Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grwpiau cenedligrwydd sy'n gymwys i gael pasbort Prydeinig

Rydych yn gymwys i gael pasbort Prydeinig os ydych yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd yn un o diriogaethau tramor Prydain, yn ddinesydd Prydeinig (dramor), yn ddinesydd Prydeinig dramor, yn ddeiliad Prydeinig neu'n berson wedi'i warchod gan Brydain.

Mathau o ddinasyddiaeth Brydeinig

Angen rhagor o help?

Gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000. Edrychwch ar wefan Asiantaeth Ffiniau’r DU i gael mwy o wybodaeth am genedligrwydd a dinasyddiaeth Brydeinig.

Gallwch wneud cais am basbort Prydeinig os ydych yn un o'r canlynol:

  • Dinesydd Prydeinig
  • Dinesydd yn un o diriogaethau tramor Prydain
  • Dinesydd Prydeinig dramor
  • Deiliad Prydeinig
  • Dinesydd Prydeinig (dramor)
  • Person wedi'i amddiffyn gan Brydain

Os credwch eich bod yn gymwys drwy eich mam, eich partner neu o ganlyniad i ble rydych yn byw, dilynwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth.

Fisas os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig

Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig ond bod gennych basbort Prydeinig, efallai na fydd angen i ddinasyddion Prydeinig gael fisas ychwanegol. Dylech holi eich asiant teithio neu is-genhadaeth neu lysgenhadaeth y wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi i weld a oes angen fisa arnoch.

Sut mae gwybod os ydych yn ddinesydd Prydeinig

Os cawsoch eich geni cyn 1 Ionawr 1983

Ar 1 Ionawr 1983, daeth unrhyw un a oedd yn ddinesydd y DU a'r Gwladfeydd ar 31 Rhagfyr 1982, a bod ganddo'r 'hawl i breswylio' yn y DU, yn ddinesydd Prydeinig.

Ystyr 'hawl i breswylio' yw nad yw Rheolau Mewnfudo y DU yn berthnasol i chi ac nad oes yn rhaid i chi gael caniatâd gan Swyddog Mewnfudo i ddod i'r DU a chewch fyw a gweithio yn y DU heb gyfyngiad.

Mae hyn yn cynnwys pobl:

  • a gafodd eu geni yn y DU
  • a gafodd eu geni mewn Gwladfa Brydeinig gyda'r hawl i breswylio yn y DU
  • sydd wedi brodori yn y DU
  • a oedd wedi cofrestru fel dinesydd y DU a'r Gwladfeydd
  • a allai brofi tarddiad cyfreithiol o dad y mae un o'r rhain yn berthnasol iddo

Nid yw pobl a chanddynt yr hawl i fyw yn y DU ond nid yr 'hawl i breswylio' yn ddinasyddion Prydeinig.

Os cawsoch eich geni ar ôl 31 Rhagfyr 1982

Nid yw cael eich geni yn y DU yn rhoi dinasyddiaeth Brydeinig yn awtomatig i chi.

Os cawsoch eich geni ar ôl 31 Rhagfyr 1982, byddwch yn ddinesydd Prydeinig os oedd eich mam neu'ch tad* yn ddinesydd Prydeinig neu wedi 'setlo' yn y DU pan gawsoch eich geni.

Yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn ddinesydd Prydeinig os cafodd eich mam neu'ch tad* eu geni yn y DU neu os gwnaethant frodori yno.

Ceir sefyllfaoedd eraill lle gellir trosglwyddo cenedligrwydd Prydeinig mam neu dad* i'w plant a gafodd eu geni dramor. Ffoniwch y Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000 os credwch fod hyn yn berthnasol i chi.

*Nodyn ar dadau

Tan fis Gorffennaf 2006, nid oedd tadau Prydeinig nad oeddent wedi priodi yn cael trosglwyddo eu cenedligrwydd Prydeinig.

Os cawsoch eich geni cyn hynny, dim ond os bydd eich tad wedi priodi eich mam y caiff drosglwyddo ei genedligrwydd Prydeinig. Nid oes gwahaniaeth os oeddent yn briod cyn neu ar ôl i chi gael eich geni.

