Mynd i'r prif gynnwys
Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Dangosir diagramau o’r holl linellau ar 'Marciau ar y ffordd'.
Llinell wen fylchog. Mae hon yn dynodi canol y ffordd. Pan fydd y llinell hon yn ymestyn a’r bylchau’n mynd yn fyrrach, mae’n golygu bod perygl o’ch blaen. Peidiwch â’i chroesi nes eich bod yn gweld bod y ffordd yn glir ymhell o’ch blaen a’ch bod yn dymuno pasio neu droi i ffwrdd.
Llinellau gwyn dwbl - mae’r llinell agosaf atoch yn fylchog. Mae hyn yn golygu bod hawl gennych i groesi’r llinellau i basio os yw’n ddiogel, ar yr amod y gallwch gwblhau’r symudiad cyn cyrraedd llinell wen ddi-dor ar eich ochr chi. Mae saethau pwyntio gwynion ar y ffordd yn dynodi bod angen i chi fynd yn ôl i’ch ochr chi o’r ffordd.
Llinellau gwyn dwbl - mae’r llinell agosaf atoch yn ddi-dor. RHAID I CHI BEIDIO â’i chroesi na gyrru bob ochr iddi oni bai ei bod yn ddiogel a bod angen i chi fynd i mewn i eiddo neu ffordd ochr gyffiniol. Gallwch groesi’r llinell os oes rhaid, a bod y ffordd yn glir, i basio cerbyd sy’n sefyll yn ei unfan, neu i basio beic pedlo, ceffyl neu gerbyd cynnal a chadw ffyrdd, os ydynt yn teithio ar 10 mya (16 km/awr) neu lai.
[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliadau 10 a 26]
Rhannau o’r ffordd wedi’u peintio â streipiau gwyn lletraws neu linellau onglog. Bwriad y rhain yw gwahanu lonydd traffig neu ddiogelu traffig sy’n troi i’r dde.
[Cyfreithiau MT(E&W)R rheoliadau 5, 9, 10 a 16, MT(S)R rheoliadau 4, 8, 9 a 14, RTA adran 36 a TSRGD 10(1)]
Rhaniadau lonydd. Llinellau gwyn byr, bylchog yw’r rhain a defnyddir nhw ar ffyrdd llydan i’w rhannu’n lonydd. Dylech gadw oddi mewn iddynt.
Gall stydiau adlewyrchol ar y ffordd gael eu defnyddio gyda llinellau gwynion.
Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.