Mae gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau un ffurflen safonol ar gyfer pob math o gais unigol. Ceir cyfarwyddiadau llawn gyda'r ffurflen, p'un ai'r fersiwn bapur ynteu'r fersiwn ar-lein y byddwch yn ei llenwi. Yma, cewch wybod sut mae cael y ffurflen, faint yw'r ffi a pha ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu hanfon i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.
Mae'n costio £77.50 am wasanaeth safonol i adnewyddu pasbort 32 tudalen deg-mlynedd oedolyn, £112.50 am y Gwasanaeth wythnos Trac Cyflym a £129.50 am y gwasanaeth undydd Premiwm. Mae'r gwasanaeth safonol ar gyfer pasbort plentyn yn costio £49, mae'r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym yn £96.50 ac mae'r gwasanaeth undydd Premiwm yn £109.50.
Gallwch gael gwybodaeth fanwl yn yr adran 'Ffioedd pasbort, faint o amser mae'n gymryd a cheisiadau pasbort brys'.
Mae pedair ffordd y gallwch ei chael. Gallwch wneud y canlynol:
Os mai'r unig beth y mae arnoch eisiau ei wneud yw newid eich enw, dim ond chi fydd yn gorfod llofnodi'r ffurflen. Nid oes angen i neb arall ei llofnodi, oni bai fod eich ymddangosiad wedi newid yn sylweddol ers eich pasbort diwethaf, neu fod eich pasbort ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi.
Dylech lofnodi'r ffurflen yn adran 9 gyda'ch enw newydd. Defnyddiwch eich enw newydd hyd yn oed os ydych yn aros i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil ac nad ydych wedi newid eich enw'n swyddogol eto.
Bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystiolaeth i brofi eich bod wedi newid eich enw. Rhaid i chi anfon dogfennau gwreiddiol, nid copïau. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn dogfennau wedi'u lamineiddio fel tystiolaeth o newid enw.
Bydd angen i chi anfon:
a dogfennau ategol fel y manylir isod.
Bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gael ffurflen PD2, 'Pasbortau ar gyfer Pobl sydd Newydd Briodi a Phartneriaid Sifil'. I gael gwybodaeth am y ffurflen hon a sut mae cael gafael arni, dilynwch y ddolen isod.
Bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld dogfennau sy'n dangos y rheswm dros newid enw a'r dyddiad y gwnaethpwyd hynny.
Os ydych chi wedi newid eich enw fwy nag unwaith bydd angen i chi anfon tystiolaeth o bob newid i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Rhaid i'r dogfennau ddangos cysylltiad clir rhwng pob newid enw.
Ar gyfer menywod priod, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrif priodas.
Ar gyfer partneriaid sifil, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrif partneriaeth sifil.
Os ydych wedi newid eich enw yn ôl i'ch enw cyn priodi, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld:
Os ydych am newid yr enw ar eich pasbort gan eich bod wedi newid rhyw, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld eich gweithred newid enw ac un o'r canlynol:
Ym mhob achos arall, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld eich gweithred newid enw.