Mae’n bwysig bod yr enw ar eich pasbort yn gywir gennym. Yma, cewch wybod pa ddogfennau ychwanegol y mae eu hangen arnoch i anfon gyda'ch cais os ydych wedi newid eich enw neu ar fin gwneud hynny.
Bydd yn rhaid i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld dogfennau sy'n dangos y dyddiad a'r rheswm dros newid eich enw.
Rhaid i chi anfon dogfennau gwreiddiol nid copïau. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn dogfennau wedi'u lamineiddio fel tystiolaeth o newid enw.
Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch yma, gallwch ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
O ran menywod priod, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrifau priodas.
O ran partneriaid sifil, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrifau partneriaeth sifil.
Os ydych wedi newid eich enw yn ôl i'ch enw cyn priodi (dibriod), bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld:
Ym mhob achos arall, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld eich gweithred newid enw.
Os ydych chi wedi newid eich enw fwy nag unwaith bydd angen i chi anfon tystiolaeth o bob achos o newid enw rydych wedi'i wneud.
Ystyriwch yn ofalus os ydych yn gwneud cais am basbort i'w ddefnyddio ar ôl i chi briodi, efallai ar gyfer eich mis mêl, sy'n nodi eich enw priod. Gallai fod yn syniad gwell cael pasbort yn gynharach yn eich enw cyn priodi a'i newid yn nes ymlaen.
Y rheswm am hyn yw y dylai'r enw ar eich pasbort gyfateb i'r enw rydych yn trefnu eich gwyliau. Hyd yn oed os ydych yn mynd â'ch tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil gyda chi, os nad yw'r enw ar y pasbort yn cyfateb i'r enw ar yr archeb:
Dylech holi eich asiant teithio neu is-genhadaeth y wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi.
Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau baratoi pasbort cyntaf yn eich enw priod unrhyw bryd hyd at dri mis cyn y briodas. Ond bydd y pasbort wedi'i 'ôl-ddyddio'. Mae hyn yn golygu na allwch ei ddefnyddio cyn diwrnod y seremoni. Ni fydd rhai gwledydd yn rhoi fisas ar gyfer pasbortau sydd wedi'u hôl-ddyddio. Dylech holi is-genhadaeth y wlad dan sylw.
Bydd angen y ffurflen (PD2) a'r daflen (PD1) 'Pasbortau ar gyfer Pobl sydd Newydd Briodi a Phartneriaid Sifil' arnoch, sy'n egluro beth y mae angen i chi ei wneud. Gallwch gael y rhain:
Mae angen i'r ffurflen gael ei chwblhau'n rhannol gennych chi ac yn rhannol gan y person a fydd yn cynnal y seremoni. Mae'r daflen yn egluro hyn yn fwy manwl.
Yna dylech wneud cais am eich pasbort yn y ffordd arferol ond bydd angen i chi ddarparu un ddogfen ychwanegol: y ffurflen (PD2) 'Pasbortau ar gyfer Pobl sydd Newydd Briodi a Phartneriaid Sifil' wedi'i llenwi.
I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:
- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000