Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tabl o ffioedd pasbort, sut mae talu ac ad-daliadau

Mae ffioedd pasbort yn amrywio gan ddibynnu ar y math o gais a'r gwasanaeth rydych yn ei ddefnyddio. Mae'r gwasanaethau cynt yn ddrutach. Dyma ganllaw i'r costau a sut mae talu. Mae'n bosib y gallwch gael ad-daliad os na fydd y gwasanaeth Premiwm neu'r gwasanaeth Trac Cyflym yn bodloni'r amseroedd y maent yn eu gwarantu.

Tabl o ffioedd pasbort

Nodir y ffioedd pasbort cyfredol yn y tabl

 

Drwy'r post

Gwasanaeth Gwirio ac
Anfon
*

Gwasanaeth
wythnos
Trac Cyflym

Gwasanaeth
undydd
Premiwm

Pasbort oedolyn
cyntaf**
(gan gynnwys
cyfweliad
am basbort)

£77.50

£77.50

AMH

AMH

Cael pasbort newydd yn lle un sydd
ar goll
neu wedi'i ddwyn

£77.50

£77.50

£112.50

AMH

Pasbort plentyn
cyntaf
a phan
oedd y plentyn
wedi'i gynnwys
ar basbort
rhiant cyn hynny

£49

£49

£96.50

AMH

Cael pasbort plentyn
newydd
yn lle un sydd ar goll,
wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi

£49

£49

£96.50

AMH

Adnewyddu neu
newid
pasbort oedolyn
presennol**

£77.50

£77.50

£112.50

£129.50

Adnewyddu neu
newid
pasbort presennol
plentyn**

£49

£49

£96.50

£109.50

Ymestyn
pasbort plentyn
a chanddo
ddilysrwydd cyfyngedig
a gyhoeddwyd cyn
1 Mai 2008

Am ddim

Am ddim

Am ddim

AMH

Ymestyn
pasbort plentyn
a chanddo
ddilysrwydd cyfyngedig
a gyhoeddwyd
ar
1 Mai 2008 neu ar ôl hynny

£49

£49

£96.50

AMH

Ymestyn
pasbort
oedolyn
a chanddo ddilysrwydd cyfyngedig
a gyhoeddwyd cyn
1 Mai 2008

Am ddim

Am ddim

Am ddim

Am ddim

Ymestyn
pasbort
oedolyn
a chanddo ddilysrwydd cyfyngedig
a gyhoeddwyd ar
1 Mai 2008 neu ar ôl hynny

£77.50

£77.50

£112.50

AMH

Pasbort mawr
(48 tudalen)
(nid yw hwn ar gael
i blant)

£90.50

£90.50

£120.50

£138.50***

* Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell y gwasanaeth hwn. Yn ogystal â'r ffi a nodir, mae'n rhaid i chi dalu ffi weinyddol i Swyddfa'r Post. Mae'r ffi yn £6.85 ar hyn o bryd.

** Os cawsoch eich geni ar 2 Medi 1929 neu cyn hynny, rydych yn gymwys i gael pasbort deg-mlynedd 32-tudalen safonol am ddim. Ar gyfer y gwasanaeth Trac Cyflym a'r gwasanaeth Premiwm, rydych yn talu'r gwahaniaeth rhwng ffi safonol y pasbort a'r ffi ar gyfer y gwasanaeth gwell wrth y cownter. Er enghraifft, y ffi arferol ar gyfer y gwasanaeth Trac Cyflym yw £97 llai'r ffi pasbort safonol o £72. Felly byddech yn talu ffi o £25.

*** Dim ond gyda'r gwasanaeth Premiwm y gellir cael pasbort mawr os ydych yn gwneud cais i adnewyddu pasbort presennol.

Amseroedd prosesu

Mae'r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym a'r gwasanaeth undydd Premiwm yn sicr o'ch cyrraedd, ond nid yw'r un fath yn wir am amseroedd y gwasanaeth Gwirio ac Anfon a'r gwasanaeth safonol drwy'r post. Gall y rhain amrywio yn ôl y galw.

Mae'n rhaid i chi bob amser wneud apwyntiad i wneud cais personol gan ddefnyddio'r gwasanaeth Premiwm neu'r gwasanaeth Trac Cyflym. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000.

I gael gweld yr amseroedd prosesu cyfredol ewch i 'Amserlen ar gyfer ceisiadau am basbortau'. Ewch i 'Ceisiadau brys am basbortau' i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth Trac Cyflym a'r gwasanaeth Premiwm.

