Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dychwelyd pasbort person a fu farw

Os bydd deiliad pasbort yn marw ac na chaiff ei basbort ei ddiddymu, yna mae risg y gallai rhywun ddefnyddio ei hunaniaeth yn anghyfreithlon. Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ganslo pasbort person a fu farw ar eu cronfa ddata, hyd yn oed os na allwch ddod o hyd i'r pasbort er mwyn ei ddychwelyd.

Beth y mae angen i chi ei wneud

Mae'n bwysig y caiff pasbort person a fu farw ei ganslo fel na ellir ei ddefnyddio'n anghyfreithlon. Os ydych yn gyfrifol am eiddo person a fu farw dylech ddychwelyd y pasbort i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau pryd bynnag y bo'n bosib. Dylech roi gwybod i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau pan fydd deiliad pasbort wedi marw.

Sut mae dychwelyd pasbort person a fu farw

Os ydych yn y DU dylech anfon y pasbort neu fynd ag ef i'ch Swyddfa Basbort Ranbarthol agosaf. Dylech hefyd gynnwys copi wedi'i lenwi o'r ffurflen 'Beth i'w wneud pan fydd deiliad pasbort wedi marw'. Gallwch gael gafael ar y ffurflen ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod neu gallwch ofyn am gopi drwy ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000.

Os ydych dramor, dylech anfon y pasbort i'ch llysgenhadaeth, eich uwch gomisiwn neu'ch is-genhadaeth Brydeinig agosaf. Dylech hefyd gynnwys copi wedi'i lenwi o'r ffurflen 'Beth i'w wneud pan fydd deiliad pasbort wedi marw'.

At ddibenion diogelwch, cyn ei phostio, dylech dorri cornel uchaf ochr dde clawr blaen y pasbort - mae hyn yn atal neb rhag ei ddefnyddio eto.

Pan fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn cael y pasbort byddant yn ei ganslo ar y gronfa ddata pasbortau ac yn:

  • cael gwared arno'n ddiogel ar eich rhan
  • ei ddychwelyd atoch

Os hoffech i'r pasbort gael ei ddychwelyd atoch, bydd angen i chi roi gwybod i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau drwy dicio blwch ar y ffurflen. Oni fyddwch yn gofyn iddo gael ei ddychwelyd, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn cael gwared ar y pasbort unwaith y byddant wedi'i ddiddymu.

Rhestr wirio - dychwelyd pasbort person a fu farw

Pan fyddwch yn dychwelyd pasbort person a fu farw i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau neu lysgenhadaeth, is-genhadaeth neu uwch gomisiwn Prydeinig, dylech gynnwys y canlynol:

  • y pasbort, ar ôl torri cornel uchaf ochr dde'r clawr
  • ffurflen 'Beth i'w wneud pan fydd deiliad pasbort wedi marw' wedi'i llenwi (bydd angen rhif y dystysgrif marwolaeth arnoch) lle rydych wedi nodi p'un ai a ydych am i'r pasbort gael ei ddychwelyd atoch ai peidio

Os na allwch ddod o hyd i basbort y person a fu farw

Os yw'r pasbort ar goll neu os nad yw ar gael eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod am hyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Dylech gysylltu â'ch Swyddfa Basbort Ranbarthol agosaf os ydych yn y DU. Os ydych y tu allan i'r DU, dylech gysylltu â'ch llysgenhadaeth, eich is-genhadaeth neu'ch uwch gomisiwn Prydeinig agosaf.

Bydd angen i chi anfon neu fynd â'r canlynol i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau:

  • ffurflen Hysbysu am Basbort sydd ar Goll neu wedi'i Ddwyn (LS01) wedi'i llenwi
  • copi gwreiddiol (nid llungopi) o'r dystysgrif marwolaeth
  • ffurflen 'Beth i'w wneud pan fydd deiliad pasbort wedi marw' wedi'i llenwi

Mwy o gymorth ar ôl i rywun farw

Os oes rhywun wedi marw ac mai chi sy'n gyfrifol am ddelio â'u materion, gallwch gael mwy o gymorth a chyngor yn adran 'Beth i'w wneud ar ôl marwolaeth' Directgov.

Additional links

Llinell Gymorth Pasbortau

I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:

- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000

Allweddumynediad llywodraeth y DU