Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pwy gaiff wneud cais am basbort oedolyn cyntaf a phryd

Yma, cewch wybod pwy gaiff wneud cais am basbort oedolyn cyntaf a faint o amser y mae'n ei gymryd i wneud hynny. Erbyn hyn, mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad gyda'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Dylech ganiatáu hyd at chwe wythnos i'ch pasbort gyrraedd.

Pwy all wneud cais?

Dinasyddiaeth

Gallwch wneud cais am eich pasbort oedolyn cyntaf os ydych yn 16 oed neu'n hŷn ac yn un o'r canlynol:

  • Dinesydd Prydeinig
  • Dinesydd yn un o diriogaethau tramor Prydain
  • Deiliad Prydeinig
  • Dinesydd Prydeinig (dramor)
  • Unigolyn wedi'i warchod gan Brydain

Gall y rheolau fod yn gymhleth a gallwch weld gwybodaeth fanylach am bob categori yn 'Grwpiau cenedligrwydd sy'n gymwys i gael pasbort Prydeinig'.

Os nad ydych yn siŵr am genedligrwydd a dinasyddiaeth Brydeinig fe gewch fwy o wybodaeth ar wefan Asiantaeth Ffiniau’r DU

Pryd i wneud cais

Dylech ganiatáu chwe wythnos i'ch pasbort oedolyn cyntaf gyrraedd

Dylech ganiatáu chwe wythnos i'ch pasbort oedolyn cyntaf gyrraedd gan fod y broses ymgeisio yn awr yn cynnwys cyfweliad.

Ni chaiff cwsmeriaid sy'n gwneud cais am basbort oedolyn am y tro cyntaf ddefnyddio'r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym na'r gwasanaeth undydd Premiwm. Y rheswm am hyn yw bod angen iddynt gael cyfweliad fel rhan o'r broses ymgeisio.

Pasbort pobl ifanc a phasbort oedolyn

Cais i berson ifanc dros 16 oed

Pan fydd plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 16 oed caiff wneud cais am ei basbort oedolyn cyntaf os yw un o'r canlynol yn wir:

  • nid yw erioed wedi cael pasbort plentyn
  • nid oedd ganddo basbort plentyn ond roedd yn hytrach wedi'i gynnwys ar basbort un o'i rieni

Os oes ganddo basbort plentyn caiff barhau i'w ddefnyddio nes bydd yn dod i ben. Pan fydd angen pasbort newydd arno dylai wneud cais i adnewyddu pasbort oedolyn

Cais i berson ifanc dan 16 oed

Os ydych yn gwneud cais ar gyfer unigolyn dan 16 oed, dylech wneud cais am basbort plentyn (sy'n ddilys am bum mlynedd). Ond os yw'r plentyn yn debygol o gael ei ben-blwydd yn 16 oed cyn i'r pasbort gyrraedd dylech wneud y canlynol:

  • gwneud cais fel petaent yn 16 oed
  • anfon y ffi ar gyfer pasbort deg-mlynedd i oedolion i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU

Os nad ydych yn byw yn y DU, gallwch chi'n bersonol wneud cais i adnewyddu eich pasbort tra byddwch yn ymweld â'r DU. I wneud hyn bydd angen i chi ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar +44 (0)300 222 0000 i drefnu apwyntiad mewn Swyddfa Basbort Ranbarthol. Rhaid i chi hefyd ddarparu cyfeiriad yn y DU er mwyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau allu postio'r pasbort i chi.

Ni all y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau dderbyn ceisiadau sydd wedi'u hanfon o dramor. Os ydych chi am adnewyddu neu wneud cais am Basbort Prydeinig eich plentyn tra'ch bod yn byw dramor, rhaid i chi gysylltu â’ch is-genhadaeth, eich uchel gomisiwn neu eich llysgenhadaeth leol.

Gan ei fod yn cymryd tua phedair wythnos i roi pasbort dramor fel arfer, ni ddylech wneud cynlluniau teithio yn ystod y cyfnod hwn. Os ydych yn gwneud cais am basbort Prydeinig cyntaf ar gyfer eich plentyn, dylech ganiatáu chwe wythnos. Efallai hefyd y bydd gofyn i chi gael cyfweliad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’ch is-genhadaeth, eich uchel gomisiwn neu eich llysgenhadaeth leol.

Y camau nesaf - pasbort oedolyn cyntaf

I gael ffurflen gais, gweld beth yw'r ffi a chael gwybod pa ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu darparu, dilynwch y ddolen isod.

Additional links

Llinell Gymorth Pasbortau

I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:

- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000

Allweddumynediad llywodraeth y DU