Lluniau pasbort a phwy gaiff eu hardystio
Mae lluniau pasbort yn rhan hanfodol o'ch cais. Oni fydd y lluniau y byddwch yn eu darparu yn addas, caiff eich pasbort ei ohirio. Bydd angen i chi hefyd ofyn i rywun ardystio llun ar gyfer rhai ceisiadau. Sicrhewch eich bod yn gwybod yn union beth y mae ei angen arnoch fel y bydd yn gywir gennych y tro cyntaf.
Y rheolau ar gyfer lluniau pasbort
Mae'n rhaid i'r lluniau y byddwch yn eu darparu gyda'ch cais:
- beidio â dangos mynegiant ar eich wyneb ac mae'n rhaid i'ch ceg fod ar gau (ni chaniateir i chi wenu, gwgu na chodi eich aeliau)
- eich dangos ar eich pen eich hun (ni ddylid rhoi teganau neu ddymi i fabis, ac ni ddylid cael pobl eraill yn y llun)
- bod yn lliw, nid yn ddu a gwyn
- bod yr union yr un fath
- bod wedi'i dynnu o fewn y mis diwethaf
- bod 45 milimetrau o hyd a 35 milimetrau o led - dyma'r maint safonol pan fyddwch yn tynnu llun pasbort mewn bwth neu stiwdio lluniau (ni ddylech dorri llun mwy er mwyn bodloni'r amod hwn)
- bod yn glir gyda ffocws siarp, gyda gwahaniaeth amlwg rhwng eich wyneb a'r cefndir
- bod wedi'i dynnu yn erbyn cefndir plaen hufen neu lwyd golau
- peidio eich dangos â llygaid coch
- eich dangos yn wynebu ymlaen ac yn edrych yn syth at y camera
- heb fod wedi’i rwygo, ei blygu, na’i farcio
- bod wedi'i argraffu ar bapur tynnu lluniau gwyn plaen
- peidio â chael cysgodion
- bod wedi'i dynnu gyda'ch llygaid ar agor ac yn hollol glir (ni ddylech wisgo sbectol haul na sbectol dywyll ac ni ddylai eich gwallt fod yn eich llygaid)
- ni ddylai fod ag adlewyrchiad na golau oddi ar eich sbectol, ac ni ddylai'r fframiau guddio eich llygaid - mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell y dylech dynnu eich sbectol os yw'n bosib
- bod wedi'i argraffu'n broffesiynol (nid yw lluniau a argreffir gartref yn debygol o fod at safon dderbyniol)
- dangos eich pen i gyd, heb unrhyw orchudd drosto, oni bai eich bod yn gwisgo gorchudd oherwydd credoau crefyddol neu resymau meddygol
- bod wedi'i gymryd heb unrhyw beth yn gorchuddio eich wyneb - dylech sicrhau nad oes unrhyw beth yn gorchuddio amlinelliad eich llygaid, eich trwyn na'ch ceg
- bod yn llun agos o'ch pen a'ch ysgwyddau fel bod eich pen, o waelod eich gên hyd at frig eich pen rhwng 29 mm a 34 mm o uchder
- peidio ag ysgrifennu dim byd ar y blaen neu'r cefn - ac eithrio pan fydd angen ardystio un o'r lluniau
Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd yn llunio gwybodaeth y gellir ei llwytho oddi ar y we ynghylch lluniau sy'n dangos enghreifftiau o beth sy'n dderbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol. Anfonir fersiwn wedi'i hargraffu o'r wybodaeth hon gyda'r holl ffurflenni cais safonol.
Os ydych yn ffotograffydd proffesiynol gallwch lwytho canllawiau ar gyfer stiwdios ffotograffiaeth y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.
Ardystio eich lluniau
Dylai'r unigolyn sy'n ardystio eich ffurflen gais yn adran 10 (eich 'adlofnodwr') hefyd ardystio un o'ch lluniau (nid y ddau ohonynt). Gwneir hyn drwy ysgrifennu'r canlynol ar gefn y llun:
- 'Tystiaf fod hwn yn dangos gwir debygrwydd i [Mr, Mrs, Miss, Ms neu deitl arall ac yna eich enw llawn]'
Yna, rhaid iddynt lofnodi a dyddio'r datganiad. Nid yw dim ond llofnodi a dyddio'r llun yn ddigon.
Os yw'r cais ar gyfer rhywun dan 16 oed (gan gynnwys babis)
Rhaid i’r adlofnodwr wneud y canlynol:
- llofnodi'r ffurflen gais yn adran 10 er mwyn cadarnhau eu bod wedi adnabod yr oedolyn a lofnododd adran 9 am o leiaf dwy flynedd
- ardystio un o'r lluniau fel y disgrifiwyd uchod, gan nodi enw llawn y plentyn
Os ydych yn adnewyddu pasbort
Os ydych yn adnewyddu eich pasbort, ni fydd yn rhaid i chi gael rhywun i adlofnodi eich ffurflen nac i ardystio llun ohonoch oni fyddwch yn edrych yn hollol wahanol i'r llun yn eich pasbort diweddaraf.