Sut mae gwybod os ydych yn ddinesydd yn un o diriogaethau tramor Prydain

Cyn Deddf Tiriogaethau Tramor Prydain 2002, cyfeiriwyd at ddinasyddion yn un o diriogaethau tramor Prydain fel dinasyddion yn un o Diriogaethau Dibynnol Prydain.

Mae dinasyddiaeth dinasyddion yn un o Diriogaethau Tramor Prydain yn deillio o gysylltiad â thiriogaeth sy'n dal i ddibynnu ar Brydain, fel Gibraltar neu Bermwda.

Gyda Deddf Tiriogaethau Tramor Prydain 2002, daeth y rhan fwyaf o bobl a chanddynt basbort Dinasyddion yn un o Diriogaethau Dibynnol Prydain yn ddinasyddion Prydeinig yn awtomatig. Dim ond i bobl lle'r oedd eu statws yn deillio o'u cysylltiad ag Akrotiri a Dhekelia yn Cyprus yn unig nad oedd hyn yn berthnasol iddynt.

Mae'r Ddeddf yn sicrhau dinasyddiaeth Brydeinig yn ogystal â dinasyddiaeth yn un o diriogaethau tramor Prydain.

Os oeddech yn Ddinesydd yn un o Diriogaethau Dibynnol Prydain a ddaeth yn Ddinesydd yn un o Diriogaethau Tramor Prydain ym mis Mai 2002, gallwch ddewis gwneud un o'r canlynol:

  • adnewyddu eich pasbort Dinesydd yn un o Diriogaethau Dibynnol Prydain i basbort Dinesydd yn un o Diriogaethau Tramor Prydain
  • gwneud cais am basbort dinesydd Prydeinig

Pan ddaw eich pasbort Dinesydd yn un o Diriogaethau Dibynnol Prydain i ben, gallwch wneud cais i'w adnewyddu fel pasbort Dinesydd yn un o Diriogaethau Tramor Prydain yn y ffordd arferol. Does dim rhaid i chi gael rhywun i adlofnodi'r ffurflen.

Os byddwch yn gwneud cais am basbort dinesydd Prydeinig, caiff ei drin fel cais am y tro cyntaf. Bydd angen i chi ddarparu ffurflen wedi'i hadlofnodi a dogfennau ategol gwreiddiol. Caiff eich pasbort cyfredol ei ddychwelyd atoch ac ni chaiff ei ganslo.

Dylech nodi ar eich cais p'un ai a ydych yn gwneud cais am basbort dinesydd Prydeinig neu basbort Dinesydd Prydeinig yn un o Diriogaethau Tramor Prydain.

Sut mae gwybod os ydych yn ddinesydd Prydeinig dramor

Mae dinasyddion Prydeinig dramor yn bobl a chanddynt gysylltiad â chyn wladfa Brydeinig (fel Kenya) ac na ddaethant:

  • yn ddinasyddion y wlad honno pan ddaeth yn annibynnol
  • yn ddinasyddion Prydeinig

Sut mae gwybod os ydych yn ddeiliad Prydeinig

Yn gyffredinol, cafodd deiliaid Prydeinig eu geni cyn 1 Ionawr 1949 ac yr oedd ganddynt gysylltiad ag India Brydeinig neu â Gweriniaeth Iwerddon (De Iwerddon).

Sut mae gwybod os ydych yn ddinesydd Prydeinig (dramor)

Mae dinasyddion Prydeinig (dramor) yn gyn ddinasyddion yn un o diriogaethau dibynnol Prydain a chanddynt gysylltiad â Hong Kong.

Sut mae gwybod os ydych yn berson wedi'i amddiffyn gan Brydain

Mae'r rhain yn bobl a chanddynt gysylltiad â thiriogaethau a oedd yn arfer bod yn ddiffynwriaethau Prydeinig, yn wladwriaethau wedi'u hamddiffyn neu'n diriogaethau ymddiriedaeth.

Beth i’w wneud os nad ydych chi'n siŵr o hyd

Os nad ydych yn siŵr o hyd, fe gewch fwy o wybodaeth am Ddinasyddiaeth Brydeinig ar wefan Asiantaeth Ffiniau’r DU

Additional links

Llinell Gymorth Pasbortau

I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:

- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000

Allweddumynediad llywodraeth y DU