I wneud cais am basbort cyfunol mae angen i chi ddarparu dogfennau ategol, yn ogystal â ffurflen gais. Mae dogfennau ategol yn cynnwys ffurflenni caniatâd rhieni wedi'u llofnodi ar gyfer pob plentyn neu unigolyn ifanc a llythyr cefnogi ar gyfer pob cais neu fudiad sy'n gysylltiedig.
Bydd angen i chi gael ffurflen gais benodol ar gyfer pasbortau cyfunol. Gweler 'Y ffurflen gais ar gyfer pasbortau cyfunol' am fanylion llawn.
Mae'r ffurflen hon yn galluogi'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau i gadarnhau cenedligrwydd pob plentyn ac i wneud yn siŵr ei bod yn iawn iddynt deithio. Rhaid i chi gynnwys ffurflen wedi'i chwblhau'n llawn ar gyfer pob plentyn.
Ceir dwy fersiwn o’r ffurflen:
Dylech roi copi o'r ffurflen berthnasol i bob plentyn er mwyn i'w rhieni neu'u gofalwyr ei llenwi a'i llofnodi.
Gallwch argraffu copïau o ffurflenni CPNQ1 a CPNQ2.
Os yw rhieni'r plentyn yn briod
Caiff y naill riant neu'r llall lofnodi'r ffurflen.
Os yw rhieni'r plentyn bellach wedi ysgaru
Os oeddent yn briod naill ai pan aned y plentyn (neu, ar gyfer y rheini sy'n byw yn yr Alban, pan ddaeth y fam yn feichiog) neu unrhyw adeg ar ôl genedigaeth y plentyn:
oni bai fod llys wedi gwneud gorchymyn ynghylch cyfrifoldeb rhiant neu ynghylch rhoi pasbort i'r plentyn. Rhaid anfon unrhyw orchymyn fel hwn gyda'r cais.
Cofiwch, nid yw'r ffaith bod gan un rhiant orchymyn cystodaeth neu gytundeb cynhaliaeth yn golygu bod y rhiant arall yn colli cyfrifoldeb rhiant.
Os nad yw rhieni plentyn yn briod nac erioed wedi bod yn briod â'i gilydd
Caiff y fam lofnodi'r ffurflen.
Dim ond yn yr achosion canlynol y caiff y tad lofnodi'r ffurflen:
Nid yw'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn llungopïau o ddogfennau.
Os yw'r plentyn yn byw gyda gwarcheidwad cyfreithiol
Caiff y gwarcheidwad cyfreithiol lofnodi'r ffurflen.
Os yw'r plentyn yn byw gyda gofalwr maeth
Caiff y gofalwr maeth lofnodi'r ffurflen ond bydd ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd angen llythyr gan Reolwr yr Uned Gwasanaethau Cymdeithasol yn egluro amgylchiadau'r plentyn. Dylai'r llythyr nodi dan pa adran o'r Ddeddf Plant y mae'r plentyn mewn gofal.
Os yw'r plentyn dan ofal y gwasanaethau cymdeithasol
Caiff y gweithiwr cymdeithasol neu reolwr y cartref gofal lofnodi'r ffurflen ond bydd ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd angen llythyr gan Reolwr yr Uned Gwasanaethau Cymdeithasol yn egluro amgylchiadau'r plentyn. Dylai'r llythyr nodi dan pa adran o'r Ddeddf Plant y mae'r plentyn mewn gofal.
Bydd arnoch angen cerdyn-llun pasbort cyfunol ar gyfer pob plentyn neu unigolyn ifanc sy'n bwriadu teithio ar y pasbort cyfunol.
Gallwch archebu'r cardiau hyn gan Swyddfa Basbort Durham dros e-bost
durhamcollectives@ips.gsi.gov.uk
neu drwy ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Rhaid llenwi pob cerdyn â manylion y plentyn, yn union fel yr ymddangosant ar y ffurflen gais. Dylid rhoi llun maint pasbort diweddar ar bob cerdyn hefyd.
O ran y lluniau:
Gallwch ddefnyddio lluniau digidol neu luniau ysgol unigol ar gyfer pasbort cyfunol ar yr amod eu bod yn bodloni canllawiau'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Allwch chi ddim defnyddio llun ysgol os yw'r gair 'PROOF' wedi'i ysgrifennu arno.
Dylai Arweinydd y Grŵp lenwi eu manylion eu hunain ac ardystio'r cardiau drwy'u llofnodi cyn cyflwyno'r ffurflen gais.
Rhaid i bob plentyn lofnodi eu cerdyn cyn teithio.
Ar gyfer pob cais am basbort cyfunol (nid ar gyfer pob unigolyn sy'n teithio), bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gael llythyr (ar bapur swyddogol) yn cadarnhau bod y daith wedi'i hawdurdodi a'i bod wedi cael caniatâd. Mae'n ofynnol bod llofnod gwreiddiol ar y llythyr (ni dderbynnir llofnod digidol na llofnod wedi'i lungopïo).
Os yw'ch grŵp yn cynnwys plant o fwy nag un mudiad, bydd ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau angen llythyr cefnogi gan bob mudiad. Mae'r ddolen isod yn dangos enghraifft o'r hyn y dylai llythyr cefnogi ei gynnwys.
Ni chaiff Arweinydd na Dirprwy Arweinydd y parti cefnogi'r cais.
| Math o fudiad | Pwy ddylai lofnodi |
|---|---|
| Ysgolion | Pennaeth, aelod o fwrdd y llywodraethwyr neu awdurdod addysg pob ysgol sy'n rhan o'r parti |
| Grwpiau sgowtiaid/geidiaid | Dylid darparu 'Llythyr cyflwyno' neu lythyr cefnogi gan y Comisiynydd Ardal/Sir Cynorthwyol neu gan Bencadlys y Gymdeithas |
| Clybiau pêl-droed/rygbi | Dylid darparu llythyr gan y gymdeithas bêl-droed leol neu gan gadeirydd neu ysgrifennydd y gynghrair |
| Clybiau nofio/judo | Dylid darparu llythyr o'r pencadlys cenedlaethol |
| Cerddorfeydd ieuenctid, corau ac ati | Dylid darparu llythyr gan yr awdurdod addysg lleol neu gan y ficer os mai mudiad eglwysig ydynt |
| Cadetiaid yn y Fyddin/Awyrlu | Dylid darparu llythyr gan y prif swyddog neu gan yr awdurdod gwasanaethau |
| Clybiau/clybiau ieuenctid | Dylid darparu llythyr gan yr awdurdod lleol y cofrestrwyd ag ef neu gan y pencadlys cenedlaethol |
| Elusennau cofrestredig | Dylid darparu llythyr gan y cyfarwyddwr neu gan unigolyn mewn sefyllfa debyg yn y mudiad |
Pan fydd grŵp o blant yn mynd dramor i berfformio at unrhyw ddiben, gan gynnwys i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon neu gystadleuaeth, rhaid i'r llythyr cefnogi ddweud:
Os ydych chi'n barod i wneud cais, mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n argymell eich bod yn darllen 'Rhestr wirio gan gynnwys ffioedd ar gyfer pasbortau cyfunol'.
I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:
- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000