RHAID I CHI BEIDIO â pharcio ar groesfan nac mewn man sydd a llinellau igam-ogam arno. RHAID I CHI BEIDIO â phasio y cerbyd agosaf at y groesfan sy’n symud na’r cerbyd agosaf at y groesfan sydd wedi stopio i ildio i gerddwyr.
[Cyfreithiau ZPPPCRGD rheoliadau 18, 20 a 24, RTRA adran 25(5) a TSRGD rheoliadau 10, 27 a 28]
Mewn ciw traffig, dylech gadw’r groesfan yn glir.
Dylech gymryd gofal arbennig lle rhwystrir chi rhag gweld y naill ochr neu’r llall o’r groesfan gan draffig sy’n ciwio neu gerbydau sydd wedi’u parcio’n anghywir. Gallai cerddwyr fod yn croesi rhwng cerbydau sy’n sefyll yn eu hunfan.
Gadewch ddigon o amser i gerddwyr groesi a pheidiwch â’u herio drwy refio’ch injan na symud ymlaen yn araf.
Croesfannau sebra. Wrth agosáu at groesfan sebra
Mae croesfan sebra gydag ynys yn y canol yn ddwy groesfan wahanol (gweler Rheol 20).
[Cyfraith ZPPPCRGD rheoliad 25]
Croesfannau a reolir gan arwyddion
Croesfannau pelican. Croesfannau sy’n cael eu rheoli gan arwyddion yw’r rhain lle bydd golau ambr sy’n fflachio yn dilyn y golau 'Stop' coch. RHAID i chi stopio pan fydd y golau coch i’w weld. Pan fydd y golau ambr yn fflachio, RHAID i chi ildio i unrhyw gerddwyr ar y groesfan. Os yw’r golau ambr yn fflachio ac nad oes cerddwyr ar y groesfan, gallwch fynd yn eich blaen gyda gofal.
[Cyfreithiau ZPPPCRGD rheoliadau 23 a 26 a RTRA adran 25(5)]
Un groesfan yw croesfannau pelican sy’n mynd yn syth ar draws y ffordd, hyd yn oed pan fydd ynys yn y canol. RHAID i chi aros i gerddwyr sy’n croesi o’r ochr draw i’r ynys.
[Cyfraith ZPPPCRGD rheoliad 26 a RTRA adran 25(5)]
Ildiwch i unrhyw un sy’n dal i groesi ar ôl i’r arwydd i gerbydau newid i wyrdd. Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i bob croesfan.
Croesfannau twcan, croesfannau pâl a chroesfannau i geffylau. Mae’r rhain yn debyg iawn i groesfannau pelican, ond ni cheir y cam golau ambr yn fflachio; mae trefn y goleuadau i draffig wrth y tri math hyn o groesfan yr un peth ag wrth oleuadau traffig. Os nad yw’r groesfan a reolir gan signalau yn gweithio, ewch yn eich blaen yn ofalus iawn.