Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 25 Mai 2012

Y ffurflen gais, y ffi a'r dogfennau ategol ar gyfer pasbort plentyn

Mae gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS) un ffurflen safonol ar gyfer ceisiadau unigol am basbortau. Bydd cyfarwyddiadau llawn gyda'r ffurflen, p'un ai a fyddwch yn llenwi'r fersiwn bapur ynteu'r fersiwn ar-lein.  Yma, cewch wybod faint yw'r ffi, sut mae cael y ffurflen a chael gwybod pa ddogfennau ategol y mae angen i chi eu hanfon i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.

Cost pasbort plentyn

Mae pasbort plentyn cyntaf yn costio £49 am wasanaeth safonol a £96.50 am y gwasanaeth wythnos Trac Cyflym. Nid yw’r gwasanaeth Premiwm ar gael.

Mae'n costio £49 am wasanaeth safonol i adnewyddu pasbort plentyn, £96.50 am y gwasanaeth wythnos Trac Cyflym a £109.50 am y gwasanaeth undydd Premiwm.

Gallwch gael gwybodaeth fanylach yn yr adran ‘Ffioedd pasbort, faint o amser mae'n ei gymryd a cheisiadau brys am basbort.’

Y ffurflen gais

Sut mae cael y ffurflen

Mae pedair ffordd y gallwch gael y ffurflen gais. Gallwch:

  • ei llenwi ar-lein, a bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n argraffu'r ffurflen wedi'i llenwi ac yn ei hanfon atoch er mwyn i chi ei llofnodi a'i dychwelyd gyda'r dogfennau ategol
  • ei chasglu o gangen Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon Pasbortau
  • gofyn am ffurflen gais ar-lein a bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n anfon un atoch drwy'r post - gall gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i gyrraedd
  • ffonio’r Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000 a gofyn iddynt anfon un atoch drwy'r post - gall gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i gyrraedd

Pwy ddylai lofnodi’r ffurflen

Rhiant y plentyn neu rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ddylai lofnodi'r ffurflen.

Os yw’r rhieni wedi ysgaru ond eu bod:

  • yn briod pan aned y plentyn (neu pan ddaeth y fam yn feichiog, ar gyfer y rheini sy’n byw yn yr Alban)
  • yn briod unrhyw bryd ar ôl i’r plentyn gael ei eni

gall y naill riant neu’r llall lofnodi’r ffurflen, oni bai y ceir gorchymyn llys ynghylch cyfrifoldeb rhiant neu ynghylch y ffaith bod gan y plentyn basbort. Os ceir gorchymyn llys o’r fath, dylech ei anfon i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gyda’r cais.

Cofiwch, nid yw gorchymyn cystodaeth neu gynhaliaeth yn dileu cyfrifoldeb rhiant y rhiant arall.

Os nad yw'r rhieni wedi priodi ei gilydd, gall y fam roi caniatâd. Os nad yw’r tad yn briod â mam y plentyn (a heb ei hysgaru fel y disgrifir uchod), gall ef roi caniatâd ar yr amod ei fod yn bodloni'r amodau canlynol:

  • mae ganddo gytundeb neu orchymyn cyfrifoldeb rhiant (os felly, dylai ei anfon gyda'r cais hwn)
  • mae ei enw ar y dystysgrif geni ac mae’r enedigaeth wedi cael ei chofrestru ar y cyd gan y ddau ar 15 Ebrill 2002 neu cyn hynny yng Ngogledd Iwerddon, ar 1 Rhagfyr 2003 neu ar ôl hynny yng Nghymru a Lloegr, ac ar 4 Mai 2006 neu ar ôl hynny yn yr Alban

Os oes oedolyn arall yn gweithredu fel rhiant, dylai anfon prawf o'i gyfrifoldeb rhiant i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.

Ceir rhagor o wybodaeth am gyfrifoldeb rhiant yn yr adran rhieni.

Llenwi manylion rhieni yn adran 4 o’r ffurflen gais

Os yw rhieni o’r rhyw arall i’w gilydd, dylai’r fam llenwi ei manylion yn y blychau sy’n dweud ‘Mam neu Riant 1’. Dylai’r tad lenwi ei fanylion yn y blychau sy’n dweud ‘Tad neu Riant 2’.

Os yw’r rhieni o’r un rhyw â’i gilydd, dylai’r rhiant sy’n ymddangos yng nghyntaf ar yr orchymyn rhiant, tystysgrif geni, tystysgrif mabwysiadu neu ddogfennau perthnasol eraill lenwi ei fanylion yn y blychau sy’n dweud ‘Mam neu Riant 1’. Tra dylai’r rhiant a enwir yn ail ar yr orchymyn rhiant lenwi ei fanylion yn y blychau sy’n dweud ‘Tad neu Riant 2’.

