Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pwy gaiff wneud cais i adnewyddu pasbort oedolyn a phryd

Yma, cewch wybod sut mae adnewyddu eich pasbort a faint o amser y mae'n ei gymryd i wneud hynny. Does dim rhaid i chi aros i'ch pasbort ddod i ben - gallwch ei adnewyddu unrhyw adeg. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn diddymu eich hen basbort pan fydd yn rhoi un newydd i chi.

Pwy gaiff adnewyddu eu pasbort

Gallwch wneud cais i adnewyddu eich pasbort os yw'ch pasbort diwethaf yn dal gennych a bod y canlynol yn wir:

  • roedd yn basbort deg-mlynedd safonol i oedolyn yn y DU neu'n basbort pum-mlynedd i blentyn yn y DU a roddwyd i chi cyn eich pen-blwydd yn 16 oed
  • nid yw wedi'i ddifrodi
  • does dim angen i chi newid eich enw na'ch statws gwladol

Chewch chi ddim adnewyddu eich pasbort:

  • os mai plentyn ar basbort rhywun arall oeddech yn flaenorol

Yn yr achos hwn bydd angen i chi wneud cais am eich pasbort oedolyn cyntaf

Os ydych chi'n newid eich enw

Os ydych chi am i'ch pasbort newydd ddangos enw gwahanol i'r enw ar eich pasbort presennol, dylech ddarllen 'Gwybodaeth am newid enw a phasbortau'.

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU

Os nad ydych yn byw yn y DU, gallwch chi'n bersonol wneud cais i adnewyddu eich pasbort tra byddwch yn ymweld â'r DU. I wneud hyn bydd angen i chi ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar +44 (0)300 222 0000 i drefnu apwyntiad mewn Swyddfa Basbort Ranbarthol. Rhaid i chi hefyd ddarparu cyfeiriad yn y DU er mwyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau allu postio'r pasbort i chi.

Ni all y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau dderbyn ceisiadau sydd wedi'u hanfon o dramor. Os ydych chi am adnewyddu neu wneud cais am Basbort Prydeinig eich plentyn tra'ch bod yn byw dramor, rhaid i chi gysylltu â’ch is-genhadaeth, eich uchel gomisiwn neu eich llysgenhadaeth leol.

Gan ei fod yn cymryd tua phedair wythnos i roi pasbort dramor fel arfer, ni ddylech wneud cynlluniau teithio yn ystod y cyfnod hwn. Os ydych yn gwneud cais am basbort Prydeinig cyntaf ar gyfer eich plentyn, dylech ganiatáu chwe wythnos. Efallai hefyd y bydd gofyn i chi gael cyfweliad. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’ch is-genhadaeth, eich uchel gomisiwn neu eich llysgenhadaeth leol.

Ymestyn pasbort cyfyngedig

Os rhoddwyd eich hen basbort i chi gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau am gyfnod cyfyngedig (blwyddyn neu lai), dylech ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000 i gael mwy o wybodaeth am wneud cais.

Ni fydd modd i chi ddefnyddio'r gwasanaeth undydd Premiwm, gan nad yw hwn ar gael ar gyfer ymestyn pasbortau.

Pryd y dylech wneud cais

Does dim rhaid i chi aros i'ch hen basbort ddod i ben cyn gwneud cais i'w adnewyddu. Os oes unrhyw amser yn weddill ar eich hen basbort, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei ychwanegu at eich pasbort newydd, ond ni ellir ychwanegu mwy na naw mis. Gallwch adnewyddu eich pasbort pryd bynnag y dymunwch, ond ni all y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau drosglwyddo mwy na naw mis o'ch hen basbort i'ch pasbort newydd.

Pryd bynnag y byddwch yn adnewyddu, bydd angen i chi dalu'r ffi lawn ac ni chewch arian yn ôl am unrhyw amser sy'n weddill ar eich hen basbort.

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell yn gryf i chi beidio â threfnu i fynd i deithio cyn i'ch pasbort newydd gyrraedd.

Ceisiadau safonol

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ceisio prosesu ceisiadau mewn oddeutu tair wythnos o'r adeg y cyrhaeddant y Swyddfa Basbort. Nid yw hyn yn cynnwys cyfnod yn y post, a gall ceisiadau gymryd mwy o amser ar adegau prysur o'r flwyddyn.

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell eich bod yn defnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon sy'n cael ei gynnig gan ambell gangen o Swyddfa'r Post. I gael mwy o wybodaeth, ac i ddod o hyd i gangen Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth hwn yn eich ardal chi, dilynwch y ddolen isod.

Ceisiadau brys

Os oes angen i chi adnewyddu eich pasbort o fewn pythefnos, dylech ddefnyddio gwasanaeth wythnos Trac Cyflym neu wasanaeth undydd Premiwm y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Rhaid trefnu apwyntiad ar gyfer y gwasanaethau hyn. I'w defnyddio, bydd angen i chi ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000 i drefnu apwyntiad mewn Swyddfa Basbort Ranbarthol.

Am wybodaeth fanylach ewch i 'Ceisiadau brys am basbort'.

Cofiwch nad yw'r gwasanaeth undydd Premiwm ar gael ar gyfer ymestyn pasbort.

Y camau nesaf - adnewyddu pasbort oedolyn

I gael ffurflen gais, gweld beth yw'r ffi a chael gwybod pa ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu darparu, dilynwch y ddolen isod.

Additional links

Llinell Gymorth Pasbortau

I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:

- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000

Allweddumynediad llywodraeth y DU