Ni chaniateir ychwanegu plant at basbort oedolyn bellach - mae angen pasbort eu hunain arnynt i deithio dramor. Yma, cewch wybod pa basbort sy'n addas i'ch plentyn chi, sut i wneud cais a phryd y dylech wneud hynny
Cyn 5 Hydref 1998, gellid cynnwys babanod a phlant ar basbort rhiant neu warcheidwad. Yn unol â'r arfer rhyngwladol safonol ac fel rhagofal yn erbyn achosion o gipio plant, mae'n rhaid i blant bellach gael eu pasbortau eu hunain er mwyn teithio dramor.
Mae pasbort plentyn yn ddilys am bum mlynedd. Pan ddaw i ben, gallwch ei adnewyddu am bum mlynedd arall, ac ati.
Mae Directgov yn rhoi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i wneud cais am basbort plentyn neu ei adnewyddu. Fodd bynnag, os hoffech gael manylion llawn polisi'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yng nghyswllt plant, dilynwch y ddolen isod i 'Llwytho polisi'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yng nghyswllt plant'.
Cyn 5 Hydref 1998, gellid cynnwys plant ar basbort rhiant neu warcheidwad. Bydd unrhyw basbortau yn cynnwys plant wedi dod i ben ar 4 Hydref 2008 neu cyn hynny. Os oedd eich plentyn wedi'i gynnwys ar eich hen basbort, bydd angen i chi wneud y canlynol:
Os yw eich plentyn dan 16 oed bydd angen pasbort plentyn arno i deithio dramor. Gall ddefnyddio'r pasbort hwn nes daw i ben. Er enghraifft, mae'n rhaid i blentyn 15 oed y mae angen pasbort arno wneud cais am basbort plentyn pum mlynedd. Caiff ddefnyddio'r pasbort hwn nes daw i ben, yn yr achos hwn, pan fydd y 'plentyn' yn 20 oed.
Pan fydd plentyn yn 16 oed, mae'n rhaid i'r pasbort nesaf y bydd yn gwneud cais amdano unwaith y bydd ei basbort cyfredol wedi dod i ben fod yn gais am adnewyddu pasbort oedolyn deg-mlynedd.
Dylai pobl ifanc 16 oed neu hŷn, sy'n gwneud cais am basbort am y tro cyntaf, wneud cais am basbort oedolyn.
Os nad ydych yn byw yn y DU, gallwch chi'n bersonol wneud cais i adnewyddu eich pasbort tra byddwch yn ymweld â'r DU. I wneud hyn bydd angen i chi ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar +44 (0)300 222 0000 i drefnu apwyntiad mewn Swyddfa Basbort Ranbarthol. Rhaid i chi hefyd ddarparu cyfeiriad yn y DU er mwyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau allu postio'r pasbort i chi.
Ni all y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau dderbyn ceisiadau sydd wedi'u hanfon o dramor. Os ydych chi am adnewyddu neu wneud cais am Basbort Prydeinig eich plentyn tra'ch bod yn byw dramor, rhaid i chi gysylltu â’ch is-genhadaeth, eich uchel gomisiwn neu eich llysgenhadaeth leol.
Gan ei fod yn cymryd tua phedair wythnos i roi pasbort dramor fel arfer, ni ddylech wneud cynlluniau teithio yn ystod y cyfnod hwn. Os ydych yn gwneud cais am basbort Prydeinig cyntaf ar gyfer eich plentyn, dylech ganiatáu chwe wythnos. Efallai hefyd y bydd gofyn i chi gael cyfweliad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’ch is-genhadaeth, eich uchel gomisiwn neu eich llysgenhadaeth leol.
Bydd angen i blant sydd mewn gofal neu wedi'u lleoli gyda rhieni maeth fodloni gofynion cyfreithiol ychwanegol cyn y gellir rhoi pasbort iddynt.
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â'ch Swyddfa Basbort Ranbarthol neu ffonio Llinell Gymorth Pasbortau'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000. Dylech ffonio rhwng 8.30am ac 8.00 pm, gan y gallai'r galwadau hyn fod yn gymhleth. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau fel arfer yn eich trosglwyddo i Swyddfa Basbort Ranbarthol.
Os ydych yn gwneud cais am basbort ar ran plentyn mewn gofal, efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol i chi ddarllen Nodiadau Cyfarwyddyd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar gyfer Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Mae'n bosib y bydd angen trwydded Ynadon ar blant dan 16 oed sy'n bwriadu teithio dramor at ddibenion adloniant neu berfformio cyn y cânt fynd. Dylech ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000 i gael mwy o wybodaeth.
I wneud cais am basbort plentyn cyntaf pum mlynedd, mae'n rhaid i'ch plentyn fod dan 16 oed ac yn un o'r canlynol:
Gall y rheolau fod yn gymhleth. Ceir mwy o wybodaeth fanwl yn 'Grwpiau cenedligrwydd sy'n gymwys i gael pasbort Prydeinig'. Gallwch hefyd gysylltu â'ch Swyddfa Basbort Ranbarthol neu ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000 i gael cymorth.
Gallwch wneud cais i adnewyddu pasbort eich plentyn os yw ei basbort diwethaf yn dal gennych a bod y canlynol yn wir:
Gallwch wneud cais i adnewyddu'r pasbort unrhyw adeg. Os oes unrhyw amser ar ôl ar yr hen basbort, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei ychwanegu at y pasbort newydd. Ni ellir ychwanegu mwy na naw mis.
Dylech bob amser adnewyddu'r pasbort os bydd:
Os nad yw pasbort diwethaf y plentyn gennych, dylech wneud cais am basbort plentyn cyntaf.
Os yw pasbort diwethaf y plentyn wedi mynd ar goll neu wedi'i ddifrodi, dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr adran 'Cael pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi'.
I gael ffurflen gais, gweld beth yw'r ffi a chael gwybod pa ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu darparu, dilynwch y ddolen isod.
I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:
- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000