Mae achosion o gipio plant yn brin, ond mae'n drosedd difrifol. Mae'n digwydd pan fydd rhywun (yn aml un rhiant, a hynny'n groes i ddymuniad y rhiant arall) yn mynd â phlentyn o'r wlad heb ganiatâd. Os yw'ch plentyn mewn perygl, efallai y gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau helpu.
Mae'n drosedd i unrhyw un sy'n gysylltiedig â phlentyn dan 16 oed fynd â'r plentyn hwnnw, neu ei anfon, o'r DU heb ganiatâd priodol. Mae hyn wedi'i nodi yn Neddf Cipio Plant 1984.
Dyma eglurhad:
Tadau a chyfrifoldeb rhiant
Gallwch gael gwybodaeth fanylach am gyfrifoldeb rhiant a beth mae'n ei olygu yn 'Hawliau a chyfrifoldebau rhieni'.
Yn gyffredinol, dim ond os yw'n briod â mam y plentyn, neu os yw wedi bod yn briod â mam y plentyn, y caiff tad y plentyn gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig. Fodd bynnag, ers
mae gan dad gyfrifoldeb rhiant hefyd os yw'n cofrestru'r enedigaeth ar y cyd â mam y plentyn. Efallai y caiff hefyd gyfrifoldeb rhiant gan y llys neu drwy gytundeb ysgrifenedig â mam y plentyn.
Caiff rhywun sydd â gorchymyn preswylio fynd â'r plentyn neu ei anfon o'r DU heb ganiatâd am hyd at fis ar y tro.
Rhoddir gorchmynion preswylio dan Adran 8 Deddf Plant 1989. Maent yn cadarnhau gyda phwy y mae plentyn yn cael byw. Caiff yr unigolyn a enwir yn y gorchymyn gyfrifoldeb rhiant yn awtomatig os nad oedd â chyfrifoldeb rhiant yn barod - ond nid yw hynny'n golygu mai'r unigolyn hwnnw'n unig fydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Mae hyn yn golygu na chaiff wneud y canlynol:
Fel arfer, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn rhoi pasbort os yw'r cais yn cael ei wneud gan:
Os oes gennych orchymyn llys sy'n gwahardd rhoi pasbort heb eich caniatâd chi neu ganiatâd y llys, dylech roi gwybod i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Yn yr achosion hyn, ni wnaiff y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau roi pasbort i'r plentyn os yw'r cais yn dod gan unrhyw un arall sy'n honni bod ganddo gyfrifoldeb rhiant.
Gellir defnyddio'r mathau canlynol o orchmynion llys:
Os nad oes gennych orchymyn llys mae'n dal yn bosib i chi ofyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau beidio â rhoi pasbort i'ch plentyn, ar yr amod mai chi yw mam y plentyn a bod y ddau bwynt canlynol yn wir:
I ofyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau beidio â rhoi pasbort i'ch plentyn, yn gyntaf oll dylech ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000.
Gallwch gael gwybodaeth fanylach am achosion o gipio plant gan Reunite, elusen sy'n rhoi cyngor ar ddelio ag achosion o blant yn cael eu cipio gan eu rhieni ac anghydfodau cystodaeth rhyngwladol. Mae Reunite hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfryngu i rieni.
Gellir cysylltu â llinell gyngor Reunite ar 01162 556 234. Mae'r llinell ar agor rhwng 9.30 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac oddi allan i'r oriau hyn mae'n rhestru rhifau cyswllt i'w defnyddio mewn argyfwng
Os oes rhywun eisoes wedi mynd â'ch plentyn dramor dylech ffonio Adran Cipio Plant y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar 0207 008 0878 neu ar 0207 008 1500 pan nad yw'r swyddfa ar agor. Gallwch weld manylion llawn yr hyn y gall y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ei wneud, a beth na all ei wneud, yn yr adran 'Cipio plant yn Rhyngwladol'.
Gallwch hefyd gael cyngor gan yr Uned Gyswllt Cipio Plant yn Rhyngwladol (ICACU) yn Swyddfa'r Twrnai Swyddogol, sy'n rhan o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rhif ffôn ICACU yw 020 7911 7045/7047. Mae'r llinell ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:
- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000