Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pasportau a fisas

Bydd angen pasport deng mlynedd llawn arnoch os ydych chi'n dymuno teithio dramor. Mae'n bosib y bydd angen fisa arnoch hefyd, yn dibynnu ar y wlad yr ydych am ymweld â hi, a'ch rheswm dros deithio.

Pasportau

Y pethau sylfaenol

Y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS) fydd yn delio â cheisiadau am basport ac ymholiadau yn eu cylch.

Rhaid i basport fod yn ddilys ar gyfer taith gyfan. Os bydd eich pasport yn dod i ben pan fyddwch i ffwrdd, dylech gael pasport newydd cyn mynd.

Mae rhai gwledydd yn mynnu bod eich pasport yn ddilys am o leiaf chwe mis ar ôl y dyddiad y byddwch yn cyrraedd y wlad. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hyn, holwch is-genhadaeth neu lysgenhadaeth y wlad yn y DU.

Gofalu am eich pasport

Cyn ac yn ystod eich taith:

  • gwnewch nodyn o rif eich pasport, ei ddyddiad a'r man y cafodd ei gyhoeddi, a chadwch hwnnw mewn lle diogel ac ar wahân i'ch pasport
  • os oes cwpwrdd diogel yn eich gwesty, gadewch eich pasport yno yn ystod eich arhosiad gan gario llungopi gyda chi
  • gofalwch eich bod yn gwybod pryd mae'ch pasport yn dod i ben cyn teithio
  • ewch â manylion eich perthnasau agosaf gyda chi a gadewch gopi gyda ffrind neu berthynas
  • ewch â dogfen adnabod arall sy'n cynnwys eich llun gyda chi
  • rhowch wybod i is-genhadaeth neu lysgenhadaeth Prydain ar unwaith os aiff eich pasport ar goll neu os caiff ei ddwyn dramor

Faint mae pasport yn ei gostio?

Mae cost pasport DU yn amrywio gan ddibynnu ar sut y byddwch yn gwneud cais. Er enghraifft:

  • £72 am gais sylfaenol drwy'r post
  • £97 am wasanaeth cyflym wythnos o hyd
  • £46 am basport plentyn

Gellir cael manylion llawn am ffioedd pasport ar wefan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau, neu drwy ffonio'r Llinell Wybodaeth ar gyfer Ffioedd Pasport ar 0800 056 6654, neu'r gwasanaeth Ffôn Testun ar 0808 156 1559.

Gwneud cais am basport

Gellir gwneud cais am basport mewn pedair gwahanol ffordd:

  • ar-lein ar wefan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau
  • defnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon sy'n cael ei gynnig gan rai Swyddfeydd Post
  • drwy'r post gan ddefnyddio ffurflen (naill ai o Swyddfa'r Post neu gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau)
  • yn bersonol mewn swyddfa leol

Beth yw Gwirio ac Anfon?

Gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan rai Swyddfeydd Post yw'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon. Am ffi weinyddol byddant yn gwneud y canlynol:

  • gwneud yn siŵr bod eich ffurflen gais wedi'i llenwi'n gywir
  • gwneud yn siŵr eich bod wedi cynnwys yr holl ddogfennau atodol a'r ffi gywir
  • anfon y gwaith papur perthnasol a'ch ffi ar gyfer y pasport yn eu blaen yn uniongyrchol i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau.

Fel arfer, bydd ceisiadau sy'n cael eu hanfon drwy'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon yn cael eu prosesu'n gynt na cheisiadau safonol a anfonir drwy'r post. Dylech gael eich pasport mewn oddeutu dwy wythnos. Mae ceisiadau a anfonir drwy'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon hefyd yn llai tebygol o gael eu dychwelyd ac mae'n llai tebygol y bydd oedi wrth ymdrin â hwy.

Os ydych yn gwneud cais am eich pasport oedolyn cyntaf dylech ganiatáu hyd at chwe wythnos i'ch pasport gyrraedd. Mae'n debyg y bydd yn rhaid i chi gael cyfweliad gyda'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau

Cyfweliadau am basport

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, neu os yw'n debygol y byddwch yn 16 oed cyn y gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau roi pasport i chi, mae'n debyg y bydd angen i chi gael cyfweliad i brofi pwy ydych chi.

Bydd y cyfweliad yn helpu i gadarnhau mai eich cais chi a neb arall yw'ch cais am basport, ac yn gwneud yn siŵr mai chi yw'r perchennog cyfiawn.

Os oedd gennych basport plentyn, ni fydd angen i chi gael eich cyfweld er mwyn cael eich pasport oedolyn cyntaf. Dim ond os nad ydych erioed wedi cael pasport Prydeinig o'r blaen y bydd angen i chi fynd am gyfweliad.

Rydych yn gwneud cais yn y ffordd arferol ond ar ôl anfon eich ffurflen gais cewch lythyr yn gofyn i chi drefnu apwyntiad ar gyfer cyfweliad i brofi pwy ydych chi. Bydd y broses hon yn golygu y bydd yn cymryd mwy o amser i brosesu'ch cais, a dylech ganiatáu hyd at chwe wythnos i'ch pasport gyrraedd.

Fisas

Os ydych chi'n teithio i rywle y tu allan i diriogaethau Prydain, efallai y bydd angen i chi wneud cais am fisa gan is-genhadaeth neu lysgenhadaeth y wlad honno. Mae gan wefan y Swyddfa Dramor restr o fanylion cyswllt llysgenadaethau yn y DU. Mae gan rai gwledydd wefannau eu hunain sy'n rhoi gwybodaeth am fisas - mae gan wefan Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau, er enghraifft, fanylion am bwy sydd angen fisa i deithio i'r UDA.

Os ydych chi'n ddinesydd yn un o diriogaethau dibynnol Prydain, yn ddinesydd Prydeinig dramor, yn ddeiliad Prydeinig, yn frodor Prydeinig dramor, neu'n berson sydd wedi'i amddiffyn gan Brydain, efallai y bydd angen i chi wneud cais am fisa hyd yn oed os nad oes angen i ddinasyddion Prydeinig wneud hynny.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU