Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell eich bod yn cyflwyno eich cais am basbort drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon a gynigir gan rai canghennau Swyddfa'r Post. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys edrych ar eich ffurflen gais a'r dogfennau ategol cyn eu hanfon er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gywir. Fel arfer, mae'n gynt na chais safonol drwy'r post.

Beth mae'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon yn ei gynnwys

Ar ôl i chi lenwi eich ffurflen gais, os ewch chi â hi a'r dogfennau ategol i gangen Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon, gallant wneud y canlynol:

  • gwneud yn siŵr bod eich ffurflen gais wedi'i llenwi'n gywir
  • gwneud yn siŵr eich bod wedi cynnwys y dogfennau ategol i gyd a'r ffi gywir
  • anfon yr holl waith papur perthnasol a'ch tâl am y pasbort yn uniongyrchol i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau

Mae ceisiadau a anfonir drwy'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon hefyd yn llai tebygol o lawer o gael eu dychwelyd neu wynebu oedi oherwydd ymholiadau.

Fe allech gael eich pasbort yn gynt drwy ddefnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon

Fel arfer, bydd ceisiadau a anfonir drwy'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon yn cael eu prosesu'n gynt na cheisiadau safonol drwy'r post. Gallwch ddisgwyl cael eich pasbort mewn oddeutu pythefnos.

Fodd bynnag, os ydych yn gwneud cais am eich pasbort oedolyn cyntaf, dylech bob amser ganiatáu hyd at chwe wythnos iddo gyrraedd. Y rheswm am hyn yw ei bod yn debygol y bydd angen i chi fynd i gyfweliad am basbort.

I gael mwy o wybodaeth am gyfweliadau am basbort, dilynwch y ddolen isod.

Llenwi'r ffurflen gais

Mae'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon yn addas ar gyfer ffurflenni cais papur ac ar gyfer ffurflenni cais a lenwir ar-lein. Os byddwch yn llenwi ac yn cyflwyno'ch ffurflen ar-lein, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei hargraffu ac yn ei hanfon atoch er mwyn i chi wneud yn siŵr ei bod yn gywir, cyn ei llofnodi a'i dychwelyd. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw mynd â'r ffurflen a'r dogfennau ategol i gangen Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon.

Cost defnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon

Bydd cost eich pasbort yr un fath, ond bydd Swyddfa'r Post yn ychwanegu ffi weinyddol. Ar hyn o bryd, £6.85 yw'r gost. Oherwydd y gall newid yn fyr rybudd, mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n argymell eich bod yn holi faint ydyw yn eich Swyddfa Bost Gwirio ac Anfon agosaf.

I weld y costau sy'n gysylltiedig â phob math o basbort ewch i 'Tabl o ffioedd pasbort, sut mae talu ac ad-daliadau'.

Beth i'w wneud os bydd Swyddfa'r Post yn gwneud camgymeriad

Os bydd Swyddfa'r Post yn gwneud camgymeriad gyda'ch ffurflen gais, gallwch ofyn am adhawlio'r ffi weinyddol y gwnaethoch ei thalu iddynt. Os oes gennych hawl i'r ad-daliad, byddant yn ad-dalu'r ffi weinyddol ar gyfer y gwasanaeth Gwirio ac Anfon i chi, ond nid y ffi am y pasbort ei hun.

Ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau na Swyddfa'r Post yn gyfrifol am unrhyw golled anuniongyrchol na cholled yr ydych wedi'i dioddef yn sgil y gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys (i enwi dim ond rhai) unrhyw enghraifft o golli cyfle, elw, incwm neu enw da. Mae hyn yn golygu, er y cewch hawlio'r ffi weinyddol yn ôl, na chewch chi hawlio am unrhyw beth sydd wedi digwydd i chi o ganlyniad i oedi gyda'ch pasbort.

Additional links

Llinell Gymorth Pasbortau

I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:

- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000

Allweddumynediad llywodraeth y DU