Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

200-203: Bacio

200

Dewiswch fan priodol i facio. Os oes rhaid i chi droi’ch cerbyd i wynebu’r ffordd arall, arhoswch nes byddwch wedi dod o hyd i le diogel. Ceisiwch beidio â bacio na throi i wynebu’r ffordd arall ar ffordd brysur; dylech ddod o hyd i ffordd gefn dawel neu gyrrwch o gwmpas bloc o strydoedd cefn.

201

Peidiwch â bacio allan o ffordd gefn i briffordd. Wrth ddefnyddio’r dreif at eiddo, dylech facio i mewn a gyrru allan os yw’n bosibl.

202

Edrychwch yn ofalus cyn dechrau bacio. Dylech

  • ddefnyddio pob drych
  • troi i edrych yn y ‘man dall’ y tu ôl i chi (y rhan o’r ffordd na allwch ei gweld yn rhwydd yn y drych)
  • gwneud yn siŵr nad oes unrhyw gerddwyr (yn enwedig plant), seiclwyr, defnyddwyr eraill y ffordd, na rhwystrau ar y ffordd y tu ôl i chi
Rheol 202 Edrychwch o’ch cwmpas wrth facio

Baciwch yn araf gan

  • edrych o’ch cwmpas
  • edrych drwy’r ffenestr gefn yn bennaf
  • bod yn ymwybodol bod blaen eich cerbyd yn mynd i wyro allan wrth i chi droi

Gofynnwch i rywun eich arwain os nad ydych yn gallu gweld yn glir.

203

RHAID I CHI BEIDIO â bacio’ch cerbyd ymhellach nag sydd raid.

[Cyfraith CUR rheoliad 106]

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU