Mae'n rhaid i chi roi gwybod os ydych wedi colli eich pasbort neu os yw wedi'i ddwyn, hyd yn oed os nad ydych am gael un newydd yn ei le ar unwaith. Bydd angen i chi lenwi a llofnodi ffurflen Hysbysu am Basbort sydd ar Goll neu wedi'i Ddwyn a'i dychwelyd at y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau eich bod wedi colli eich pasbort neu ei fod wedi'i ddwyn. Bydd hyn yn lleihau'r risg o gael rhywun yn defnyddio eich pasbort neu eich hunaniaeth. I roi gwybod bod eich pasbort ar goll neu wedi'i ddwyn, dylech lenwi ffurflen Hysbysu am Basbort sydd ar Goll neu wedi'i Ddwyn (LS01) a'i dychwelyd i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Dylech hefyd ddweud wrth yr heddlu am bob achos o ddwyn pasbort. Bydd angen manylion cyfeirnod y trosedd arnoch ar gyfer y ffurflen LS01.
Gallwch wneud cais am basbort newydd ar yr un pryd a phan fyddwch yn rhoi gwybod bod eich pasbort wedi'i ddwyn ar yr amod eich bod:
Er mwyn cael pasbort newydd yr un pryd â phan fyddwch yn rhoi gwybod ei fod ar goll neu wedi'i ddwyn, ewch i 'Cael pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi'.
Dylech roi gwybod am bob achos o golli neu ddwyn pasbort wrth heddlu lleol y wlad rydych yn ymweld â hi cyn gynted â phosib. Bydd angen manylion cyfeirnod y trosedd y byddant yn eu darparu arnoch ar gyfer y ffurflen LS01.
Dylech roi gwybod bod y pasbort ar goll neu wedi'i ddwyn wrth lysgenhadaeth Swyddfa Dramor a Chymanwlad y DU, is-genhadaeth neu uwch gomisiwn y wlad rydych yn ymweld â hi. Gallwch gael manylion eich swyddfa Dramor a Chymanwlad leol ble bynnag yr ydych drwy ffonio +44 (0)20 7008 1500 (0870 606 0290 o fewn y DU) neu drwy ymweld â gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, bydd yn rhoi ffurflen Hysbysu am Basbort sydd ar Goll neu wedi'i Ddwyn (LS01) i chi ei llenwi a'i llofnodi. Gallwch hefyd lwytho'r ffurflen hon oddi ar y we os byddwch yn ei cholli neu os bydd angen copi arall arnoch.
Bydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cofnodi bod eich pasbort ar goll neu wedi'i ddwyn ac yna'n anfon yr wybodaeth at y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Yna bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn diddymu eich pasbort er mwyn lleihau'r risg o rywun arall yn defnyddio eich hunaniaeth.
Bydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn rhoi dogfennau teithio i chi yn lle eich pasbort fel y gallwch ddychwelyd i'r DU.
Gallwch wneud cais am basbort newydd unwaith y byddwch yn ôl yn y DU. Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell y dylech wneud hyn cyn gynted â phosib. Gallwch wneud cais am basbort newydd ar yr amod eich bod yn ddinesydd Prydeinig a'ch bod yn y DU pan rydych yn gwneud cais.
Os oedd eich plentyn wedi'i gynnwys ar eich pasbort sydd wedi mynd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi, ni ellir ei gynnwys ar eich pasbort newydd. Bydd angen i chi wneud cais am basbort plentyn cyntaf ar eu cyfer os ydynt dan 16 oed.
Os dewch o hyd i'ch pasbort ar ôl rhoi gwybod ei fod ar goll neu wedi'i ddwyn, mae'n rhaid i chi ei ddychwelyd i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Pan fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau wedi cael eich ffurflen Hysbysu am Basbort sydd ar Goll neu wedi'i Ddwyn (LS01) byddant yn diddymu eich pasbort. Unwaith y bydd hyn wedi'i wneud, ni allwch ei ddefnyddio i deithio, fel prawf cyfreithiol o'ch cenedligrwydd nac ar gyfer unrhyw ddiben cyfreithiol arall.
Os ydych wedi llenwi ffurflen ar-lein yn datgan eich bod wedi colli eich pasbort, ond y dewch o hyd i'ch pasbort cyn dychwelyd y ffurflen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau, peidiwch â llofnodi'r ffurflen y byddant yn ei hanfon atoch. Dylech ei dychwelyd gyda nodyn ar wahân yn cadarnhau eich bod wedi dod o hyd i'ch pasbort ac nad ydych am ei ddiddymu mwyach.
I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:
- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000