Beth y mae'r ffi yn ei gynnwys

Nid yw'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn gwneud elw. Mae ffioedd pasbort yn cynnwys y costau o ddarparu gwasanaethau pasbort yn y DU.

Gelwir rhan o'r ffi yn 'bremiwm is-genhadaeth' a chaiff ei hychwanegu gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Mae'n talu am y costau o ddarparu'r cymorth sydd ar gael gan is-genhadon i ddinasyddion Prydeinig sy'n canfod eu hunain mewn trafferthion tra byddant dramor.

Postio

Mae'r ffi pasbort yn cynnwys dychwelyd eich pasbort newydd drwy Gludiant Diogel (Secure Delivery) a dychwelyd eich dogfennau ategol drwy bost ail ddosbarth.

Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd ddychwelyd eich dogfennau ategol drwy Gludiant Diogel am ffi ychwanegol o £3. Caiff y ffi hon ei hepgor:

  • os byddwch yn adnewyddu eich pasbort am basbort mawr 48 tudalen
  • os cawsoch eich geni cyn 2 Medi 1929

Ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn talu am ddifrod neu oedi o ganlyniad i ddefnyddio gwasanaethau post dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth y Post Brenhinol.

Pryd allwch chi hawlio ad-daliad ffi Premiwm/Trac Cyflym

Gallwch hawlio ad-daliad ffi Premiwm/Trac Cyflym (nid y ffi safonol) os na fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn llwyddo i ddarparu'r gwasanaeth o fewn yr amser penodedig. Fodd bynnag, ni wnaiff y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ad-dalu'r ffi os oedd yr amgylchiadau pam nad oeddent wedi llwyddo i ddarparu'r gwasanaeth y tu hwnt i'w rheolaeth resymol.

Gallwch hefyd hawlio ad-daliad am ffi'r gwasanaeth Premiwm neu'r gwasanaeth Trac Cyflym ar sail tosturi os:

  • bydd angen i chi deithio ar frys o ganlyniad i farwolaeth neu salwch difrifol aelod o'r teulu, ffrind neu gydweithiwr
  • ydych yn teithio dramor i gael triniaeth feddygol
  • ydych yn ddifrifol wael, neu'n ofalwr am rywun difrifol wael, a bod eith taith wedi'i threfnu gan fudiad elusennol/crefyddol

Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn asesu pob cais ad-daliad yn unol â'i feini prawf ei hun.

Gallwch lwytho ffurflen Hawlio Ad-daliad yma neu ofyn am un drwy ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000. Darllenwch y nodiadau a ddaw gyda'r ffurflen a llenwch bob adran cyn ei hanfon at y Swyddfa Basbort lle gwnaethoch eich cais.

Nodyn ar amser prosesu'r gwasanaeth Premiwm

Mae gwasanaeth undydd Premiwm ar gael yn ystod yr wythnos ar gyfer apwyntiadau cyn:

  • 4.00 pm yn Llundain
  • 1.30 pm yn Lerpwl
  • 1.00 pm yn Peterborough
  • 12.30 pm yn Glasgow a Chasnewydd
  • 12.00 yn Belffast a Durham

Ar ddydd Sadwrn, mae'r gwasanaeth undydd Premiwm ar gael ar gyfer apwyntiadau cyn 11.00am.

Bydd yn rhaid aros pedair awr am eich pasbort rhwng yr amser y caiff eich cais ei dderbyn a'r amser y cewch dderbynneb gan yr ariannwr.

Sut mae talu

Os ydych yn gwneud cais drwy wasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post, gallwch dalu wyneb yn wyneb (codir tâl am y gwasanaeth hwn) gydag:

  • arian parod
  • siec (wedi'i gwneud yn daladwy i 'Swyddfa'r Post Cyf')
  • cerdyn debyd
  • cerdyn credyd

Os ydych yn gwneud cais drwy'r post, gallwch dalu gyda:

  • siec
  • archeb bost
  • cerdyn credyd neu gerdyn debyd (llenwch y cyfarwyddyd yn y pecyn cais am basbort)

Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.

Ar gyfer ceisiadau drwy'r post, gwnewch eich siec neu'ch archeb bost yn daladwy i'r 'Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'.

Os ydych yn gwneud cais wyneb yn wyneb mewn Swyddfa Basbort Ranbarthol gyda:

  • cherdyn credyd neu gerdyn debyd
  • siec bersonol gyda cherdyn gwarant siec
  • archeb bost
  • arian parod

Additional links

Llinell Gymorth Pasbortau

I gael cymorth cysylltwch â Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar:

- 0300 222 0000
- ffôn testun 0300 222 0222
- Typetalk 18001 0300 222 0000

Allweddumynediad llywodraeth y DU