Mae gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau un ffurflen safonol ar gyfer pob math o gais unigol am basbort. Bydd cyfarwyddiadau llawn gyda'r ffurflen, p'un ai a fyddwch yn llenwi'r fersiwn bapur neu'r fersiwn ar-lein. Yma, cewch wybod sut mae cael y ffurflen a faint yw'r ffi a pha ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu hanfon i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.
Mae pasbort oedolyn deg-mlynedd 32-tudalen safonol yn costio £77.50. Os cawsoch eich geni ar 2 Medi 1929 neu cyn hynny cewch eich pasbort am ddim. Gallwch gael gwybodaeth fanylach yn yr adran 'Ffioedd pasbort, faint o amser mae'n ei gymryd a cheisiadau brys.'
Mae pedair ffordd y gallwch ei chael. Gallwch:
Mae angen i chi lofnodi'r ffurflen eich hun a dylech hefyd gael rhywun i'w hadlofnodi yn adran 10.
Dylai'r unigolyn y byddwch yn gofyn iddo adlofnodi fod yn rhywun sydd wedi eich adnabod am o leiaf dwy flynedd. Mae'n ofynnol:
Dylent fod yn gweithio mewn proffesiwn cydnabyddedig neu fel arall fod ag enw da yn y gymuned. Gallwch weld rhestr o broffesiynau addas drwy ddilyn y ddolen isod i 'Pwy gaiff adlofnodi'ch cais?'
Dylech ofyn i'r un person ardystio un o'ch lluniau. Gwneir hyn drwy ysgrifennu'r canlynol ar gefn y llun:
Yna, rhaid iddynt lofnodi a dyddio'r datganiad.
Mae angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld y dogfennau gwreiddiol i brofi eich bod yn Brydeinig. Nid yw'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn llungopïau o ddogfennau.
Fel arfer, dim ond at ddibenion newid enw y mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn dogfennau wedi'u lamineiddio, ond derbynnir dogfennau sydd wedi'u lamineiddio at ddibenion Braille ar gyfer pob math o gais.
Nid yw tystysgrifau geni yn cael eu hystyried yn brawf pendant o bwy ydych chi. Hyd yn oed os cawsoch eich geni yn y DU, fe allai'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ofyn am gael gweld rhagor o ddogfennau.
Efallai y bydd angen i chi ddarparu dogfennau ychwanegol yn yr achos hwn. Dilynwch y ddolen isod i weld a fydd angen i chi wneud hyn.check by following the link below.
Os cawsoch eich geni yn y DU cyn 1983, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld eich tystysgrif geni neu'ch tystysgrif mabwysiadu.
Os cawsoch eich geni yn y DU ar 1 Ionawr 1983 neu ar ôl hynny, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld eich tystysgrif geni neu'ch tystysgrif mabwysiadu gyflawn sy'n dangos manylion eich rhieni, ac un o'r canlynol:
Fe allai'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ofyn am ragor o ddogfennau'n ymwneud â'ch rhieni.
Yn yr achos hwn bydd angen dwy ddogfen ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau:
Yn yr achos hwn bydd angen dwy ddogfen ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau:
Yn yr achos hwn bydd angen pedair dogfen ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau:
Nodwch*: Os oes gennych dystysgrif geni a roddwyd gan Is-genhadaeth Brydeinig neu uwch gomisiwn dramor, gallwch anfon honno yn hytrach na thystysgrifau geni a/neu briodas eich rhieni.
Os cawsoch eich geni cyn 1983 chewch chi ddim hawlio cenedligrwydd Prydeinig yn awtomatig drwy eich mam.
I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:
- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000