn pasio prawf gyrru. Mewn achosion eraill, mae gan y llys rym dewisol i orchymyn gwaharddiad o’r fath. Gall y prawf fod yn brawf o hyd arferol neu’n brawf estynedig, yn dibynnu ar natur y drosedd.
[Cyfraith RTOA adran 36]
Gyrwyr newydd. Mae rheolau arbennig, fel a nodir isod, mewn grym am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad pasio’r prawf gyrru cyntaf ar gyfer
Os yw person sy’n destun y rheolau arbennig yn casglu chwech neu fwy o bwyntiau cosb cyn diwedd y cyfnod dwy flynedd (gan gynnwys unrhyw bwyntiau a gafwyd cyn pasio’r prawf), caiff y drwydded ei diddymu’n awtomatig. I adennill y drwydded, rhaid iddynt ailymgeisio am drwydded dros dro a dim ond hawliau dysgwr sydd ganddynt i yrru hyd nes eu bod yn pasio prawf gyrru pellach (gweler hefyd 'Cod diogelwch ar gyfer gyrwyr newydd').
[Cyfraith RT(ND)A]
Nodyn. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydynt yn talu am eu troseddau drwy gosb benodedig. Nid yw’r rheolau arbennig yn effeithio ar yrwyr yn y grŵp cyntaf (y DU, UE/AEE ayb.) sydd â thrwydded lawn ar gyfer un math o gerbyd yn barod ac wedyn yn pasio prawf i yrru math arall o gerbyd.
Lle ceir trosedd y mae modd ei chosbi drwy garcharu, gall y cerbyd a gafodd ei ddefnyddio i gyflawni’r drosedd gael ei atafaelu.
[CyfraithPCC(S)A, adran 143]
Yn ychwanegol at y cosbau y gall llys benderfynu eu dyfarnu, mae cost yswiriant yn debygol o godi’n sylweddol yn dilyn euogfarn am drosedd yrru ddifrifol. Y rheswm am hyn yw bod cwmnïau yswiriant yn credu bod gyrwyr o’r fath yn fwy tebygol o fod mewn gwrthdrawiad.
Bydd gyrwyr sy’n cael eu gwahardd yn sgil yfed a gyrru ddwywaith o fewn 10 mlynedd, neu unwaith os ydynt dros ddwywaith a hanner dros y cyfyngiad cyfreithiol, neu’r rheini sy’n gwrthod rhoi sbesimen, hefyd yn gorfod bodloni Cangen Feddygol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau nad oes ganddynt broblem alcohol a’u bod, fel arall, yn abl i yrru cyn y caiff eu trwydded ei dychwelyd ar ddiwedd y cyfnod gwahardd. Gall camddefnyddio mynych ar gyffuriau neu alcohol arwain at a dynnu trwydded gyrrwr oddi arno.