Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pasbortau cyfunol a phwy gaiff eu defnyddio

Mae pasbort cyfunol (neu grŵp) yn ffordd hawdd a chost-effeithiol i grwpiau cymeradwy o bobl ifanc fynd ar deithiau tramor. Yma, cewch wybod pwy gaiff ddefnyddio pasbort cyfunol a sut mae gwneud cais am un. Gwnewch gais yn fuan - dylech ganiatáu chwe wythnos i gael pasbort cyfunol.

Ar gyfer pwy mae pasbortau cyfunol

Gellir rhoi pasbort cyfunol i grwpiau cymeradwy o fyfyrwyr, sgowtiaid, geidiaid neu fudiadau ieuenctid eraill sy'n bwriadu teithio dramor gyda'i gilydd. Ni allwch ei ddefnyddio i deithio yn y DU.

Gellir cynnwys rhwng pump a hanner cant o blant a phobl ifanc ar basbort cyfunol. Ar gyfer grŵp mwy, dylech wneud cais am ddau neu ragor o basbortau cyfunol a rhannu'r grŵp rhyngddynt.

Rhaid i bawb sydd ar y pasbort cyfunol fod yn iau na18 oed pan ddaw'r daith sydd wedi'i threfnu i ben. Rhaid iddynt hefyd fod yn ddinasyddion Prydeinig, sy'n golygu un o'r canlynol:

  • Dinesydd Prydeinig (cofiwch ei bod yn bosib nad yw plant a aned yn y DU ar 31 Rhagfyr 1982 neu ar ôl hynny yn ddinasyddion Prydeinig)
  • Dinesydd yn un o diriogaethau tramor Prydain
  • Dinesydd Prydeinig dramor
  • Deiliad Prydeinig
  • Dinesydd Prydeinig (dramor)
  • Unigolyn wedi'i warchod gan Brydain


Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanylach am bob un o'r grwpiau hyn yn yr adran 'Grwpiau cenedligrwydd sy'n gymwys i gael pasbort Prydeinig'.

Os nad ydych yn siŵr am genedligrwydd neu eich bod yn dymuno trafod unrhyw eithriadau i'r uchod cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Arweinyddion Grwpiau a Dirprwy Arweinyddion

Mae'n rhaid i bob grŵp enwebu oedolyn yn Arweinydd y Grŵp i deithio gyda hwy.

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd yn argymell bod grwpiau'n enwebu Dirprwy Arweinydd. Gallai'r person hwn gymryd yr awenau petai'r Arweinydd yn sâl, er enghraifft. Os nad oes Dirprwy Arweinydd wedi'i enwebu, ac nad yw'r Arweinydd yn gallu teithio, bydd y pasbort cyfunol yn annilys. Drwy enwebu Dirprwy, gall y grŵp osgoi oedi tra mae enw Arweinydd newydd yn cael ei ychwanegu at y pasbort cyfunol.

Rhaid i Arweinyddion Grwpiau a Dirprwy Arweinyddion fod dros 21 oed ac mae'n ofynnol bod ganddynt basbort Prydeinig deg-mlynedd dilys.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais mewn da bryd

Erbyn hyn, ymdrinnir â'r holl geisiadau am basbortau cyfunol o'r DU yn Swyddfa'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn Durham. Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithio i amserlen gwblhau lem a dylech ganiatáu chwe wythnos ar gyfer prosesu cais am basbort cyfunol.

Er bod y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ceisio cwblhau ceisiadau erbyn y dyddiadau teithio, ni all warantu anfon pasbortau cyfunol mewn llai na chwe wythnos.

Y camau nesaf - sut mae gwneud cais

Gallwch gael y ffurflen gais a manylion am y dogfennau ategol y bydd eu hangen arnoch yn yr adrannau canlynol:

  • 'Y ffurflen gais ar gyfer pasbortau cyfunol'
  • 'Dogfennau ategol ar gyfer pasbortau cyfunol'

Additional links

Llinell Gymorth Pasbortau

I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:

- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000

Allweddumynediad llywodraeth y DU