Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyfweliadau am basbort

Mae cyfweliadau am basbort bellach yn rhan newydd o'r broses wneud cais os ydych yn gwneud cais am basbort oedolyn cyntaf. Mae hyn yn golygu y bydd eich cais yn cymryd mwy o amser nag yn y gorffennol - dylech ganiatáu chwe wythnos. Cynhelir cyfweliadau mewn swyddfeydd ledled y wlad a bydd bob un yn para tua 30 munud.

Pam y penderfynwyd cynnal cyfweliadau

Penderfynwyd cynnal cyfweliadau fel mesur diogelwch ychwanegol er mwyn atal pobl rhag cael pasbortau gyda hunaniaeth ffug.

Pwy sy'n gorfod cael cyfweliad?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, codwch y ffôn

Ar gyfer trefnu apwyntiadau cyfweliad am basbort ac ymholiadau cysylltiedig, ffoniwch Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Dim ond oedolion nad ydynt erioed wedi cael pasbort Prydeinig yn eu henwau eu hunain sy'n gorfod cael cyfweliad.

Os oedd gennych eich pasbort eich hun yn blentyn ni fydd angen i chi fynd i gyfweliad, gan y caiff eich cais ei gyfrif fel cais i adnewyddu. Os nad oedd gennych basbort yn blentyn (neu os mai dim ond ar basbort rhiant yr ydych wedi'ch cynnwys erioed) bydd angen i chi fynd i gyfweliad.

Os cawsoch eich geni ar 2 Medi 1929 neu cyn hynny, efallai na fydd yn rhaid i chi fynd i gyfweliad. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn penderfynu p'un ai a ydynt am gyfweld â chi ar ôl iddynt dderbyn eich cais wedi'i gwblhau.

Sut y mae'r cyfweliad yn effeithio ar eich cais

Bydd angen i chi wneud cais am eich pasbort yn y ffordd arferol, drwy ddefnyddio'r ffurflen gais safonol a'i hanfon i'r Gwasanaethau Hunaniaeth a Phasbortau.

Bydd staff yn Swyddfeydd Pasbort Rhanbarthol y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn sefydlu bod eich hunaniaeth yn bodoli a bod gennych yr hawl i basbort Prydeinig. Bydd hyn yn cynnwys holi ffynonellau annibynnol megis y gofrestr etholiadol a hanes cyfeiriadau. Fel hyn, byddant yn llunio 'ôl-troed bywgraffyddol' a ddefnyddir yn y cyfweliad i brofi pwy ydych chi.

Yna byddwch yn cael llythyr yn gofyn i chi ffonio'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau i drefnu apwyntiad ar gyfer cyfweliad yn un o'u swyddfeydd cyfweliadau. Gallwch ddewis unrhyw swyddfa, ond efallai na fyddwch bob amser yn cael yr union amser neu'r dyddiad o'ch dewis.

Mewn rhai ardaloedd pell, gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau drefnu cyfweliadau lleol. Os ydych yn byw yn un o'r ardaloedd hyn, bydd aelod o staff y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn egluro hyn pan fyddwch yn ffonio i drefnu apwyntiad.

Dylech ganiatáu mwy o amser wrth wneud cais

Dylai cwsmeriaid sy'n gwneud cais am basbort oedolyn am y tro gyntaf ganiatáu mwy o amser nag yn y gorffennol ar gyfer cael eu pasbort. Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell eich bod yn cyflwyno'ch cais chwe wythnos cyn y mae angen i chi deithio.

Peidiwch â gwneud dim trefniadau teithio nes i chi gael eich pasbort newydd.

Nid yw'r gwasanaeth Trac Cyflym na'r gwasanaeth Premiwm ar gael ar gyfer cwsmeriaid sy'n gwneud cais am basbort oedolyn am y tro cyntaf

Gan y bydd angen i gwsmeriaid sy'n gwneud cais am basbort oedolyn am y tro cyntaf fynd i gyfweliad, nid yw'n bosib iddynt ddefnyddio'r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym na'r gwasanaeth undydd Premiwm.

Beth sy'n digwydd yn y cyfweliad

Bydd y cyfweliad yn para tua 30 munud a chaiff ei gynnal mewn ffordd gyfeillgar. Gofynnir i chi gadarnhau ffeithiau amdanoch eich hun gan fwyaf - ffeithiau na fyddai rhywun sy'n ceisio dwyn eich hunaniaeth yn eu gwybod amdanoch efallai.

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn cael gwared ar unrhyw wybodaeth a ddefnyddir mewn cyfweliad yn fuan ar ôl cyhoeddi'r pasbort.

Swyddfeydd cyfweliadau a sut i ddod o hyd iddynt

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau wedi sefydlu rhwydwaith o swyddfeydd cyfweliadau ledled y DU. Dim ond at ddibenion cyfweliadau y sefydlwyd y swyddfeydd cyfweliadau hyn - nid ydynt yn cyhoeddi pasbortau.

Os gofynnir i chi fynd i gyfweliad dylech sicrhau eich bod yn mynd i'r swyddfa gywir. Os na wnewch chi hyn, fe allech golli eich apwyntiad ac mae'n bosib y caiff eich cais ei ohirio.

Additional links

Llinell Gymorth Pasbortau

I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:

- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000

Allweddumynediad llywodraeth y DU