Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cael pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi

Os yw'ch pasbort ar goll neu wedi'i ddwyn bydd angen i chi gael un arall yn ei le cyn y cewch deithio'n rhyngwladol. Er ei bod efallai'n dal yn bosib defnyddio'r pasbort sydd wedi'i ddifrodi ac y gellir ei ddarllen, gallai rhai cwmnïau hedfan wrthod gadael i chi deithio. Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n argymell eich bod yn cael pasbort newydd yn lle un sydd wedi'i ddifrodi.

Beth i'w wneud am basbort sydd ar goll neu wedi'i ddwyn

Os yw'ch pasbort ar goll neu wedi'i ddwyn, mae'n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod mor fuan â phosib. Os caiff eich pasbort ei ddwyn fe ddylech roi gwybod i'r heddlu ar unwaith.

Os ydych chi'n dymuno gwneud cais am basbort arall a'ch bod:

  • yn ddinesydd Prydeinig
  • yn y DU pan rydych yn gwneud y cais

gallwch roi gwybod bod eich pasbort ar goll neu wedi'i ddwyn ar yr un pryd, gan ddilyn y cyfarwyddiadau isod.

Os nad ydych chi yn y DU, neu os nad oes arnoch eisiau cael pasbort newydd yn syth, dylech roi gwybod ei fod ar goll neu wedi'i ddwyn drwy ddilyn y ddolen isod.

Beth i'w wneud am basbort sydd wedi'i ddifrodi

Does dim angen i chi roi gwybod am basbort sydd wedi'i ddifrodi, ond os yw'ch pasbort wedi'i ddifrodi y tu hwnt i reswm, efallai na fydd rhai cwmnïau hedfan yn gadael i chi deithio. Am y rheswm hwn, mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n argymell i chi wneud cais am basbort arall mor fuan ag y bo modd.

Bydd angen i chi anfon y pasbort wedi'i ddifrodi i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau pan fyddwch yn gwneud cais am un arall. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei ddychwelyd pan fydd wedi profi pwy ydych chi a phan fydd wedi cadarnhau nas ymyrrwyd â'r pasbort at ddibenion troseddol. Mae 'ymyrryd at ddibenion troseddol' yn golygu rhywun yn ceisio newid y manylion adnabod neu'r llun ar basbort, er enghraifft, i'w ddefnyddio'n anghyfreithlon.

Os oedd eich plentyn wedi'i gynnwys ar y pasbort

Os oedd eich plentyn wedi'i gynnwys ar eich pasbort, a bod eich pasbort ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi, ni ellir cynnwys eich plentyn ar eich pasbort newydd. Erbyn hyn, rhaid i bob plentyn gael ei basbort ei hun i deithio dramor. Dylech wneud cais am basbort plentyn cyntaf ar eu rhan os ydynt yn iau nag 16 oed. Os ydynt yn 16 oed neu'n hŷn gallant wneud cais am basbort oedolyn.

Cost pasbort newydd

Mae pasbort oedolyn yn costio £77.50 gyda'r gwasanaeth safonol a £112.50 gyda'r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym. Mae pasbort plentyn yn costio £49 gyda'r gwasanaeth safonol ac £96.50 gyda'r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym. Nid yw'r gwasanaeth undydd Premiwm ar gael os oes angen pasbort newydd arnoch yn lle un arall.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl yn 'Tabl o ffioedd pasbort, sut mae talu ac ad-daliadau'.

Y ffurflen gais am basbort

I gael pasbort newydd yn lle un arall mae angen i chi lenwi a chyflwyno ffurflen gais safonol y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Bydd cyfarwyddiadau llawn gyda'r ffurflen, p'un ai'r fersiwn bapur ynteu'r fersiwn ar-lein y byddwch yn ei llenwi.

Sut i gael y ffurflen gais am basbort

Mae pedair ffordd o gael ffurflen. Gallwch wneud y canlynol:

  • ei chasglu o gangen Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon Pasbortau
  • gofyn am ffurflen gais ar-lein a bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn anfon un atoch drwy'r post
  • ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000 a gofyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau anfon un atoch drwy'r post
  • llenwi a chyflwyno'r ffurflen gais ar-lein, a bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argraffu'r ffurflen wedi'i chwblhau ac yn ei hanfon atoch er mwyn i chi ei llofnodi a'i dychwelyd gyda'r dogfennau ategol

Pwy sy'n gorfod llofnodi'r ffurflen gais am basbort

Os ydych chi'n gwneud cais am basbort newydd yn lle un arall dylech chi lofnodi'r ffurflen yn adran 9 a sicrhau bod rhywun yn ei hadlofnodi yn adran 10.

Dylai'r unigolyn y byddwch yn gofyn iddo adlofnodi fod yn rhywun sydd wedi eich adnabod am o leiaf dwy flynedd. Mae'n ofynnol:

  • ei fod dros 18
  • fod ganddo basbort Prydeinig neu Wyddelig cyfredol
  • ei fod yn fodlon ysgrifennu eu rhif pasbort ar y ffurflen

Dylai fod yn gweithio mewn proffesiwn cydnabyddedig neu fel arall fod ag enw da yn y gymuned. Fe welwch restr o broffesiynau addas drwy ddilyn y ddolen i 'Pwy gaiff adlofnodi eich cais?'

Mae angen i'r un person ardystio un o'ch lluniau. Gwneir hyn drwy ysgrifennu'r canlynol ar gefn y llun:

  • 'Tystiaf fod hwn yn dangos gwir debygrwydd i [Miss, Mr, Mrs, Ms neu deitl arall a'ch enw llawn]'

Yna, rhaid iddo lofnodi a dyddio'r datganiad.

Y dogfennau ategol y mae eu hangen i gael pasbort newydd yn lle un arall

Yn ogystal â'r ffurflen gais, y ffi a'r lluniau, dylech anfon y canlynol i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau:

  • Ffurflen Hysbysu am Basbort sydd ar Goll neu wedi'i Ddwyn (LS01) (os yw hyn yn berthnasol ac nad ydych wedi'i hanfon yn barod)
  • y pasbort a ddifrodwyd (os yw hyn yn berthnasol)

Efallai y bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n gofyn i chi ddarparu dogfennau eraill megis tystysgrif geni neu briodas.

Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n diddymu'r pasbort sydd ar goll neu wedi'i ddwyn. Os byddwch yn dod o hyd iddo yn nes ymlaen rhaid i chi ei ddychwelyd i Swyddfa Basbort Ranbarthol.

Ffurflen Hysbysu am Basbort sydd ar Goll neu wedi'i Ddwyn (LS01)

Gallwch lwytho'r ffurflen oddi ar y we neu ei chael:

  • drwy ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000
  • yn eich Swyddfa Basbort Ranbarthol
  • yn eich gorsaf heddlu leol
  • mewn rhai canghennau Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon

Gallwch hefyd ei llenwi ar-lein. Yn yr achos hwn bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argraffu'r ffurflen a gwblhawyd ac yn ei hanfon atoch er mwyn i chi ei llofnodi a'i dychwelyd gyda'r dogfennau ategol.

Os oes angen pasbort newydd arnoch ar frys

Os oes arnoch angen teithio mewn llai na phythefnos dylech wneud cais brys am basbort newydd. Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym (nid yw'r gwasanaeth undydd Premiwm ar gael ar gyfer cael pasbort newydd yn lle un arall). Yn gyntaf, dylech ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000 i drefnu apwyntiad mewn Swyddfa Basbort Ranbarthol.

Additional links

Llinell Gymorth Pasbortau

I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:

- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000

Allweddumynediad llywodraeth y DU