Llenwi’r adrannau mam a thad os ydych yn rhiant unigol   

Os mai chi yw unig riant eich plentyn,  gallwch naill ai lenwi adrannau ‘Mam neu Riant 1’ neu ‘Tad neu Riant 2’ o’r ffurflen, fel sy’n gymwys, a gadael y bylchau am y rhiant arall yn wag. 
Ychwanegwch nodyn yn adran 8 i ddangos mai chi yw’r unig riant a pham (p’un nad ydych yn gwybod rhiant arall y plentyn, wnaethoch fabwysiadau ar eich pen ei hunain, neu’n rhiant unigol i blentyn a aned gan ddefnyddio triniaeth cymorth i atgenhedlu ayb.)

Pasbort plentyn cyntaf - dogfennau ategol y bydd angen i chi eu darparu

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am gopïau o dystysgrifau geni, mabwysiadu neu briodas ar-lein

Mae angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld y dogfennau gwreiddiol i brofi bod eich plentyn yn Brydeinig. Nid yw'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n derbyn llungopïau o ddogfennau na dogfennau sydd wedi'u lamineiddio, ond fe wnaiff dderbyn dogfennau sydd wedi'u lamineiddio at ddibenion Braille.

Nid yw tystysgrifau geni yn cael eu hystyried yn brawf pendant o bwy ydych chi. Hyd yn oed os cafodd eich plentyn ei eni yn y DU, fe allai'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ofyn am gael gweld rhagor o ddogfennau.

Mae'r dogfennau y mae angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau eu gweld yn dibynnu ar ble cafodd eich plentyn ei eni.

Os nad ydych yn siŵr o hyd beth y mae angen i chi ei anfon ar ôl darllen y manylion isod, ffoniwch Linell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Os cafodd eich plentyn ei eni neu ei fabwysiadu yn y DU

Mae angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrif geni neu fabwysiadu lawn y plentyn yn dangos manylion y rhieni ac un o'r canlynol:

  • adran 4 y ffurflen gais wedi’i chwblhau gyda manylion pasbort Prydeinig y naill riant neu’r llall*
  • tystysgrif geni DU y naill riant neu’r llall*
  • tystysgrif cofrestru neu dystysgrif brodori'r Swyddfa Gartref y naill riant neu’r llall*
  • pasbort y naill riant neu’r llall* a oedd yn ddilys pan aned y plentyn**

Nodwch*: os ydych yn darparu manylion y tad, rhaid i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrif priodas y rhieni hefyd.

Nodwch**: os daeth y pasbort i ben cyn i’r plentyn gael ei eni, bydd angen i chi anfon y pasbort a ddefnyddiodd y rhiant i ddod i'r DU.

Os cafodd y plentyn ei eni y tu allan i'r DU

Mae angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrif geni* neu fabwysiadu lawn y plentyn yn dangos manylion y rhieni ac un o'r canlynol:

  • adran 4 y ffurflen gais wedi’i chwblhau gyda manylion pasbort Prydeinig y naill riant neu’r llall**
  • tystysgrif geni DU y naill riant neu’r llall**
  • tystysgrif cofrestru neu dystysgrif brodori'r Swyddfa Gartref y naill riant neu’r llall**
  • pasbort y naill riant neu’r llall** a oedd yn ddilys pan aned y plentyn

Nodwch*: os oes gan y plentyn dystysgrif geni a roddwyd gan is-genhadaeth Brydeinig neu uwch gomisiwn dramor, does dim angen i chi anfon unrhyw ddogfennau eraill.

Nodwch**: os ydych yn anfon dogfennau'r tad, bydd angen i chi anfon dystysgrif priodas y rhieni hefyd os cafodd y plentyn ei eni cyn 1 Gorffennaf 2006.

Os cafodd y plentyn ei eni y tu allan i'r DU ond bod ganddo dystysgrif cofrestru neu dystysgrif brodori gan y Swyddfa Gartref

Bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld:

  • y dystysgrif cofrestru neu'r dystysgrif brodori
  • y pasbort a ddefnyddiodd y plentyn i ddod i'r DU

Os cafodd eich plentyn ei fabwysiadu, ei eni gan fam benthyg neu ei eni drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth   

Am ragor o wybodaeth ynghylch plant sydd wedi’u mabwysiadu, neu’r rheini sydd wedi’u geni gan ddefnyddio mam benthyg neu drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth, gweler y ddolen isod.

Adnewyddu pasbort plentyn - dogfennau ategol y bydd angen i chi eu darparu

Yn yr achos hwn bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld pasbort cyfredol neu basbort diwethaf eich plentyn.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrif geni, priodas a marwolaeth

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU